The essential journalist news source
Back
23.
October
2018.
Lansio Apêl Diffibriliwr Caerdydd

Mae elusen Gymreig wedi lansio apêl i gynyddu'r nifer o ddiffibrilwyr cyhoeddus sydd ar gael yng Nghaerdydd.

 

I nodi'r lansiad, mae dau ddiffibriliwr wedi eu rhoi gan yr elusen Calonnau Cymru gyda'r cyntaf wedi ei osod y tu allan i Ganolfan Siopa'r Capitol.Fe gawsant eu rhoi er cof am Liam John Humphreys ar ôl i'w deulu godi'r arian ar gyfer yr apêl.

 

Cefnogir apêl diffibrilwyr Calonnau Cymru gan Gyngor Caerdydd.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng Huw Thomas:"Rydym yn falch o allu cefnogi apêl Calonnau Cymru i gael mwy o ddiffibrilwyr wedi eu gosod ar hyd a lled y ddinas am eu bod nhw wir yn gallu achub bywydau.Un enghraifft ymarferol o'r modd yr ydym yn trosglwyddo'r neges ynghylch pwysigrwydd diffibrilwyr yw'r map rydym wedi ei greu ar ein App EVAC Caerdydd.Mae ein Huned Rheoli Argyfwng wedi cynnwys lleoliadau holl ddiffibrilwyr y ddinas ar y map hwn ac rwy'n annog pawb i lawrlwytho'r App a gwneud eu hunain yn gyfarwydd â lleoliadau'r diffibrilwyr hyn gan fod tystiolaeth yn awgrymu eu bod yn gwella cyfraddau goroesi yn sylweddol yn dilyn ataliad cardiaidd."

 

Yn ôl yr elusen, os caiff diffibriliwr ei ddefnyddio ac y perfformir Adfywio Cardio-pwlmonaidd effeithiol o fewn 3-5 munud o ataliad ar y galon, mae'r cyfraddau goroesi yn cynyddu 6% i 74%.

 

Mae Calonnau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaethau brys eraill i gynyddu mynediad at ddiffibrilwyr a hefyd i gynnig hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd am ddim i gymunedau ledled Cymru.Bellach ar ei phumed flwyddyn, mae'r elusen wedi gosod dros 1,400 o ddiffibrilwyr a hyfforddi dros 46,000 o bobl mewn Adfywio Cardio-pwlmonaidd.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr elusen Calonnau Cymru, Sharon Owen:"I mi, mae hon yn fenter sy'n agos at galon pawb, a ddylai neb yng Nghymru farw oherwydd diffyg mynediad cyhoeddus at ddiffibrilwyr gerllaw pe digwyddai argyfwng.Dylent fod ar gael ym mhob man.Mae dros 8000 o Ataliadau cardiaidd yn digwydd y tu allan i ysbytai  bob blwyddyn yng Nghymru ac mae cynyddu argaeledd diffibrilwyr cyhoeddus yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gyfraddau goroesi.Rydym yn falch o fod yn gallu gweithio gyda Chyngor Caerdydd ar y fenter hon".

 

Dywedodd AS Gogledd Caerdydd, Anna McMorrin:"Rydw i wrth fy modd yn ymuno â Sharon Owen o Calonnau Cymru ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas i gyflwyno un o ddau Ddiffibrilwyr cyhoeddus newydd yng Nghaerdydd.Mae'n gyfraniad hynod allweddol ac anhunanol gan Julie, ac un a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol.Mae hefyd yn ddechreuad gwych i Apêl Diffibriliwr Caerdydd Calonnau Cymru!Yn ddiweddar fe ges i a fy nhîm arddangosiad hyfforddi gan Calonnau Cymru er mwyn dangos pa mor rhwydd yw'r Diffibrilwyr hyn i'w defnyddio.Mae angen i ni drosglwyddo'r neges fel bod mwy o bobl yn gwybod eu bod nhw'n bodoli a pha bryd i'w defnyddio nhw.Mae diffibrilwyr cyhoeddus yn allweddol i gyflawni dyfodol lle nad yw neb yn marw cyn pryd o glefyd y galon, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Calonnau Cymru a Chyngor Caerdydd fel bod mwy ohonynt ar gael ledled y ddinas.

 

Dywedodd Rheolwr Canolfan Siopa'r Capitol, Charles Bevan-Barrett:Mae Canolfan Siopa'r Capitol yn falch o gael bod y safle cyntaf yng Nghaerdydd sydd â diffibriliwr cyhoeddus ar gael 24 awr y dydd fel rhan o ymgyrch Calonnau Cymru.Roeddwn i'n hynod falch i gael bod yn rhan o'r ymgyrch bwysig hon - un a all achub bywydau o bosib.Mae'r ymgyrch yma yn codi ymwybyddiaeth o'r darn o offer hanfodol hwn, yn enwedig i economi gyda'r hwyr pan fo busnesau eraill sydd a diffibrilwyr ar gau".

 

Er mwyn rhoi arian i Apêl Diffibriliwr Caerdydd ewch i:https://welshhearts.org/donate

 

I gael mwy o wybodaeth neu er mwyn cefnogi Calonnau Cymru, cysylltwch â'r Swyddfa Codi Arian ar 029 22 402670.