The essential journalist news source
Back
15.
February
2019.
Premiwm Treth Gyngor ar gyfer eiddo gwag hir-dymor


Bydd argymhellion i osod premiwm treth gyngor o 50% ar anheddau sy'n wag yn hir-dymor yn cael eu hystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd yr wythnos nesaf.

 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn holi barn i weld a ddylai'r Cyngor godi premiwm ar anheddau sy'n wag yn hir-dymor, bydd y Cabinet yn derbyn adborth ar yr ymatebion ac yn penderfynu a fydd yn argymell bod y Cyngor Llawn yn gosod premiwm o 50% ar eiddo sydd wedi bod yn wag ac heb ei ddodrefnu i raddau helaeth am 12 mis neu fwy o 1 Ebrill 2019 ai peidio.

 

O dan  Deddf Tai (Cymru) 2014, gall cynghorwyr osod premiwm o 100% ar ben cyfradd arferol y dreth gyngor ar dai sy'n wag yn hir-dymor, a defnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a gaiff ei greu i helpu i ateb anghenion tai lleol.

 

Mae nifer o bryderon cymunedol yn deillio o eiddo gweigion yn y ddinas gan gynnwys problemau â thipio anghyfreithlon, niwsans, fandaliaeth, gweithgaredd troseddol a dirywiad gweledol.Mae cartrefi gweigion hefyd yn adnodd a wastreffir yng nghyd-destun y galw am dai yn y ddinas.

 

Ar hyn o bryd mae mwy na 3,100 o dai gweigion yn y ddinas ac mae 869 o'r rheiny wedi bod yn wag ers dros 12 mis.Ar hyn o bryd mae anheddau gweigion sydd heb eu dodrefnu i raddau helaeth yng Nghaerdydd yn derbyn gostyngiad o 50% ar gost y dreth gyngor.Gaiff y gostyngiad hwn ei ddileu o 1 Ebrill a bydd 50% ychwanegol yn cael ei osod ar ben cyfradd arferol y dreth gyngor ar gyfer eiddo gweigion hir-dymor.

 

Roedd dros 85% o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn cytuno fod eiddo gweigion yn anharddu ac roedd 71% yn teimlo y dylid codi premiwm ar y dreth gyngor o 50% neu fwy ar eiddo sy'n wag yn hir-dymor.

 

Er y caniateid rhai eithriadau ac esgusodion dan y newidiadau arfaethedig, amcangyfrifir y byddai £300,000 yn ychwanegol yn cael ei gasglu trwy dreth gyngor o du anheddau sy'n wag yn hir-dymor, pe codid premiwm o 50%.

 

Dywedodd yr Aelod cabinet dros gyllid, moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng Chris Weaver:"Mae cartrefi gweigion yn gymaint o wastraff adnodd ac yn gallu creu ystod o broblemau felly rydym yn awyddus i'w hadfer er mwyn i bobl y mae arnyn nhw eu hangen nhw allu eu defnyddio.

 

"Mae'r Cyngor eisoes yn ceisio denu perchnogion i adfer anheddau i gael eu defnyddio a hynny mewn nifer o ffyrdd ond gobeithiwn y bydd dileu'r gostyngiad treth gyngor o 50% ar gyfer eiddo gwag a gosod premiwm ar eiddo sy'n wag yn hir-dymor yn denu mwy o gartrefi i gael eu hadfer i'r farchnad."

 

Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet ddydd Iau 21 Chwefror, rhaid i'r Cyngor llawn wedyn ystyried yr argymhelliad i osod y premiwm o 50% ar eiddo sy'n wag yn hir-dymor.