The essential journalist news source
Back
8.
November
2018.
Cofeb Ryfel Genedlaethol wedi’i hadfer cyn Canmlwyddiant y Cadoediad

 

Mae Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru wedi cael gwaith adfer helaeth cyn canmlwyddiant Dydd y Cadoediad dros y penwythnos.

 

Diolch i gyllid grant gan Gynllun Grantiau'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, gyda chefnogaeth Rhaglen Cofebion y Rhyfel Mawr a Cadw, mae'r gofeb gyfan yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, wedi'i glanhau'n broffesiynol ac wedi'i thrwsio cyn i Gymru nodi Sul y Cofio.

 

Mae'r grant o £29,720 gan yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel a hyd at £10,000 gan Cadw hefyd wedi galluogi i gerfluniau'r gofeb gael eu glanhau a'u cwyro, ynghyd â gwaith hanfodol ar y ffynhonnau a'r draenio.Gwnaeth y gwaith gan Abbey Masonry & Restoration Ltd a Davies Sutton Architects ar y cyd â Gwasanaethau Profedigaeth Cyngor Caerdydd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:"Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru fydd canolbwynt y Cofio ddydd Sul, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel a Cadw am y cyllid sydd wedi galluogi'r gwaith adfer.

 

"Wrth i ni baratoi at nodi canmlwyddiant ers i'r Cadoediad gael ei lofnodi a chofio'r gwasanaeth a'r aberth a wnaeth dynion a menywod dewr ein gwlad dros y blynyddoedd, rwy'n falch o gael dweud bod y gofadail bwysig hon yn ôl ar ei gorau."

 

Mae Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yn strwythur rhestredig Gradd II*, a ddyluniwyd gan Syr John Ninian Comper. Cafodd ei chwblhau ym mis Mehefin 1928 i gofio am y rheiny a fu farw yn ystod y Rhyfel Mawr.Mae'r gofadail yn cynnwys colonâd cylchol sydd â 21 colofn Gorinthaidd anffliwtiog gyda thri phortico petryalog ymestynnol.

 

Mae arysgrif Saesneg ar y ffris mewnol sy'n nodi "Remember here in Peace those who in Tumult of War by Sea, on Land, in Air, for us and for our Victory endured unto Death" ac mae'r arysgrif Cymraeg ar y ffris allanol yn nodi "I Feibion Cymru A Rhoddes Eu Bywyd Dros Eu Gwlad Yn Rhyfel MCMXIV - MCMXVIII".

 

Mae gan y gofadail borticos â gatiau, a phob un yn cynnwys tri cham yn arwain i lawr at ofod cylchog. Yn y gofod hwnnw ceir basn ffynnon cylchol gyda llwyfan yn y canol.Mae tri ffigwr efydd yn y canol - milwr, awyrennwr a morwr, a phob un yn gafael mewn plethdorch o dan yr Archangel Mihangel efydd, sy'n cynrychioli Buddugoliaeth, yn sefyll ar y llwyfan yn gafael mewn cleddyf.

 

Dywedodd Frances Moreton, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel:"Mae cofebion rhyfel yn gysylltiad go iawn â'n gorffennol ac maen nhw'n creu cyswllt rhwng y rhai fu farw a'r genhedlaeth bresennol.Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod ein holl gofebion rhyfel ar eu gorau ac mae'r elusen yn falch o gefnogi'r project hwn.Mae canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle gwych i gymunedau lleol ledled y wlad ddiogelu a chadw eu cofebion rhyfel.Os oes unrhyw sy'n gwybod am unrhyw gofebion rhyfel eraill y mae angen ein help arnynt, cysylltwch â ni."