The essential journalist news source
Back
8.
December
2018.
Dau barc yn y ddinas wedi’u cynnig fel safleoedd ymgeisiol ar gyfer menter Meysydd y Canmlwyddiant


 

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried cynlluniau i enwebu dau o barciau'r ddinas fel safleoedd ymgeisiol ar gyfer menter Meysydd y Canmlwyddiant

 

Os cytunir arnynt, gellid cyflwyno Gerddi'r Faenor a Gerddi Alexandra i ddod yn fannau hamdden diogel parhaol er mwyn anrhydeddu'r cof am y miliynau o bobl a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Hyrwyddir Meysydd y Canmlwyddiant gan Fields in Trust mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol ac mae'n galw ar bob tirfeddiannwr, gan gynnwys Llywodraeth Leol, i enwebu mannau gwyrdd sy'n cynnwys cofeb ryfel sydd â rhywfaint o arwyddocâd i'r Rhyfel Byd Cyntaf 1914-1918.

 

Drwy gymryd rhan yn y fenter, bydd y Cyngor yn ymrwymo i Weithred Gyflwyno, sef cytundeb cyfreithiol rhwymol sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ymgynghori â'r cyhoedd cyn dod i benderfyniad terfynol.

 

Mae Gerddi'r Faenor yn bodloni'r meini prawf oherwydd ei gofeb arwyr rhyfel a ddadorchuddiwyd ym 1921 ac mae'n cynnwys enwau'r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac enwau aelodau'r pwyllgor a oedd yn gyfrifol am ei gosod.

 

Mae Gerddi Alexandra o fewn Parc Cathays yn gartref i Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru a ddadorchuddiwyd gan Dywysog Cymru ym 1928 ac mae'n coffáu'r milwyr hynny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys plac coffa ar gyfer y rhai a gollodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd.


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Nod menter Meysydd y Canmlwyddiant yw diogelu parciau a mannau gwyrdd yn ogystal â hyrwyddo'r defnydd ohonynt ar gyfer hamdden, cydlyniad cymdeithasol, iechyd, lles a budd i'r gymuned.

 

"Rydym yn falch o gael mwy o fannau gwyrdd y pen yma yng Nghaerdydd nag unrhyw ddinas graidd arall yn y DU a thrwy enwebu Gerddi'r Faenor a Gerddi Alexandra fel ymgeiswyr ar gyfer Meysydd y Canmlwyddiant, atgyfnerthu eu pwysigrwydd hanesyddol a'u defnydd amhrisiadwy fel asedau cymunedol.
Y
n bwysig ddigon, byddai hefyd yn sefydlu'r parciau fel safleoedd i'w cofio, gan gydnabod arwyddocâd y rheini o gymunedau lleol a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro."