The essential journalist news source
Back
19.
October
2018.
Gorchymyn i landlord dalu rhent yn ôl

 

 

Gorchmynnwyd landlord o Gymru i dalu'n ôl bron £4,000 a dalwyd iddo wrth iddo weithredu'n ddidrwydded.

 

Mae canlyniadau ariannol methu cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru yn digwydd i Lee Jones o Albion Road, Baglan, Port Talbot ar ôl i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) ddyfarnu'r swm cyfan y gofynnodd Rhentu Doeth Cymru amdano yn eu cais am Orchymyn Ad-dalu Rhent.

 

Yn gynharach eleni, plediodd Mr Jones yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd i weithredu fel landlord didrwydded nas cofrestrir a chafodd ddirwy a gorchymyn i dalu costau gwerth dros £400. Mae Mr Jones bellach yn wynebu gorfod ad-dalu cyfanswm pellach o £3,983.44, swm y budd-dal tai a gafodd gan denantiaid ei eiddo rhwng Chwefror a Rhagfyr 2017.

 

Dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, rhaid i bob landlord ag eiddo yng Nghymru gofrestru â Rhentu Doeth Cymru a rhaid i landlordiaid ac asiantau sy'n hunanreoli hefyd feddu ar drwydded.Dan y ddeddfwriaeth, gall ceisiadau gael eu cyflwyno i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru), y tribiwnlys annibynnol ar gyfer datrys gwrthdaro o ran eiddo rhent a phrydles breifat, i hawlio'n ôl unrhyw rent a dalwyd yn ystod y cyfnod yr oedd y landlord yn ddidrwydded.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu sengl dros Rentu Doeth Cymru,  y Cyng. Lynda Thorne: "Dyma garreg filltir i Rentu Doeth Cymru, y tro cyntaf i Orchymyn Ad-dalu Rhent gael ei dalu gan landlord didrwydded. Mae'n fodd arall i ni fynd ar ôl y sawl sydd heb gydymffurfio â'r cynllun. Nid yw'n deg i landlordiaid sy'n gwrthod cydymffurfio gael budd ariannol o weithredu'n anghyfreithlon tra bod y lliaws yn gwneud hynny.

 

"Dylai'r Gorchymyn Ad-dalu Rhent cyntaf hwn fod yn rhybudd i leiafrif y landlordiaid sy'n aros yn ddidrwydded.Maen nhw'n wynebu cael eu herlyn am ddiffyg cydymffurfiaeth, ac os bydd yn llwyddiannus bydd yn arwain at ddirwy a chofnod troseddol, ond gallent hefyd gael Gorchymyn Ad-dalu Rhent."