The essential journalist news source
Back
15.
February
2019.
Caerdydd yn ystyried cynigion i bontio’r diffyg o £32.4m yn y gyllideb

 

 

Mae cynorthwyo'r digartref, rhagor o lanhau cymdogaethau'n drylwyr, ffyrdd gwell a chynnal llwybrau bws yn y ddinas ymhlith rhai o'r cynigion ar gyfer cyllideb Cyngor Caerdydd yn 2019/20.

 

Dywedodd y Cyng Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rydyn ni wedi gwrando ar farn y dinasyddion ac wedi ceisio llunio cyllideb sy'n cyflenwi anghenion pobl Caerdydd er gwaethaf y toriadau parhaus rydym yn eu hwynebu. Yn y flwyddyn a ddaw, bydd rhaid i ni gau diffyg o £32.4m yn ein cyllideb, yn ychwanegol i £218m o doriadau a wnaed dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

"Mae mantoli'r llyfrau a chynnal y gwasanaethau mae ein dinasyddion yn eu dymuno yn mynd yn anos bob blwyddyn, ond mae gennym uchelgeisiau ar gyfer Caerdydd ac rydyn ni am i'n dinas fod yn lle gwych i fyw a gweithredu busnes ynddo. Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn y newyddion yn gwybod bod cynghorau ar draws y DU yn ei chael hi'n anodd cael dau ben y llinyn ynghyd ac mae cyfraddau'r Dreth Gyngor yn codi i wneud iawn am hynny. Dydy Caerdydd ddim yn eithriad, ond mae pob ceiniog a gawn yn cael ei defnyddio i ddarparu'r gwasanaethau sydd bwysicaf i'n preswylwyr."

Cymerodd dros 2,000 o breswylwyr ran yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb, a geisiodd farn y bobl ar bopeth o ostwng cymorthdaliadau digwyddiadau i greu rhagor o lwybrau cerdded i ysgolion.

 Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried y cynigion yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 21 Chwefror. Os cytunir ar y cynigion, aiff y rhain ymlaen i'r Cyngor Llawn, ar 28 Chwefror, i'w cadarnhau.

Mae'r weinyddiaeth yn cynnig pontio'r diffyg o £32.4m yn y gyllideb trwy wneud y canlynol:

  • Arbedion o £19m ledled cyfarwyddiaethau'r Cyngor;
  • Defnyddio £2.75m o arian wrth gefn;
  • Gweithredu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.9% (gan godi refeniw o £6.7m);
  • Capio £3.5m ar dwf ysgolion (bydd ysgolion yn derbyn 4.5% yn ychwanegol eleni, neu £10.4m o arian);

 

 

Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Bydd codi'r Dreth Gyngor 4.9% yn costio £1.09 yn ychwanegol yr wythnos i eiddo Band D, a aiff beth o'r ffordd tuag at bontio'r diffyg o £32.4m.Bydd yn ein galluogi i barhau i ddarparu'r gwasanaethau mae ein dinasyddion eu heisiau, gan gynnwys cymdogaethau glanach, mynd i'r afael â digartrefedd a chysgu allan a diogelu cyllidebau ysgolion.

 

"Wrth gwrs, bydd yn rhaid gwneud rhan fwyaf yr arbedion - £19m - yn y Cyngor. Golyga hyn y bydd rhagor o newid i'n gwaith ac i'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig. Yn anffodus, bydd rhywfaint o golli swyddi hefyd. Mae'n bosibl y collir o leiaf 55 swydd (sy'n cyfateb i swyddi amser llawn) yn y toriadau, naill ai trwy ddileu swyddi yn wirfoddol neu trwy beidio â llenwi swyddi gwag. Dydy'r dewisiadau hyn byth yn hawdd ac mae'r Cyngor eisoes wedi colli 1,632 swydd dros y saith mlynedd diwethaf, ond mae gennym weithlu ymroddgar sy'n benderfynol o wneud ei orau dros bobl Caerdydd wrth i ni weithio i ail siapio sut rydyn ni'n cynnig gwasanaethau yn y ddinas.

 

"Rydyn ni hefyd yn cynorthwyo ysgolion, lle y gwelsom gamau breision yn digwydd. Mae ysgolion Caerdydd nawr yn cael rhai o'r canlyniadau gorau yn y wlad ac rydyn ni'n cynyddu cyllideb yr ysgolion 4.5%, sef £10.4m yn fwy na'r llynedd. Mae'n rhaid i ni fodd bynnag, gapio £3.5m ar dwf ysgolion, sy'n golygu y bydd yn rhaid i ysgolion edrych yn ofalus ar eu cyllidebau i sicrhau eu bod yn cael gwerth am arian ym mhopeth a wnânt. Byddwn ni'n gweithio'n agos â nhw i'w helpu i reoli eu cyllidebau mor effeithiol â phosibl."

 

Mae agenda Uchelgais Prifddinas y Cyngor yn nodi cyfres o egwyddorion â'r nod o wella'r ffordd y mae'r awdurdod yn gweithio.

 

  • Cael y pethau elfennol yn iawn;
  • Darparu gwasanaeth digidol yn gyntaf;
  • Rhoi cymunedau yn gyntaf a'u gwneud yn greiddiol;
  • Cyfuno gwasanaethau rheng flaen;
  • Partneriaethau pwrpasol; a
  • Rhoi bargen newydd i ddinasyddion.

 

Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Mae'n hollol gyfiawn ein bod yn cynnal ffocws di-ildio ar ein perfformiad ond mae angen bargen newydd â dinasyddion. Ni all y Cyngor ar ei ben ei hun gadw'r strydoedd yn lân, cyrraedd ein targedau trafnidiaeth gynaliadwy a thargedau ailgylchu a gofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed. Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r problemau a gwireddu ein huchelgeisiau ar y cyd ar gyfer Caerdydd.

 

"Fodd bynnag, rwyf am i bobl wybod, os cytunir ar ein cynigion, byddwn yn gwario bron i £2m yn ychwanegol yn gwella strydlun y ddinas, £850,000 ar fentrau trafnidiaeth, a fydd yn cynnwys diogelu'r llwybrau bws a chreu llwybrau cerdded fwy diogel i ysgolion. Byddwn hefyd yn buddsoddi £300,000 yn ychwanegol ar ddigartrefedd, ar ben y £2 filiwn y byddwn yn ei wario arno bob blwyddyn."

 

Fel rhan o'r cynigion cyllideb, gallai'r Cyngor hefyd ystyried dod o hyd i denant preifat newydd ar gyfer y Theatr Newydd, gan arbed £404,000 ac rhyddhau £1.8m arall o ganlyniad i drosglwyddo mwyafrif ei ganolfannau hamdden i Greenwich Leisure Ltd. Gellid adolygu cyllideb ddigwyddiadau'r ddinas, ac arbed £125,000.

 

Mae'n bosibl y bydd costau rhai o'r gwasanaethau yn codi gan gynnwys;

  • Cost amlosgi yn codi o £560 i £640;
  • Costau claddu o £660 i £760;
  • Cost ail gartrefu ci yn codi £30 a chi bach yn codi £10.

 

Dywedodd y Cyng Weaver:"O ystyried y toriadau a'r galw cynyddol am wasanaethau, nid yw hyn fyth yn broses hawdd. Ond rydyn ni'n credu ein bod wedi creu cyllideb sy'n diogelu'r gwasanaethau sydd wir yn bwysig i breswylwyr ac yn rhoi'r gallu i ni barhau i ddarparu ein hagenda Uchelgais Prifddinas i greu dinas o gydraddoldeb a chyfleoedd go iawn, dinas â rhagor o swyddi o safon well, dinas rydyn ni'n benderfynol o sicrhau ei ffyniant a'i llwyddiant."