The essential journalist news source
Back
8.
November
2018.
Datblygu'r arena dan do yn cymryd cam arall ymlaen


Bydd cynlluniau Caerdydd ar gyfer arena dan do 15,000 newydd yn y Bae yn cymryd cam ymlaen y mis hwn os bydd Cabinet y Cyngor yn rhoi caniatâd i fwrw ymlaen â gwaith dylunio manwl.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cynllun yn dod yn ôl i'r Cabinet ar gyfer penderfyniad ym mis Mawrth 2019, a byddai cais cynllunio ar gyfer y datblygiad yn cael ei gyflwyno erbyn Gorffennaf 2019.

Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn datgelu y gallai Canolfan y Ddraig Goch gael ei dymchwel i wneud lle ar gyfer yr arena newydd dan do a fyddai'n wynebu Lloyd George Avenue a'r basn hirgrwn. Cyn i hynny ddigwydd, byddai Canolfan y Ddraig Goch a safle manwerthu newydd sbon yn cael eu hadeiladu wrth ymyl yr arena i wella'r cynnig hamdden ymhellach.

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros fuddsoddi a datblygu:"Rydym am ailfywiogi Bae Caerdydd gan roi hwb i'w broffil fel cyrchfan sy'n seiliedig ar hamdden.Gall y datblygiad newydd hwn helpu i ailfywiogi'r ardal, gan ddarparu atyniadau newydd i drigolion ac ymwelwyr eu mwynhau."

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn dangos sut y gellid datblygu safle'r arena ar sail cam wrth gam.

Yn y lle cyntaf, byddai maes parcio aml-lawr newydd yn cael ei adeiladu ar faes parcio ychwanegol Canolfan y Ddraig Goch. Byddai hyn yn rhyddhau prif faes parcio Canolfan y Ddraig Goch a fyddai'n dod yn safle canolfan hamdden a manwerthu newydd.

Ar ôl ei gwblhau, byddai tenantiaid presennol Canolfan y Ddraig Goch yn trosglwyddo i'r datblygiad newydd a fyddai hefyd yn cynnwys cyfleoedd i fusnesau eraill sicrhau presenoldeb yn y Bae. Byddai Canolfan y Ddraig Goch yn cael ei dymchwel wedyn er mwyn i'r gwaith ddechrau ar yr arena newydd.

Os bydd y Cabinet yn cytuno ar yr adroddiad bydd y Cyngor yn dechrau gweithio mewn partneriaeth â pherchennog Canolfan y Ddraig Goch-cronfa bensiwn British Airways - a'u partner cyflawni Reef Group - i drawsnewid y safle yn gyrchfan hamdden a manwerthu o'r radd flaenaf, gan baratoi'r ffordd ar gyfer adeiladu'r arena.

Aeth y Cynghorydd Goodway ymlaen i ddweud: "Bu cryn ddiddordeb yn y prosiect hwn gan amrywiaeth o weithredwyr arena yn y DU. Mae'n amlwg bod marchnad yn bodoli. Mae Live Nation, gweithredydd presennol arena Motorpoint ac un o hyrwyddwyr digwyddiadau mwyaf blaenllaw y byd, hefyd wedi cysylltu â'r Cyngor ac wedi cadarnhau'n ysgrifenedig y byddai'n rhoi'r gorau i weithredu'r arena Motorpoint presennol pe baent yn llwyddo i sicrhau'r brydles gweithredwr ar gyfer y cyfleuster newydd.

"Bydd nifer yr ymwelwyr ychwanegol y bydd yr arena a'r safle hamdden a manwerthu newydd yn eu cynhyrchu hefyd yn cynyddu'r galw am well cysylltiadau trafnidiaeth rhwng canol y ddinas a'r bae.Dylai hyn ond helpu i sbarduno'r angen am y system metro newydd a gallai gosod arena yn y Bae helpu i gyflymu'r broses o gwblhau ffordd gyswllt y Bae dwyreiniol."

Caiff y penderfyniad i fwrw ymlaen ei wneud gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd.