The essential journalist news source
Back
8.
December
2018.
Cyngor Caerdydd yn ystyried adolygu cynigion i gau Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon

Mae adroddiad gan Gyngor Caerdydd wedi argymell y dylid adolygu'r cynigion i leihau nifer y lleoedd ysgol gwag yn Llanrhymni, oedd yn cynnwys cau Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon. 

Mae'r argymhelliad, fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet yr awdurdod lleol ddydd Iau, 13 Rhagfyr, wedi'i gyflwyno mewn ymateb i bryderon a godwyd mewn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Medi a Hydref. 

Mae'r materion a nodwyd gan rieni disgyblion yr ysgol yn cynnwys pryderon ynghylch cyrraedd yr ysgol pe byddai Glan-yr-Afon yn cau, effaith y cau ar y plant, a cholli darpariaeth addysgol yn yr ardal. 

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018, mae 261 (19.4%) o'r 1,342 o leoedd ysgol gynradd yn Llanrhymni yn wag. Fodd bynnag, yng Nglan-yr-Afon, mae'r swm yn sylweddol uwch, gyda 140 (47.9%) o'r 292 o leoedd yn wag. 

Mae niferoedd disgyblion yn ffactor sylweddol o ran pennu lefel cyllid yr ysgol, felly tra bo opsiynau eraill yn cael eu hystyried, byddai cynnig i leihau capasiti Glan-yr-Afon i 210 o leoedd yn cael ei gyflwyno. Bwriad hyn byddai lleihau costau rhedeg yr ysgol a lleihau'r pwysau ariannol arni. 

Yn ôl y gyfraith, mae angen i awdurdodau lleol ymgynghori ar newidiadau i drefniadau derbyn ysgolion. Byddai'r lleihad mewn capasiti yng Nglan-yr-Afon yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2020, er mwyn cydymffurfio â'r amserlenni ymgynghori gofynnol. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Dwedais gydol yr ymgynghoriad y byddwn yn gwrando ar bryderon rhieni Glan-yr-Afon, ac mae'r argymhelliad hwn i gadw'r ysgol ar agor tra byddwn yn edrych i mewn i opsiynau eraill yn brawf o'r ymrwymiad hwnnw. 

"Mae'r mater bod gormod o leoedd ysgol gynradd yn Llanrhymni yn dal i fod yn bryder mawr sy'n dal i roi pwysau ariannol enfawr ar ysgolion yn yr ardal. 

"Dyma yw'r achos yng Nglan-yr-Afon, sydd â'r gyfran uchaf o leoedd gwag mewn unrhyw ysgol yn yr ardal. Mae maint yr ysgol, ochr yn ochr â nifer isel o ddisgyblion, yn golygu y bydd yn wynebu heriau ariannol difrifol os na chaiff unrhyw beth ei wneud. 

"Felly, mae dod o hyd i ddatrysiad i fynd i'r afael â lleoedd gwag yn ysgolion cynradd Llanrhymni yn flaenoriaeth, a bydd angen ymchwilio i opsiynau pellach a'u hystyried i'r dyfodol." 

Os yw'r Cabinet yn cytuno ar yr argymhellion ddydd Iau, bydd adroddiad pellach yn nodi manylion am sut i fynd i'r afael â lleoedd yn ysgolion cynradd Llanrhymni yn cael ei ystyried yn y dyfodol gyda'r dyddiad i'w gadarnhau.