The essential journalist news source
Back
29.
January
2019.
Sgiliau rhyngrwyd mwy diogel gyda Google yn Hyb y Llyfrgell Ganolog

 

Mae Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd yn nodi Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel trwy ymuno â Google i gynnig cyngor a hyfforddiant ar sgiliau digidol i gadw pobl yn fwy ddiogel ar-lein.

 

Bydd Google yn dod â'i 'Google Digital Garage' i Hyb y Llyfrgell Ganolog ddydd Mawrth 5 Chwefror i gynnal dwy sesiwn galw heibio gan ganolbwyntio ar sut gall unigolion a theuluoedd fod yn fwy hyderus o ran defnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel.

 

Mae ‘GoogleDigital Garage' yn un o raglenni buddsoddi blaenllaw Google yn y DU, lle y gall unrhyw un ddod i ddysgu sgiliau digidol am ddim mewn amrywiaeth o gyrsiau neu sesiynau 1:1.Ers lansio'r 'Google Digital Garage' yn 2015, mae mwy na 300,000 o bobl wedi manteisio ar hyfforddiant wyneb yn wyneb am ddim Google ar wybodaeth ddigidol ymarferol mewn 250 o leoliadau ledled y DU gan gynnwys digwyddiadau rheolaidd yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.

 

Gall ymwelwyr aros cyhyd ag yr hoffen nhw yn ystod y ddwy sesiwn am 10am a 11am yn yr Ystafell Greadigol ar y pumed llawr yn hyb y llyfrgell.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae cael y ‘Google Digital Garage' yn Hyb y Llyfrgell Ganolog yn creu cyfle gwych i drigolion ennill sgiliau a gwybodaeth newydd iddyn nhw a'u teuluoedd nhw aros yn ddiogel ar-lein.Yn yr oes ddigidol hon, mae'n hanfodol bod pobl yn ymwybodol o beryglon mynd ar-lein a'u bod yn hyderus ac yn gyfforddus wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd."

 

Am fwy o wybodaeth am y gweithdai, cysylltwch âRobert.sadler2@caerdydd.gov.uk