The essential journalist news source
Back
18.
January
2019.
Gobaith i Guildford Crescent

Mae perchnogion Cilgant Guildford wedi cytuno i ohirio eu cynlluniau dymchwel ar ôl cyfarfod gydag arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, i drafod uwchgynllun y mae'r Cyngor yn ei ddatblygu ar gyfer yr ardal honno.

Gobeithir y bydd y cynllun newydd, sydd â'r nod o adnewyddu ardal o'r ddinas o Ffordd Churchill i lawr at Rodfa Bute ac ar draws i'r adeilad Admiral yng nghefn Canolfan Dewi Sant, yn cadw ac yn achub Cilgant Guildford i genedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas:"Ar ôl cyfarfod adeiladol gyda'r perchnogion tir, maent bellach wedi cytuno i ohirio'r cynlluniau i ddymchwel er mwyn ystyried cyfleoedd datblygu yn yr ardal ehangach.

"Yn ystod ein trafodaethau, gofynnais i'r perchnogion tir ailystyried eu sefyllfa ynghylch dirymu lesau busnes y tenantiaid presennol yng Nghilgant Crescent wrth i'r trafodaethau barhau.Er bod y cytundebau tenantiaeth y tu hwnt i bŵer y Cyngor, rydym wedi ail-bwysleisio pa mor bwysig yw'r busnesau hyn i'r ardal, a pha mor werthfawr ydynt i hunaniaeth y ddinas.

 

"Mae'r Cyngor yn ymwybodol iawn o'r pryder cyhoeddus ynghlwm wrth golli, o bosibl, bwyty Madeira, The Thai House a'r lleoliad cerddoriaeth annibynnol, Gwdihw, ac rydym yn gweithio'n galed gyda Gwdihw i'w helpu nhw i symud i rywle arall yn y ddinas os oes angen."


Ar hyn o bryd mae Cadw, a restrodd Cyfrinfa Fasonaidd ar y Cilgant yn 1975, yn cynnal asesiad i weld a ddylid rhestru gweddill yr adeiladau ar y Cilgant, ac mae'r Cyngor yn aros am ganlyniad y gwaith hwn.


Ychwanegodd y Cyng Thomas:"Mae creu ardal gadwraeth yn fater hollol ar wahân.Mae'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw ar sail pwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol yr ardal, y mae ei chymeriad neu ei hymddangosiad yn bwysig i'w cadw neu ei gwella.Rydym yn parhau i ymchwilio i ddichonoldeb gorchymyn o'r fath.

 

"Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn yr ardal gymeriad bwysig hon yng nghanol y ddinas.Nawr byddwn yn cymryd amser i werthuso bob opsiwn, gan gynnwys ardal gadwraeth.Mae penderfyniad i datblygwr i ohirio'r hysbysiad cymeradwyaeth ymlaen llaw yn rhoi amser a lle i ni i wneud hynny."


Cwestiynau Cyffredin


Pam na wnewch chi greu ardal gadwraeth ar unwaith?

 

Mae'r Cyngor yn gwerthuso canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar a ddylid dynodi Cilgant Guildford yn ardal gadwraeth oherwydd diddordeb hanesyddol a/neu deilyngdod pensaernïol sydd angen ei amddiffyn.Mae hefyd yn aros am gyngor gan Cadw mewn perthynas ag a ddylid rhestru unrhyw rai o'r adeiladau.

 

Byddai dynodiad o ardal gadwraeth yn rhoi dulliau diogelu cryfach i'r awdurdod yn erbyn dymchwel a rheolaeth gryfach dros unrhyw gynigion i newid adeiladau ynddi. Fodd bynnag, nid yw ardaloedd cadwraeth yn rhoi gwarant gyfan yn erbyn newid ac nad ydynt ychwaith yn sicrhau defnydd buddiol adeiladau yn yr hirdymor.

 

Mae'r Cabinet yn credu ei fod yn ddoeth gweithio gyda rhanddeiliaid yn rhan hon y ddinas ar gynllun meistr a rennir, sy'n arwain yn y pendraw, nid yn unig at gadwraeth Cilgant Guildford, ond at wella'r adeiladau. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn yr ardal gymeriad bwysig hon yng gnhanol y ddinas, a byddwn bellach yn neilltuo'r amser i arfarnu pob opsiwn. Mae penderfyniad y datblygwr i ohirio'r hysbysiad cymeradwyo blaenorol yn rhoi amser a lle i ni wneud hynny.

 

Onid ydych chi'n gwanhau'r achos dros gael ardal gadwraeth drwy beidio â'i chreu ar unwaith?

 

Nac ydyn.Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i amddiffyn ardaloedd hanesyddol o ganol y ddinas.Gyda'r perygl uniongyrchol o ddymchwel oddi ar y plât, rydym wedi sicrhau'r amser a'r lle i ymchwilio i sut ddylid cyflawni'r hyn.Mae creu ardal gadwraeth yn dal i fod yn opsiwn i'r Cyngor.

 

Beth am y busnesau sydd yng Nghilgant Guildford ar hyn o bryd?

 

Mae hyn yn fater i'r landlord ac i'r busnes.Gan fod disgwyl i'r gwaith uwchgynllunio gymryd tri mis, byddwn yn annog y landlord i ymestyn y lesau am y cyfnod hwnnw o leiaf.Fodd bynnag, nid oes gan y Cyngor bwerau i orfodi ar hyn.Mae Gwdihw wedi gwneud cais i weithio gyda'r Cyngor, ac rydym bellach yn cydweithio'n ymarferol gyda nhw i chwilio am leoliadau newydd posibl.