The essential journalist news source
Back
14.
December
2018.
Dathliad Hyb Llaneirwg

 

Caiff diwrnod llawn hwyl Nadoligaidd i ddathlu'r ystod eang o wasanaethau cymunedau sy'n cael eu darparu yn Hyb Llaneirwg ei gynnal yr wythnos nesaf.

 

Caiff y diwrnod hwyl cymunedol am ddim, gan gynnwys ffair, stondinau bwyd, cerddoriaeth fyw, stondinau cymunedol, groto'r Nadolig a gweithdy gwyddoniaeth gwallgof ei gynnal i nodi lansiad swyddogol yr hyb ddydd Mercher 19 Rhagfyr o 10am tan 5pm.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Mae diwrnodau hwyl cymunedol yn ein hybiau bob amser yn ddigwyddiadau llwyddiannus gyda llawer i'w weld a'i wneud. Maent yn gyfleoedd gwych i ni ddangos yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yn yr hyb ac yn y gymuned leol.

 

"Mae hyb Llaneirwg yn ased go iawn i'r rhan hon o'r ddinas, gydag ystod ardderchog o gyfleuster a diolch i fuddsoddiad diweddar yn y cyfleuster, rwy'n falch ein bod yn gallu darparu mwy o wasanaethau i bobl yn yr ardal.Gobeithio y bydd pobl yn ymuno â ni'r dydd Mercher nesaf."

 

Agorodd yr Hyb newydd yn gynharach eleni ar ôl gael ei adnewyddu a'i ymestyn i ddarparu'r cyfleuster siop un stop diweddaraf yn rhaglen hyb cymunedol lwyddiannus y Cyngor.Cafodd y project £3 miliwn fudd o grant dan Raglen Cyfalaf Adfywio Llywodraeth Cymru.

Mae'r hyb golau a modern, sydd bellach ar agor chwe diwrnod yr wythnos, yn cynnwys darpariaeth llyfrgell estynedig, cyfleusterau TG helaeth, caffi a chegin gymunedol, ystafelloedd cyfweld a chyngor, lle i bobl ifanc, darpariaeth ofal plant, ystafelloedd aml-ddefnydd a neuadd gymunedol fawr ac ystafelloedd newid. 

 

Gall cwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau cyngor, budd-daliadau a thai yn ogystal â defnydd am ddim at y rhyngrwyd aWi-Fi, ffonau am ddim i gysylltu â'r Cyngor a gwasanaethau eraill a Chyngor i Mewn i Waith a hyfforddiant, yn ogystal â rhaglen lawn o weithgareddau cymunedol.