The essential journalist news source
Back
7.
November
2018.
Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru

Cynhelir arfer Sul y cofio cenedlaethol Cymru, sy'n cael ei gynnal ar y cyd gan Gyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol ddydd Sul 11 Tachwedd 2018. 

Bydd carfannau o'r Llynges Frenhinol, y fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, yn gorymdeithio o Rodfa'r Brenin Edward VII drwy Rodfa'r Amgueddfa i gofeb ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymuno o amgylch y gofeb. 

Bydd colofnau o gyn-filwyr, wedi'u trefnu gan y Lleng Prydeinig Brenhinol a cholofnau o sifiliaid sy'n cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdrawiadau presennol a'r gorffennol yn ymuno â'r carfannau hynny. 

Cyn cychwyn y gwasanaeth, bydd Llyfr Coffa Cenedlaethol Cymru yn cael ei orymdeithio gan aelodau o'r lluoedd arfog o'r Deml Heddwch i le o anrhydedd yn y Gofeb Ryfel Genedlaethol Gymreig. 

Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan fand y Sioe Frenhinol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol o 10:40am tan ychydig cyn 11am pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gydag ymbiliau a geiriau o'r ysgrythurau a roddir gan gaplan anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. 

Bydd band Byddin yr Iachawdwriaeth yn Nhreganna hefyd yn arwain cyn-filwyr i'r Senotaff a bydd yn parhau i chwarae hyd nes cychwyn y gwasanaeth ac yn ystod y canu emynau.

Bydd Côr Meibion Parc yr Arfau Caerdydd hefyd yn arwain y canu emynau yn ystod y gwasanaeth. 

Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' yn dilyn am 11am gan gwn o'r 104 o'r Gatrawd Frenhinol Gymreig, Casnewydd a fydd yn tanio i nodi dechrau'r ddwy funud o dawelwch a fydd yn cael ei chadw. Bydd ei derfyn yn cael ei farcio unwaith eto gan danio'r gwn a chwarae 'Reveille' gan y biwglwr. 

Yna fe fydd Arglwydd Is-gapten ei Mawrhydi yn Ne Morgannwg, Morfudd Meredith, yn gosod torch wrth y gofeb, ar ran ei Mawrhydi'r Frenhines, wedi'i dilyn gan gynrychiolwyr o bob rhan o Gymru gan gynnwys y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Y Cynghorydd Huw Thomas. 

Bydd Helga Rother-Simmons, Is-gennad Anrhydeddus yr Almaen yng Nghymru hefyd yn gosod torch ar ran pobl yr Almaen a Llywodraeth yr Almaen. Gall Aelodau'r cyhoedd hefyd osod torchau yn y gofeb genedlaethol ar ôl y gwasanaeth. 

Ar ddiwedd y gwasanaeth bydd pawb sy'n cymryd rhan a gwesteion yn ymgynnull i dystio'r gorymdeithio heibio a saliwt a gymerwyd gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd y Cyng Dianne Rees o flaen Neuadd y Ddinas. 

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Wrth i'r brif genedl nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar 11 Tachwedd, 1918, mae mor bwysig o hyd ein bod yn anrhydeddu ac yn talu ein teyrnged i'r rhai a ymladdodd ac a syrthiodd mewn canrif o ryfel. 

"Wrth i ni ymgynnull eto eleni ym man coffa rhyfel Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ar Sul y cofio, rhoddwn ddiolch am aberth pawb a brofodd amodau annychmygadwy i drechu gormes a chadw rhyddid pob cenhedlaeth a ddilynodd." 

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:  "Mae'r Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol yn rhoi'r cyfle i adlewyrchu ar yr aberth y mae dynion a merched sy'n gwasanaethu wedi'i wneud i sicrhau ein rhyddid heddiw.  Bydd y digwyddiad eleni yn arbennig o emosiynol wrth i ni ddathlu 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. 

"Mae ein meddyliau gyda'r rheiny sydd wedi colli rhai annwyl mewn unrhyw ryfel ac hefyd gyda phersonél y lluoedd arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd i'n hamddiffyn." 

Dywedodd Antony Metcalfe, rheolwr ardal Cymru, y Lleng Brydeinig Frenhinol: "Y diwrnod hwn o'r Cadoediad rydym yn achub y cyfle nid yn unig i oedi a chofio'r rhai a wasanaethodd ac a aberthodd yn y rhyfel byd cyntaf, ond pawb sydd wedi syrthio wrth wasanaethu ein gwlad yn y can mlynedd ers hynny. Mae'n bwysig nad ydym byth yn anghofio cyfraniad ac aberth arwyr y gorffennol ond mae'n rhaid i ni edrych ymlaen hefyd gyda gobaith i'n cymuned Lluoedd Arfog heddiw."