Beth yw'r prif fathau o lygredd aer a achosir gan drafnidiaeth?
Y prif lygryddion o bryder yw nitrogen deuocsid () a gronynnau. Mae carbon deuocsid (CO2) yn nwy tŷ gwydr sy'n achosi newid yn yr hinsawdd. Mae trafnidiaeth ffordd yn gyfrifol am tua 80% o'r NO2a fesurir ar ochr y ffordd.
Beth sy'n creu mwy o nitrogen deuocsid - peiriannau disel neu betrol?
Caiff nitrogen deuocsid yn gysylltiedig â thrafnidiaeth ei allyrru'n bennaf gan beiriannau disel, er mae cerbydau petrol yn cynhyrchu rhywfaint hefyd. Nid yw cerbydau trydan yn cynhyrchu NO2.HGVs, LGVs a bysus sy'n gyfrifol am tua hanner yr allyriadau, gyda cheir preifat a thacsis yn gyfrifol am y gweddill. Mae cerbydau disel mwy newydd yn creu llawer llai o NO2na cherbydau disel hŷn.
Beth yw gronynnau?
Ceir gronynnau bach o lygredd yn yr aer. Daw'r brif ffynhonnell trafnidiaeth o beipiau gwacau, yn enwedig peiriannau disel. Mae llwch o frêcs a theiars wedi gwisgo hefyd yn ffynonellau o ronynnau ym mhob cerbyd, gan gynnwys cerbydau trydan.
Oes unrhyw ffynonellau eraill o lygredd aer?
Mae ffynonellau sylweddol eraill o lygredd yn cynnwys tanwydd solid domestig, awyrennau a llongau, ac amaethyddiaeth a diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, ynghyd â ffynonellau naturiol.
Beth yw effaith llygredd aer ar iechyd?
Mae effeithiau byr dymor llygredd aer yn cynnwys gwaethygiad o ran cyflyrau'r galon ac ysgyfaint sydd eisoes yn bodoli, megis asthma a broncitis. Ni fydd y mwyafrif o bobl yn dioddef effeithiau salwch byr dymor o gael eu hamlygu i'r crynodiadau o lygredd aer a fesurir fel arfer yng Nghaerdydd, ond gall unigolion a grwpiau agored i niwed gael eu heffeithio ar adegau pan fo'r llygredd aer yn waeth. Mae grwpiau mwy agored i niwed yn cynnwys y rheiny â chyflyrau'r galon ac ysgyfaint sydd eisoes yn bodoli; a phlant a phobl hŷn.
Beth am yr effeithiau iechyd hir dymor?
Mae effeithiau hir dymor llygredd aer yn cynnwys cyfraddau uwch o glefyd yr ysgyfaint a chlefyd cardiofasgwlaidd (gan gynnwys clefyd y galon a strôc) a chanser, a chysylltiad â chlefyd y siwgr math 2. Amcangyfrifir bod aer wedi'i lygru yn achosi'r hyn sy'n gyfwerth â thua 40,000 o farwolaethau bob blwyddyn ledled y DU, ac amcangyfrifir bod disgwyliad oes cyffredin yn cael ei leihau gan 7-8 mis oherwydd llygredd aer.
Oes unrhyw lefel diogel o lygredd?
Nid oes unrhyw lefel ddiogel o amlygiad i lygredd aer mewn gronynnau, nac o ran amlygiad tymor byr i NO2. Mae effeithiau amlygiad yn cynyddu gyda hyd yr amlygiad.
Ai Caerdydd yw'r unig ddinas â'r broblem hon?
Nid Caerdydd yw'r unig ddinas â'r broblem hon.
Yn y DU, mae 28 dinas wedi'u nodi â phroblemau llygredd aer, gan gynnwys Caerdydd, ac rydym yn edrych ar y ffordd orau o amddiffyn iechyd pobl a glanhau ein haer. Mae nifer o wahanol ddulliau'n cael eu defnyddio, ond yng Nghymru a Lloegr mae fframweithiau'r Llywodraeth yn gosod rhai o'r pethau y mae angen i ni eu hystyried fel atebion.
Mae problem mewn sawl gwlad o amgylch y byd; mewn rhai gwledydd datblygol mae'r crynodiadau o lygredd yn uwch ac felly'n llawer mwy peryglus; ac mae nifer o wledydd eraill yn Ewrop sy'n wynebu heriau tebyg i ni.
Pam ydyn ni'n clywed mwy am lygredd aer nawr?
Nid yw crynodiadau llygredd aer yn y DU yn disgyn mor gyflym ag y disgwylir, neu yn ôl yr hyn sy'n ofynnol dan y gyfraith. Hefyd, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi cael mwy o dystiolaeth sy'n cysylltu amlygiad hir dymor i lygredd aer gyda phroblemau iechyd.
Beth allwn ni ei wneud i leihau llygredd aer?
Un o'r prif gamau y mae angen i ni ei gymryd yw lleihau nifer y siwrneiau a wneir mewn cerbydau sy'n llygru yng Nghaerdydd a'r ardal. Hefyd mae camau'n parhau i gael eu cymryd trwy fframweithiau rheoliadol presennol i sicrhau bod ffynonellau eraill o lygredd aer hefyd yn cael eu rheoli.
Sut allwn ni leihau nifer y siwrneiau a wneir mewn cerbydau sy'n llygru?
Mae nifer o wahanol ffyrdd o wneud hyn, ac mae Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid yn eu hadolygu ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn cynnwys annog mwy o bobl i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar gyfer siwrneiau byr, ac annog mwy o bobl i brynu cerbydau trydan.
Beth fydd yr effaith ar iechyd o leihau llygredd aer?
Drwy leihau llygredd aer bydd y risgiau iechyd hir dymor a ddisgrifir uchod yn mynd yn llai i bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Drwy newid sut rydym yn teithio o gwmpas ceir manteision ychwanegol hefyd, nid dim ond y rheiny sy'n gysylltiedig ag ansawdd aer.
Beth yw'r manteision iechyd ychwanegol?
Os byddwch yn cerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus byddwch yn cael mwy o ymarfer corff nag wrth neidio'n syth i'ch car o'ch tŷ. Mae lefelau gorbwysedd, gordewdra, a chlefyd y siwgr math 2 wedi cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac yn arwain at broblemau iechyd hir dymor. Drwy gefnogi pobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gallwn helpu i ymdrin â hyn. Mae unigolion iachach hefyd yn gallu addasu'n well i amlygiad i lygredd aer, felly maen nhw'n llai tueddol o ddioddef yr effeithiau. Mae bod yn gorfforol actif hefyd yn lleihau'r risg o sawl salwch arall gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, afiechyd anadlol a dementia, a bydd cyflogeion yn cymryd llawer llai o ddiwrnodau salwch bob blwyddyn.
Gall bod yn gorfforol actif helpu gyda iechyd meddwl hefyd - rydych yn llai tebygol o brofi gofid a thymer isel os ydych yn actif yn rheolaidd. Mae cyfuno ymarfer corff gyda'ch siwrne ddyddiol yn ffordd wych o gynnwys ymarfer corff yn eich bywyd.
Oes unrhyw fanteision eraill?
Gallai anaf a marwolaeth o wrthdrawiadau gyda cheir hefyd leihau. Yr achos marwolaeth mwyaf cyffredin i blant rhwng 5 a 14 oed yw cael eu taro gan gar.
Yn olaf, mae Cymru, fel y DU a mwyafrif gweddill y Byd, wedi ymrwymo i Gytundeb Paris i leihau allyriadau CO2i helpu i atal cynhesu byd-eang. Bydd annog cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ein helpu i leihau allyriadau carbon, gan adael y byd yn lle gwell i ni a chenedlaethau'r dyfodol.
Lle gallaf gael rhagor o wybodaeth am lygredd aer?
Gweler cynllun Llywodraeth Cymru,Mynd i'r afael â chrynodiadau NO2 ar ochr y ffordd yng Nghymru.