The essential journalist news source
Back
9.
November
2018.
Y Cyngor am fynd i’r afael â phroblemau iechyd a achosir gan draffig ffordd

 

Mae arolwg annibynnol wedi'i gomisiynu gan y Cyngor i ragweld lefel llygru NO2yn y dyfodol yn y ddinas wedi nodi dim ond un stryd lle mae cyfyngiadau cyfreithiol UE yn debygol o gael eu torri yn y dyfodol.

Mae'r arolwg, wedi'i wneud gan arbenigwyr y diwydiant, Ricardo, yn dilyn astudiaethau tebyg wedi'u gwneud mewn sawl dinas fawr ym Mhrydain. Mae'n dangos mai dim ond Stryd y Castell, sy'n rhedeg o flaen y castell o Heol y Porth i Heol y Dug, sy'n debygol o fethu â chydymffurfio'n gyfreithiol ar ôl 2021 os na wneir unrhyw beth i leihau llygredd traffig.

Mae bellach gan y Cyngor hyd at fis Mehefin y flwyddyn nesaf (2019) i lunio cynllun i leihau lefel llygredd yn Stryd y Castell cyn gynted â phosibl ac i sicrhau na thorrir cyfyngiadau cyfreithiol NO2erbyn 2021.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae newyddion y galli un ffordd yn y ddinas dorri cyfyngiadau cyfreithiol os nad ydyn ni'n cymryd camau yn bryderus. Mae llawer o ddinasoedd eraill yn y DU yn darganfod bod yr aer y mae eu trigolion yn ei anadlu wedi'i lygru'n fawr o ganlyniad i grynoadau uchel o fygdarthau sy'n dod o gerbydau disel. 

"Er mai dim ond un ffordd yng Nghaerdydd sydd wedi'i modelu i dorri cyfyngiadau cyfreithiol erbyn 2021, nid yw hyn yn golygu nad oes gennym broblem yn y ddinas, yn wir, mae problem gennym.Mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud yn glir nad oes lefel diogel o NO2neu lygredd aer gronynnol a wybyddir.Po fwyaf y mae person mewn llygredd, y mwyaf yw effeithiau'r llygredd ac mae astudiaethau wedi dangos ei fod yn gyfrifol am gyfraddau uwch o glefyd yr ysgyfaint a chanser.

"Mae llygredd aer yn Stryd y Castell yn symptom o broblem ehangach sy'n ymestyn y tu hwnt i'r darn o ffordd hwn.Er rydym o fewn cyfyngiadau cyfreithiol ledled y ddinas, po fwyaf y gallwn ni wneud yr aer, y gorau y bydd i bawb. Byddwn bellach yn edrych ar gyflwyno ystod o fesurau, fydd nid yn unig yn datrys y broblem yn Stryd y Castell, ond fydd hefyd yn helpu i wneud yr aer rydym yn ei anadlu ledled y ddinas yn lanach. Bydd y Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru am gyllid angenrheidiol er mwyn rhoi'r mesurau hyn ar waith cyn gynted â phosibl.

"Er bod y data sy'n ofynnol dan Gyfarwyddeb yr UE yn dangos mai dim ond Stryd y Castell sydd ddim yn cyrraedd y lefel angenrheidiol, mae gan y Cyngor nifer o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) eraill ar waith hefyd lle mae'r lefel o nitrogen deuocsid (NO2) ar ymyl y ffordd yn agos at neu'n uwch na'r cyfyngiadau cyfreithiol.

"Yn ARhAA Canol y Ddinas, ac yn arbennig yn Heol y Porth, dangosodd ein monitro diweddaraf mewn lleoliadau preswyl werth cyfartalog blynyddol o 38.2 microgram y metr ciwbig. Mae yna leoliadau eraill yn Heol y Porth a'r cyffiniau lle mae'r lefelau o NO2yn destun pryder, felly mae'n amlwg taw nid Stryd y Castell yw'r unig broblem yng nghanol y ddinas.

"Fel mae Llywodraeth Cymru wedi nodi, nid yw ansawdd aer sy'n cydymffurfio â'r amcanion o drwch blewyn yn ‘lân', ac mae'n peri risgiau iechyd hirdymor o hyd. Rhoddwyd cyngor y dylid cadw lefelau mor isel ag sy'n ‘rhesymol ymarferol.' Mae cynllun gweithredu dros dro ar waith yn Heol y Porth, ond dylai'r mesurau hirdymor sy'n cael eu cynnig i leihau'r lefel yn Stryd y Castell mewn tro leihau'r lefelau ar strydoedd eraill yng nghanol y ddinas, gan gynnwys Heol y Porth yn enwedig."

Yn dilyn her gyfreithiol gan Client Earth ar Lywodraeth Cymru, cafodd Cyngor Caerdydd ei orchymyn yn gyfreithiol i wneud astudiaeth o ddichonoldeb i asesu pa strydoedd y ddinas fyddai'n methu lefelau llygredd cyfreithiol ar ôl 2021 pe na chaiff unrhyw gamau eu cymryd i leihau llygredd.

Yn rhan o gam nesaf yr astudiaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Cyngor feincnodi unrhyw fesurau y mae am eu cyflwyno i leihau llygredd NO2 er mwyn creu Ardal Gwefru Aer Glân. Os bydd Ardal Gwefru Aer Glân yn lleihau llygredd fel y bydd o dan gyfyngiadau cyfreithiol cyn gynted â phosibl yna mae'n bosibl y bydd yn rhaid i'r Cyngor ystyried hyn fel y dewis ddatrysiad.

Mae'r cyfyngiad cyfreithiol wedi'i osod ar gyfartaledd werth cyfyngiad blynyddol o 40 microgram fesul metr ciwbig. Amcangyfrif bod llygredd aer yn achosi 40,000 o farwolaethau y flwyddyn ledled y DU a rhagwelir y bydd disgwyliad oes ar gyfartaledd yn gostwng gan 7-8 mis o ganlyniad i lygredd aer.

 

Yn rhan o gam nesaf yr astudiaeth o ddichonoldeb, mae nifer o fesurau i leihau llygredd NO2 ledled y ddinas yn cael eu hasesu gan y Cyngor gan gynnwys:

 

        Gweithredu cyfyngiadau cyflymder pellach, gan wella'r ardaloedd cyfyngiad cyflymder 20MYA wedi'u sefydlu;

        Datblygu seilwaith y Draffordd Feicio ac ymestyn y cynllun Nextbike;

        Cynyddu nifer y bysus dim allyriadau ar rwydwaith Caerdydd;

        Gwella'r polisi trwyddedu tacsis i osod safonau allyriadau cerbydau;

        Gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, beicwyr a cherddwyr o'r orsaf fysus newydd a'r ffyrdd o ganol y ddinas;

        Cynyddu nifer y lonydd bysus i annog trafnidiaeth gyhoeddus a gwneud teithio ar fws yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy;

        Cyflymu rhaglenni Parcio a Theithio yng ngogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain Caerdydd;

        Gwella a hyrwyddo cerbydau allyriadau isel trwy fuddsoddi yn seilwaith gwefru trydanol Caerdydd.

Dywedodd y Cyng. Wild: "Byddwn bellach yn modelu ymyriadau i ddod o hyd i'r ffordd gyflymaf o ddatrys y broblem yn Stryd y Castell ac i leihau lefelau llygredd yn rhywle arall.

"Bydd angen cefnogaeth ariannol lawn Llywodraeth Cymru i leihau llygredd NO2. Yn y cyfamser mae pethau syth y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu. Byddwn yn annog pobl i ddechrau lleihau eu dibyniaeth ar geir preifat, a lle bo'n bosibl dechrau defnyddio ffurfiau eraill o drafnidiaeth gynaliadwy, megis cerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain, mae traffig yn gyfrifol am tua 80% o'r NO2a fesurir ar y ffordd felly mae angen i ni newid y ffordd rydym yn gwneud pethau.

"Os gallwn ni newid y ffordd mae pobl yn symud o gwmpas y ddinas - ac mae gennym gynlluniau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn haws ac yn fwy effeithlon tra'n gwella dewisiadau cerdded a beicio - yna gallwn ni i gyd helpu i wneud y ddinas yn iachach tra'n lleihau llygredd a thagfeydd ar ein ffyrdd."

Yng nghyfarfod y Cabinet ar 15 Tachwedd, caiff y Cabinet ei argymell i gymeradwyo'r Adrodd Dichonoldeb Aer Glân ac i alluogi gwaith i ddechrau ar asesu effaith unrhyw fesurau arfaethedig i leihau llygredd aer wedi'u meincnodi yn erbyn Ardal Gwefru Aer Glân. Mae'r meincnodi yn erbyn Ardal Gwefru Aer Glan yn ofyniad gan Lywodraeth Cymru wedi'i ddylunio i gael gwybod p'un fydd yn lleihau llygredd yn gyflymach.

Mae'r gorchymyn cyfreithiol wedi'i roi gan Lywodraeth Cymru yn nodi amserlen benodol. Hyd yma mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno'r cynigion cwmpasu cychwynnol a'r astudiaeth o ddichonoldeb.Mae'n rhaid cyflwyno'r cynllun terfynol (achos busnes ar ein dewis opsiwn) i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Mehefin 2019. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i wneud cais am gyllid i gyflwyno mesurau i leihau llygredd fel y bydd o dan ofynion cyfreithiol cyn gynted â phosibl.