The essential journalist news source
Back
27.
November
2018.
Cafodd cerfluniau eiconig yng Nghaerdydd eu gwisgo'n oren i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Atal Trais yn erbyn Menywod y Ce

Cafodd un ar bymtheg cerflun eiconig Caerdydd eu gwisgo mewn sashiau oren ar gyfer y Diwrnod Rhyngwladol Atal Trais yn erbyn Menywod ar 25 Tachwedd, ddydd Sul diwethaf.

Soroptimyddion Morgannwg a wisgodd y cerfluniau, gan gynnwys y Frenhines Buddug, yn Neuadd y Ddinas,Ivor Novelloar Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd, aMerchyng Ngerddi'r Orsedd, mewn sashiau oren llachar ar gyfer yr ymgyrch #CaerdyddynOren, sy'n rhan o'r Project Oren y Byd.

Cafodd dau gerflun arall,Glöwryn Heol-y-Frenhines  aJames Rice Buckleyar lawnt Eglwys Gadeiriol Llandaf eu gwisgo mewn sashiau gwyn, i gyd-fynd â'r gyfres o weithgareddau'r ddinas sy'n codi ymwybyddiaeth am y Rhuban Gwyn, yr ymgyrch a gychwynnwyd gan ddynion i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

Roed bathodyn Rhuban Gwyn ar y sashiau oren hefyd, yn arwydd bod dynion a menywod yn gweithio gyda'i gilydd i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.Bydd y sashiau yn aros am 16 Diwrnod o Weithredu gan arwain at Ddiwrnod Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig a gynhelir ar 10 Rhagfyr.

Dywedodd Enid Child, Llywydd  Soroptimyddion Rhyngwladol Morgannwg:"Mae hi'n hynod bwysig inni, fel aelodau o un o fudiadau menywod mwyaf y byd, gymryd rhan yn Ymgyrch y Cenhedloedd Unedig Oren y Byd  a hefyd i ddangos ein cefnogaeth ar gyfer y mentrau Rhuban Gwyn y mae Cyngor Caerdydd yn cymryd rhan ynddyn nhw.Caiff y sashiau eu clymu gyda bathodyn a gomisiynwyd yn benodol sy'n cynnwys logoSoroptimyddionRhyngwladol Prydain Fawr ac Iwerddon, yn ogystal â'r geiriau y mae'rSoroptimyddionyn eu dweud, sefNa i drais yn erbyn Menywod."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae Caerdydd yn gwbl gefnogol i Ymgyrch ‘Oren y Byd' sy'n alinio â nod y ddinas i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod ac yn bwysig hefyd, i herio agweddau ac ymgysylltu â phobl i drafod y problemau hyn.

Mae gan Gaerdydd hanes o lwyddiant wrth ymateb i gam-drin domestig ac yn gynharach eleni, cafodd Wobr Ranbarthol Rhuban Gwyn am ei hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod.

"Nawr yn ein pumed flwyddyn o gefnogi'r Rhuban Gwyn, rydym ni'n parhau i hyrwyddo'r ymgyrch hwn, trwy annog pobl i wisgo rhuban wen a gwneud addewid i beidio byth â chyflawni, cymeradwyo nac aros yn dawel ynghylch trais yn erbyn menywod ar unrhyw ffurf."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Mae Caerdydd yn cefnogi Ymgyrch ‘Oren y Byd' yn gyfan gwbl, ymgyrch sy'n cyd-fynd â nod y ddinas i godi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn menywod ac yn bwysig hefyd, sy'n herio agweddau ac yn annog pobl i drafod y problemau hyn.

"Mae gan Gaerdydd hanes o lwyddiant wrth ymateb i gam-drin domestig ac yn gynharach eleni, cafodd Wobr Ranbarthol Rhuban Gwyn am ei hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod.

"Nawr rydyn ni yn ein pumed flwyddyn o gefnogi'r Rhuban Gwyn ac yn parhau i hyrwyddo'r ymgyrch hwn, trwy annog pobl i wisgo rhuban gwyn a gwneud addewid i beidio byth â chyflawni, cymeradwyo nac aros yn dawel ynghylch trais yn erbyn menywod ar unrhyw ffurf."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth a Chennad Rhuban Gwyn Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Caro Wild:"Mae Caerdydd yn falch o gefnogi #CaerdyddynOren gan ddangos ein cefnogaeth a'n hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, a hefyd yn falch o ba mor weithgar ydym ni yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig, a enwir hefyd yn ‘Diwrnod Rhuban Gwyn', ar 25 Tachwedd.

"Fy rôl i fel cennad y Rhuban Gwyn yw annog dynion i drafod a herio'r diwylliant sy'n caniatáu cynifer o achosion o drais, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn erbyn menywod."Mae dynion a bechgyn yn rhan allweddol o herio'r agweddau a'r stereodepiau sy'n galluogi trais yn erbyn menywod a merched, a thrais yn gyffredinol, i ffynnu.Mae gennym ni Gynllun Rhuban Gwyn uchelgeisiol ac rydym yn ymrwymo i gyflawni'r camau gweithredu sydd ynddo.Gyda'n gilydd, mae cyfle gwirioneddol i ni wneud Caerdydd yn lle diogel i bawb."

Ymunwch â'r sgwrs #CaerdyddynOren #RhubanGwynCaerdyddarFro

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef o drais yn erbyn menywod, trais domestig neu drais rhywiol, gallwch geisio cymorth a chefnogaeth gan linell gymorth Byw Heb Ofn:0808 80 10 800 (llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim)www.livefearfree.gov.wales