The essential journalist news source
Back
8.
November
2018.
Tactegau newydd i ddelio gyda cherbydau problemus

Mae troseddwyr parcio a thraffig dyfal a pherchenogion cerbydau heb eu trethu yng Nghaerdydd yn wynebu cael olwynion eu cerbydau eu clampio a hyd yn oed eu symud gan y Cyngor ar ran y DVLA.

Trwy ddefnyddio pwerau eisoes wedi'u rhoi a chyda chaniatâd y DVLA, gallai swyddogion gorfodi traffig y Cyngor glampio a symud cerbydau sy'n achosi niwsans ledled y ddinas yn fuan.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn penderfynu yn ei gyfarfod ddydd Iau 15 Tachwedd a fydd yn mabwysiadu'r pwerau newydd.

Mae'r cerbydau a allai gael eu targedu yn rhan o hyn yn cynnwys:

  • Troseddwyr tocynnau traffig a pharcio dyfal (cerbydau sy'n gysylltiedig â nifer o ddirwyon traffig neu barcio heb eu talu)
  • Cerbydau sy'n achosi rhwystr anghyfreithlon peryglus ar ffyrdd gyda llinellau melyn dwbl neu gyfyngiadau traffig eraill
  • Cerbydau heb berchennog cofrestredig gyda'r DVLA a cherbydau nad ydynt wedi'u trethu ers dau fis neu fwy.

Ni chaiff cerbydau eu clampio am droseddau parcio arferol, oni bai eu bod wedi'u parcio'n beryglus ar y briffordd.

Ar hyn o bryd mae mwy na 8,500 o gerbydau heb eu trethu ar strydoedd y ddinas. Mewn llawer o achosion, mae ceir sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon yn achosi rhwystr ac yn berygl i gerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd.Yn aml, gyda rhai troseddwyr, nid yw technegau gorfodi cyfredol yn bosibl neu mae hysbysiadau tâl cosb yn cael eu hanwybyddu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Mae'r polisi newydd hwn yn ymwneud â chlirio ein strydoedd o gerbydau peryglus a chau'n dyn ar bobl nad ydynt yn parchu'r rheolau'n gyson. Rydym hefyd yn gwybod bod cydberthyniad cryf rhwng cerbydau heb eu cofrestru a throsedd, felly rydym yn falch bod bellach gennym bwerau i weithredu."

Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r mesurau newydd, caiff cynllun codi tâl ei roi ar waith i berchenogion adennill eu cerbydau.

Mae strwythur codi tâl arfaethedig fel a ganlyn:

  • Os caiff cerbyd ei glampio, bydd angen i'r gyrrwr dalu ffi ryddhau o £40 a'r ddirwy ddyledus o naill ai £25 neu £35
  • Os yw cerbyd sydd wedi'i barcio'n anghyfreithlon wedi'i symud, bydd angen i'r deiliad cofrestredig dalu ffi ryddhau o £105, y ddirwy ddyledus o naill ai £25 neu £35 yn ogystal â chost storio sef £12 y diwrnod.
  • Os yw car wedi'i glampio neu'i symud oherwydd nad yw wedi'i drethu, bydd angen i'r deiliad cofrestredig dalu £100 yn ogystal â ffi sicrwydd o £160 os caiff ei dalu o fewn 24 awr.
  • Os yw car wedi'i glampio neu'i symud ac na thelir amdano o fewn 24 awr, bydd angen i'r deiliad cofrestredig dalu £200 yn ogystal â ffi sicrwydd o £160 a chost storio o £21 y diwrnod.
  • Os yw bws neu gerbyd nwyddau trwm wedi'i glampio neu'i symud gan nad yw wedi'i drethu, mae'r ffioedd uchod yn berthnasol ond bydd y ffi sicrwydd yn cynyddu i £330 

Mae eisoes gan y Cyngor gerbydau gorfodi sy'n defnyddio technoleg Adnabod Platiau Rhif Awtomataidd (APRhA). Bydd y DVLA yn rhannu data fel y gall technolegAPRhAganfod ceir heb eu trethu neu droseddwyr dyfal.

Gofynnir i'r Cabinet gymeradwyo'r polisi newydd ar gyfer clampio a symud cerbydau niwsans, yn ogystal â chymeradwyo'r defnydd o bwerau wedi'u rhoi i roi'r mesurau newydd hyn ar waith.