The essential journalist news source
Back
29.
November
2018.
Agor Ysgol Gymraeg Glan Morfa yn Swyddogol

Mae Ysgol Glan Morfa yn Sblot, Caerdydd, wedi ei hagor yn swyddogol gan Arweinydd Cyngor Caerdydd y Cyng. Huw Thomas ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.

Ymunodd plant, staff a llywodraethwyr yr ysgol â'r Pennaeth, Mr Meilir Tomos, i groesawu'r gwesteion, yn cynnwys hefyd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry, gwleidyddion lleol a'r rhai a fu'n rhan allweddol o adeiladu'r ysgol.

Mae'r ysgol newydd wedi ei hariannu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymro, trwy raglen Addysg ac Ysgolion y 21ain Ganrif Band A £164m y ddinas.

Mae'r ddarpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal wedi dyblu, ac mae lle yn yr ysgol newydd i hyd at 420 disgybl mewn dau ddosbarth fesul blwyddyn, o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6, yn ogystal â 80 lle rhan amser yn yr ysgol feithrin.

Agorodd gatiau Ysgol Glan Morfa am y tro cyntaf yn ei chartref newydd gwerth £7.8miliwn ym mis Medi, wedi iddi symud o'i safle yn Moorland Road gerllaw dros yr haf.

Wrth fyfyrio am siwrne'r ysgol, dywedodd Mr Tomos:"Rydw i wrth fy modd bod Ysgol Glan Morfa nawr wedi agor yn swyddogol.Mae'r adeilad yn cynrychioli cyfnod newydd a chyffrous i'r ysgol oherwydd y mae'n rhoi'r gallu i ni gynnig rhagor fyth o gyfleoedd addysgol i'n plan, mewn adeilad modern ac wedi ei adeiladu at y diben.

"Hoffwn i ddiolch i'n cymuned wych am dderbyn a chefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn y rhan hon o'r ddinas.Mae hefyd yn dod a ni gam yn nes at wireddu ein huchelgais o ddod yn un o ysgolion gorau Caerdydd a Chymru."

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Mae hon yn foment arall arwyddocaol yn addysg cyfrwng Cymraeg, nid yn unig yn Sblot ond yng Nghaerdydd gyfan.Mae agor Ysgol Glan Morfa yn swyddogol yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i annog twf yr iaith yn y brifddinas.

"Mae dyblu'r ddarpariaeth yn Sblot yn enghraifft arall o'n gwaith fel cyngor, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, i ateb y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd trwy ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sydd werth miliynau.

"Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael rhannu mwynhad yr achlysur â'r holl blant, Mr Tomos a chymuned yr ysgol.Hoffwn ddiolch i Meilir a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Gareth Price, ynghyd â phawb a fu ynghlwm â'r project, am y gwaith a wnaethant i sicrhau trosglwyddo i'r safle newydd yn ddidrafferth.

"Rwy'n edrych ymlaen at gael gweld dyfodol Ysgol Glan Morfa wrth iddi gychwyn cyfnod newydd mewn cartref newydd, sy'n addas ar gyfer yr 21ainGanrif."

Dywedodd Kirsty Williams:"Ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yw'r rhaglen adeiladau ysgolion mwyaf uchelgeisiol ers y 1960au gyda buddsoddiad cyffredinol o £1.4biliwn. Mae'r rhaglen yn werth pob ceiniog gan fod ein disgyblion yn haeddu cael yr amgylchedd dysgu gorau ar gyfer eu datblygiad ac rwy'n falch dros ben fod Ysgol Glan Morfa yn cynnig hyn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith, gan ddymuno pob lwc ar gyfer eu dyfodol yn yr ysgol newydd hon i Mr Thomas, ei staff a'r disgyblion."

Mae'r cynllun wedi creu tua 2,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr mewn ysgol gynradd ddeulawr ac adeilad ysgol feithrin.

Mae'r ysgol newydd hefyd yn cynnwys cyfleusterau sydd ar gael i'r gymuned ehangach yn Sblot eu defnyddio, yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd ac ystafell i'w llogi.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Mae ysgol newydd Glan Morfa yn dyst eto o'r hyn rydyn ni'n ei wneud i barhau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynyddu dewis i rieni yng Nghaerdydd.Mae ein Huchelgais Prifddinas a Chaerdydd 2020, ein gweledigaeth ar gyfer addysg a dysgu yng Nghaerdydd, yn nodi ymrwymiad clir i gynnig rhagor o lefydd ysgol, gan sicrhau bod darpariaeth ar gael i bob teulu sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg."

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru gyhoeddi cam nesaf, neu Fand B, rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ddiwedd y llynedd, gyda chyfanswm o £284 miliwn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry:"Y buddsoddiad hwn yn ein hysgolion, sydd werth £284m, yw'r mwyaf erioed yng Nghaerdydd.Bydd yn ein galluogi i gynyddu'r momentwm rydym wedi'i greu drwy amrywiaeth gyffrous o ysgolion newydd rydym wedi'u hagor gyda Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ym Mand A y cynllun, a pharhau i greu ysgolion ysbrydoledig, cynaliadwy a chymunedol lle gall yr holl blant a phobl ifanc gyrraedd eu potensial."