The essential journalist news source
Back
21.
December
2018.
Dathliadau yn ysgol ddiweddaraf Caerdydd i ddod yn Ysgol Noddfa

Mae Ysgol Gynradd Allensbank yng Ngabalfa wedi dod yr ysgol gynradd gyntaf yng Nghaerdydd i gyflawni statws Ysgol Noddfa. 

Er mwyn dod yn Ysgol Noddfa, roedd yn rhaid i Ysgol Gynradd Allensbank ddangos dealltwriaeth o sefyllfa rhywun sy'n ceisio noddfa, ac ymrwymiad i greu amgylchedd croesawgar a gofalgar i'r bobl hynny sydd angen help. 

Mae'r Cyngor yn annog ei holl ysgolion i ddod yn Ysgolion Noddfa.Mae hyn yn rhan o addewid Caerdydd i ddod yn Ddinas Noddfa, gan ei gwneud yn lle croesawgar a diogel i bawb ac sy'n cynnig noddfa i bobl sy'n ffoi trais ac erledigaeth. 

Mae'r fenter Ysgolion Noddfa hefyd yn cefnogi'r gwaith sydd ar y gweill i Gaerdydd ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant Unicef,yn dilyn lansio Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant yn ddiweddar. 

Roedd Ysgol Gynradd Allensbank yn gweithio ar ystod o brojectau er mwyn sicrhau statws Ysgolion Noddfa, gan gynnwysennill cystadleuaeth dincial Wythnos Ffoaduriaid y Cyngor.Roedd yr ysgol yn gweithio ar y cyd â Swyddog Cau'r Bwlch y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Theithwyr (EMTAS) o Gyngor Caerdydd.Trefnwyd hyfforddiant i'r holl staff ar hyrwyddo cydlyniad cymunedol, defnyddio mamiaith a dod yn Ysgol Noddfa. 

Meddai'r Pennaeth, Miss Jenny Drogan:"Rydym yn falch o ddod yr Ysgol Gynradd gyntaf yng Nghaerdydd i ennill y Wobr Ysgol Noddfa.Mae Ysgol Noddfa yn ysgol sy'n helpu ei disgyblion, ei staff a'r gymuned ehangach i ddeall ystyr ceisio lloches a hefyd yn ysgol sy'n croesawu pawb yn aelodau cyfartal a gwerthfawr o gymuned yr ysgol.Mae'r wobr hon felly yn ganlyniad o'n hymrwymiad parhaol i sicrhau bod Ysgol Gynradd Allensbank yn lle croesawgar i bawb." 

Hyd yma mae dwy ysgol yng Nghaerdydd wedi cyflawni statws Ysgol Noddfa.Sef:Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Gynradd Allensbank. 

Mae chwe ysgol arall wrthi'n gweithio tuag at ddod yn Ysgol Noddfa. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Llongyfarchiadau i Miss Drogan, yr holl staff, y plant a phawb yng nghymuned ehangach yr ysgol sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni'r wobr Ysgolion Noddfa i Ysgol Gynradd Allensbank. 

"Mae gan Gaerdydd draddodiad balch o fod yn ddinas sy'n croesawu pobl o bedwar ban byd, a bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn rhan o Ysgolion Noddfa, yn ogystal â'n haddewid Dinas Noddfa a'n Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant, yn sicrhau bod y traddodiad hwn yn parhau. 

"Mae'n wych gweld bod dwy o'n hysgolion eisoes wedi cyflawni statws Ysgol Noddfa, a gyda'r holl waith caled sy'n cael ei wneud gan ysgolion ledled Caerdydd, mae mwy i ddod yn y dyfodol."