The essential journalist news source
Back
19.
October
2018.
Adroddiad Estyn Ysgol Gynradd Pen-y-Bryn : Arolygwyr yn canmol ysgol 'ofalgar a chynhwysol'

Mae Estyn wedi barnu fod Ysgol Gynradd Pen-y-Bryn yng Nghaerdydd yn ysgol dda, yr ail radd uchaf sy'n bosibl, a hynny yn y pum maes y mae arolygiaeth addysg Cymru yn edrych arnyn nhw. 

Yn dilyn ymweliad ym mis Gorffennaf, canfu'r arolygwyr fod ‘ethos ofalgar a chynhwysol iawn gan yr ysgol yn Llanrhymni, sy'n pwysleisio ar lesiant y disgyblion'. 

Adroddodd yr arolygwyr hefyd fod disgyblion yn dangos ‘lefel uchel o oddefgarwch a pharch at eraill' a'u bod 'yn ymddwyn yn dda iawn ac yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.' 

Yna, dywed yr adroddiad fod ‘ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol yn dda', gan nodi fod y cwricwlwm yn eang a chytbwys, yn ymgysylltu â disgyblion yn dda. 

Roedd Estyn hefyd yn cydnabod yr ‘effaith gadarnhaol ar lawer o agweddau ar fywyd a gwaith yr ysgol y mae, Mr Ceri Bowen, y Pennaeth a apwyntiwyd yn ddiweddar wedi ei chael. 

Gan roi ei ymateb i ganfyddiadau Estyn, dywedodd Mr Bowen: "Rydyn ni wrth ein boddau â chanlyniad ein harolwg diweddar. Rydyn ni'n arbennig o falch o weld Estyn yn cydnabod y lefelau o barch a goddefgarwch a ddangosir gan y disgyblion yn ogystal â'r ethos ofalgar a chynhwysol sy'n pwysleisio ar lesiant y disgyblion.

"Carwn dynnu sylw at ymrwymiad a dycnwch holl staff yr ysgol, yn y gorffennol a heddiw, yn sicrhau fod y disgyblion yn cyflawni'r gorau y gallant. Rydyn ni'n dîm cryf sydd yn gweithio'n dda gyda'n gilydd i ddatblygu gweledigaeth glir ar gyfer datblygiad yr ysgol i'r dyfodol." 

Ychwanegodd cadeirydd y llywodraethwyr, Claire Deguara: "Mae Pen y Bryn wedi bod trwy newidiadau sylweddol yn y blynyddoedd diweddar ac ni fyddai llwyddiant ein harolwg Estyn diweddaraf wedi gallu cael ei gyflawni heb gydweithio ein tîm o staff ymroddgar yn yr ysgol. 

"Maen nhw'n rhoi'r plant wrth galon popeth maen nhw'n ei wneud ac yn ymgorffori ein harwyddair 'lle daw plant yn gyntaf'.  Mae'r gymuned hefyd wedi chwarae ei rhan yn cefnogi'r ysgol ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus." 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rydw i wrth fy modd bod Estyn wedi cydnabod y safonau da a gyrhaeddwyd a diolch i bawb sydd ynghlwm wrth Ysgol Gynradd Pen-y-Bryn. 

Mae gwaith caled Mr Bowen, a'r holl staff, y Corff llywodraethu, y plant a'r rhieni wedi talu ar ei ganfed, a dylent oll deimlo'n falch o'r hyn a gyflawnwyd ganddynt hyd yma. Rwy'n gwybod fod penderfyniad yna nawr i barhau gyda'r gwaith caled, wrth i Ysgol Gynradd Pen-y-Bryn anelu am ragoriaeth."