The essential journalist news source
Back
8.
February
2019.
Cysgu ar y Stryd yng Nghaerdydd – atebion i’ch cwestiynau

Pam mae cymaint o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd a pham mae'r niferoedd yn cynyddu? 

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd wedi cynyddu yn debyg i ddinasoedd eraill ledled y DU, ond nid un rheswm yn unig sy'n gyfrifol am y niferoedd cynyddol hyn. 

Gall ffactorau megis chwalu perthynas; costau tai yn codi; diwygio lles a chyffredinolrwydd cynyddol salwch meddwl neu broblemau camddefnyddio sylweddau gyfrannu at rywun yn colli ei gartref.  

Ydy hi'n wir bod cymaint o bobl ar y strydoedd gan nad oes digon o le i bawb mewn angen? 

Mae amrywiaeth eang o lety ar gael yn y ddinas a digon o le i bawb sy'n cysgu ar y stryd. 

Mae gennym ni 261 o leoedd mewn hostelau a mwy na 350 o leoedd mewn llety â chymorth gan gynnwys cyfleusterau mwy yng nghanol y ddinas a safleoedd llai y tu allan i ganol y ddinas. Ceir hefyd 78 o leoedd aros mewn argyfwng, gan gynnwys nifer o gabanau bach annibynnol y gellir eu cloi lle gall pobl ddechrau ymgysylltu â gwasanaethau i fynd i'r afael â'u hanghenion wrth inni weithio gyda nhw ar ddatrysiad tai yn y tymor hirach. 

O fis Tachwedd tan fis Mawrth, mae darpariaeth tywydd oer ar gael, sydd ar hyn o bryd yn 105 o leoedd mewn amryw leoliadau.Gall y rhain fod yn lleoedd ar y llawr mewn hostelau mwy, neu welyau gwersylla mewn llochesi eglwys.Mae person yn goruchwylio'r ddarpariaeth gyfan yn gyson i gynnig cymorth a chadw trigolion yn ddiogel.Yn ogystal â hyn, mae gennym ni drefniadau wrth gefn fel y gallwn agor rhagor o leoedd os bydd cynnydd yn y galw. 

Os oes digon o le, pam nad yw pobl yn defnyddio'r llety sydd ar gael ac yn hytrach yn parhau i gysgu ar y stryd?

Mae cysgu ar y stryd yn broblem hynod gymhleth, ac nid yw hi mor hawdd â chynnig to i gysgodi rhywun dros nos.Mae gan nifer fawr o bobl sy'n cysgu ar y stryd anghenion cymhleth gan gynnwys cyflyrau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau, yn ogystal â ffyrdd o fyw heb unrhyw drefn, sy'n ei gwneud yn heriol iddyn nhw ymdopi â'r syniad o ddod i mewn dan do. 

Os yw rhywun yn gwrthod cymorth, beth sy'n digwydd nesaf?

Mae pobl sydd wedi arferu i gysgu ar y stryd yn gallu treulio cyfnodau hir ar y strydoedd heb dderbyn unrhyw help, ond mae ein tîm allgymorth i'r digartref yn gweithio gyda nhw ar y strydoedd bob dydd yn ceisio ymgysylltu ag unigolion a'u cefnogi i gael gafael ar wasanaethau.Ein nod yw symud pobl oddi ar y strydoedd ac i mewn i wasanaethau a all eu helpu i roi tro yn eu bywydau. 

Beth sydd gan bobl sy'n cysgu ar y strydoedd i'w wneud yn ystod y dydd? 

Mae ein partner, sefydliad Canolfan Huggard, yn trefnu canolfan dydd sydd ar agor 365 diwrnod y flwyddyn.Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yn y ddinas i drefnu gweithgareddau y gall cleientiaid eu gwneud yn ystod y dydd a phryd y gallwn ni ymgysylltu â nhw i fynd i'r afael â'u hanghenion mewn modd anffurfiol. 

Pam na allwch chi agor rhai adeiladau gwag yn y ddinas a chaniatáu i'r bobl sy'n cysgu ar y stryd fynd i mewn?

Mae digon o lety eisoes yn y ddinas gyda 216 o leoedd mewn hostelau, 78 o leoedd i aros dros nos mewn achosion argyfwng a 105 o leoedd gyda'r ddarpariaeth tywydd oer.Mae lleoedd wedi bod ar gael yn y ddarpariaeth hon bob nos drwy gydol y gaeaf, ac mae gennym ni gynlluniau wrth gefn hyd yn oed i agor rhagor o leoedd os oes angen.Felly, nid oes angen agor adeiladau gwag pan yw gwasanaethau eisoes ar gael. 

Fe glywais i mai Tŷ yn Gyntaf yw'r ffordd orau i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd.

Beth yw hyn? 

Mae Tŷ yn Gyntaf yn cynnig llety fforddiadwy parhaol i unigolion sydd wedi cael profiad hir o gysgu ar y stryd h.y. maen nhw wedi bod ar y strydoedd am gyfnod o amser ac mae llwybrau i mewn i lety wedi methu â diwallu eu hanghenion yn y gorffennol.

Mae Tŷ yn Gyntaf yn cynnig llety parhaol annibynnol i bobl, gan gynnwys cymorth amlasiantaeth fel y gallan ddechrau fynd i'r afael ag unrhyw broblemau sydd ganddyn nhw.

Yng Nghaerdydd, Byddin yr Iachawdwriaeth sy'n rhedeg project Tŷ yn Gyntaf ac mae'r Cyngor hefyd yn cynnig ei gynllun ei hun.Er bod Tŷ yn Gyntaf yn fodel da ac yn cynnig yr ateb gorau i rai unigolion, mae ein hostelau a'n tai â chymorth hefyd yn helpu llawer o bobl i wella eu bywydau.Defnyddiodd 1400 o bobl ein llety person sengl digartref yn ystod 2017/18. 

Mae pobl rydw i wedi siarad â nhw ar y stryd yn dweud na allan nhw gymryd y llety sydd ar gynnig iddyn nhw gan fod ci ganddyn nhw, neu nad ydyn nhw'n dymuno cael eu gwahanu oddi wrth eu partneriaid neu eu ffrindiau. 

Mae llawer o'r lleoliadau llety yn y ddinas yn derbyn cŵn gan gynnwys 5 o'r hostelau rheng flaen, ac mae hyn yn cynnwys darpariaeth argyfwng tywydd oer fel y gall y bobl sy'n mynd i'r lleoedd hyn ddod â'u hanifeiliaid anwes.Rydym yn cynnig llety i gyplau ac mae projectau yn y ddinas lle caiff ffrindiau a fyddai'n gwrthod llety pe na caent fod gyda'i gilydd aros mewn llety gyda'i gilydd. Er enghraifft, mae ein project Tŷ Nos yn caniatáu i ffrindiau gael gafael ar lety dros nos mewn parau neu driawdau. 

Mae rhai o'r bobl y siaradais â nhw yng nghanol y ddinas yn dweud na fyddant yn mynd i hostelau gan nad ydynt yn ddiogel a byddant yn gorfod bod gyda thrigolion eraill sydd â phroblemau alcohol neu gamddefnyddio sylweddau.Ydy hynny'n wir? 

Pan fydd unigolion sy'n agored i niwed yn defnyddio llety, dônt oddi ar y stryd gyda'u hanghenion cymhleth â'u hymddygiadau heriol, felly gall rhai hostelau edrych yn brysur a swnllyd.Mae aelodau staff yn bresennol yn yr hostelau 24/7 i sicrhau diogelwch y preswylwyr.Hefyd mae gwahanol ddarpariaethau eraill ar gael, a gall y rhai sy'n cysgu ar y stryd ddefnyddio gwasanaethau a safleoedd draw oddi wrth yr hostelau mwy.Ar gyfer unigolion sy'n dymuno aros yn sobr, mae lleoedd ar gael mewn projectau lle na chaniateir i breswylwyr ddefnyddio sylweddau. 

Os yw rhywun yn aros ar y strydoedd, a yw'n well iddo aros mewn pabell yn hytrach na chael dim cysgod o gwbl rhag y tywydd? 

Rydym yn pryderu o ddifrif am ddiogelwch unigolion sy'n cysgu mewn pebyll yng nghanol y ddinas.Mae ein tîm allgymorth wedi gweld newid sylweddol mewn agweddau, ac mae pobl yn llai bodlon i dderbyn cymorth ac yn gwrthod cynnig cymorth ar ôl cael pabell, hyd yn oed pobl a oedd wedi cytuno i gael lle.Ym mis Rhagfyr, dim ond pedwar person dderbyniodd ein cymorth i ddod oddi ar y stryd, o gymharu â 15 y mis ar gyfartaledd. 

Gallai pobl deimlo'n fwy diogel mewn pabell, ond y realiti yw eu bod yn dal i fod yn agored i'r amodau garw wrth gysgu ar y stryd heb amddiffyniad priodol arall.Yn anffodus iawn, mewn pebyll y bu dwy o'r pedair marwolaeth cysgwr stryd ddiwethaf yn y ddinas a bu achosion o bebyll yn llosgi.

Ni all pebyll gynnig yn agos at yr hyn sydd ar gael mewn llety cynnes a sych gennym ni yn y ddinas, ond yn bwysicach fyth, gall bod mewn pabell rwystro pobl rhag defnyddio'r gwasanaethau cymorth proffesiynol a allai helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd i roi tro yn eu bywydau. 

Pam rydych chi'n gwaredu pebyll yng nghanol y ddinas?

Rydym wedi dechrau gwaredu pebyll sydd wedi eu gadael yng nghanol y ddinas.Mae llawer ohonyn nhw'n perthyn i unigolion sydd wedi derbyn cynnig llety ac sydd eisoes wedi caniatáu inni fynd â'u pebyll.Mae'r pebyll yn cael eu monitro'n ddyddiol ac ar ôl i'n tîm allgymorth a'r heddlu gytuno eu bod wedi eu gadael, byddwn hefyd yn eu cymryd.Mae'r Cyngor wedi gwneud ei ddyletswydd gofal dros bobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas yn glir iawn.Achub bywydau yw'r cyfan rydyn ni eisiau ei wneud.Gan ystyried hyn, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i wneud yr hyn mae ei angen i annog pobl i ddefnyddio'r amrywiaeth o lety sydd ar gynnig, yn ogystal â'r gwasanaethau proffesiynol a all eu helpu i godi ar eu traed eto.Y peth pwysicaf yw sicrhau bod pobl yn dod oddi ar y stryd a dyma'r nod y mae'n rhaid inni ganolbwyntio arni wrth fwrw ymlaen. 

Ydy hi'n ddrwg cynnig arian i bobl sydd ar y strydoedd? 

Mae gan bob person hawl i benderfynu dros ei hun a ddylai roi arian i bobl ai peidio. Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn pryderu am y rhai sy'n agored i niwed y maen nhw yn eu gweld a'u bod eisiau helpu.Rydyn ni eisiau i bobl ddeall bod rhoi arian yn uniongyrchol yn ei gwneud hi'n bosibl i'r unigolion hyn barhau i gynnal eu bywyd ar y stryd a'u bod yn llai tebygol o ymgysylltu â'r gwasanaethau sydd ar gynnig gan y Cyngor, a all eu helpu i godi ar eu traed eto. 

Mae'r Cyngor yn cefnogi ymgyrch rhoddi amgen y ddinas, CAERedigrwydd, sy'n helpu i symud pobl i ffwrdd oddi wrth fywyd ar y strydoedd, a'u hatal rhag mynd yn ôl yno, drwy gynnig grantiau bach. 

Gallwch wneud rhodd i CAERedigrwydd ar unrhyw adeg yn y dydd neu'r nos, drwy anfon neges yn dweudDIFF20ac yna'r swm yr ydych chi eisiau ei roddi i70070. Ewch ihttp://caeredigrwydd.cymru/i gael gwybod mwy. 

A oes ffyrdd eraill y galla' i helpu?

Gallwch chi helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd drwy gefnogi'r cynlluniau sy'n darparu cymorth ymarferol ac arbenigol i bobl yn y ddinas.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch ihttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Tai/Pobl-ddigartref-neu-mewn-perygl/digartref-neu-cysgu-ar-y-stryd/sut-y-gallwch-chi-helpu/Pages/default.aspx