The essential journalist news source
Back
17.
January
2019.
Mae Caerdydd yn gweithredu’n unol i baratoi ar gyfer unrhyw sgil-effeithiau a achosir gan Brexit ‘dim bargen'

Mae Caerdydd yn gweithredu'n unol i baratoi ar gyfer unrhyw sgil-effeithiau a achosir gan Brexit ‘dim bargen' medd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas.

Wrth siarad fel Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd (BGCC), dywedodd y Cynghorydd Thomas:"Gan fod Llywodraeth y DU wedi colli'r bleidlais ar ei bargen i adael yr Undeb Ewropeaidd, rydym bellach yn wynebu sefyllfa lle gallai Prydain adael yr UE ar 29 Mawrth heb unrhyw fargen.

"Byddai gadael heb fargen yn drychineb economaidd i Gaerdydd sef un o ddinasoedd mwyaf dibynnol y DU ar weithwyr yr UE a masnach yr UE.

"Er y bydd telerau Brexit yn cael eu pennu ar lefel genedlaethol, bydd effaith Brexit yn cael ei theimlo'n lleol, gan ein cymunedau a'n gwasanaethau cyhoeddus. Ac felly, er nad oes llawer o eglurder gan y llywodraeth yn San Steffan, mae angen i ni yng Nghaerdydd fod yn barod i ymateb.   

"Dyna pam fy mod yn gynharach heddiw wedi cwrdd ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus Caerdydd, gan gynnwys y GIG a'r heddlu, i sicrhau ein bod yn cydweithio ledled y ddinas i sicrhau ein bod yn barod ar gyfer unrhyw bosibilrwydd.

"Fel Cadeirydd y BGCC byddaf yn cynnull grŵp ymateb Brexit a fydd yn cyfarfod yn rheolaidd rhwng nawr a'r 29ain o Fawrth ac, os bydd angen, dros y misoedd sy'n dilyn.Mae gennym eisoes bartneriaethau sefydledig ar waith gydol y sector cyhoeddus a byddwn yn awr yn gweithio tuag at sicrhau y bydd ein dinas a'i gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i redeg yn llyfn waeth beth fydd canlyniad Brexit.

"I holl ddinasyddion yr UE sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd, ac yn enwedig y rhai ohonoch sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus fel meddygon, nyrsys, athrawon neu weithwyr gofal, ar ran arweinwyr y ddinas yr wyf am ichi wybod bod Caerdydd yn parhau i fod yn ddinas agored , allblyg a rhyngwladol.  Mae estyn croeso yn rhan annatod o'n dinas a, beth bynnag a ddigwydd gyda Brexit, mae croeso i chi yma ym mhrifddinas Cymru, ac fel hynny y bydd hi am byth."