The essential journalist news source
Back
31.
October
2018.
David Baddiel yn lansio Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2019; Dydd Iau 31 Rhagfyr

Bydd seithfed Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn cael dechrau direidus ym mis Rhagfyr, pan ddaw David Baddiel i Gaerdydd.

Mae'r comedïwr a'r awdur David Baddiel wedi ysgrifennu pump o lyfrau difyr i ddarllenwyr ifanc, sydd wedi gwerthu dros filiwn o gopïau.

Bydd David yn Neuadd y Ddinas ddydd Iau 13 Rhagfyr i siarad am ei lyfr diweddaraf, Head Kid, stori antur am wireddu breuddwydion y byddwch chi'n torri'ch bol yn chwerthin wrth ei darllen. Mae'r arolygwyr ysgol ar fin dod i ymweld ag ysgol Bracket Wood. Ond mae 'na broblem fawr: Ryan Ward, bachgen mwya' drwg yr ysgol. Beth fyddai'n digwydd petai'r pennaeth llym yn cyfnewid corff â bachgen mwya' drygionus yr ysgol? Pennaeth llym x bachgen drwg = helynt llwyr.

Mae'r digwyddiad yn nodi lansiad Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2019, rhaglen dros bythefnos o 30 Mawrth - 7 Ebrill. Mae'n dathlu'r llyfrau plant gorau a chyfoes, gyda digwyddiadau Cymraeg a Saesneg i blant o bob oed.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bydd y seithfed Gŵyl Llên Plant Caerdydd blynyddol yn 2019. Mae'n ddigwyddiad sy'n siŵr o ddiddori darllenwyr ifanc sy'n cynnig rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau yn ystod gŵyl arbennig am bythefnos.

"Mae'r ŵyl wedi tyfu bob blwyddyn ac mae'n dal i ysgogi a chyffroi plant o bob oed, gan hyrwyddo mwynhad o lyfrau a darllen. Bydd hefyd yn denu ystod o awduron a darlunwyr penigamp a phoblogaidd, ac rwy'n falch iawn o groesawu David Baddiel i Gaerdydd. Fodd bynnag, gofynnaf yn garedig iddo adael ei dri llew wrth y bont."

Mae tocynnau'r lansiad yn costio £5 ac maent ar werth ar https://www.cardiffkidslitfest.com/cy/. Anogir pobl i gadw tocynnau cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael rhai!

Rhowch dân ar ddychymyg eich plentyn, a'i gariad at ddarllen dros y Nadolig drwy brynu tocynnau ar gyfer Gŵyl Llên Plant Caerdydd y flwyddyn nesaf. Gall plant a phobl ifanc weld eu hoff awduron a darlunwyr wrth iddynt ddod â'u geiriau a'u lluniau ddod yn fyw.

Mewn lleoliadau eiconig ledled y ddinas, gyda straeon a pherfformiadau anhygoel gan gynnwys criw o gymeriadau ardderchog, maent yn wych i lenwi hosanau Nadolig pawb sy'n dwlu ar lyfrau plant. Bydd tocynnau ar gyfer Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2019 ar werth o 13 Rhagfyr 2018. 

I gael rhagor o wybodaeth am Ŵyl Llên Plant Caerdydd ewch i https://www.cardiffkidslitfest.com/cy/

@GwylLlenPlant