The essential journalist news source
Back
18.
October
2018.
Carcharor Rhyfel, darluniau a cherddi: Arddangosfa gan yr artist Norwyaidd, Bodil Friele yn yr Eglwys Norwyaidd
Ar 29 Gorfennaf 1943 roedd gŵr ifanc o Bergen yn Norwy y eistedd mewn awyren fomio Halifax dros diroedd yr Almaen ger Hamburg pan saethwyd yr awyren i lawr gan daflegrau atal awyrennau Almaenig.Rywsut, goroesodd y crash ac wedi pum niwrnod ar ffo fe'i daliwyd a threuliodd weddill y rhyfel mewn gwersyll rhyfel Almaenig.

Y dyn hwnnw oedd tad yr artist Bodil Friele - un o nifer o Norwyaid a wasanaethodd yn y Llu Awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ôl iddynt ffoi o'u gwlad i ymuno â lluoedd y cynghreiriaid.

Mae arddangosfa o waith Friele, "Carcharor Rhyfel, darluniau a cherddi" i'w gweld yn yr Eglwys Norwyaidd yng Nghaerdydd o 26 Hydref hyd 12 Tachwedd. Mae'r arddangosfa, a gaiff ei hagor yn swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Diane Rees, yn un o nifer o ddigwyddiadau inodi canmlwyddianty Llu Awyr.

Dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Dianne Rees: "Wrth i'r Llu Awyr gyrraedd y pen-blwydd arwyddocaol hwn mae'n anrhydedd cael agor yr arddangosfa o'r gwaith hynod hwn. Nid yn unig y mae'r arddangosfa yn tynnu sylw at y cysylltiadau clos rhwng y Llu Awyr a nifer o griwiau Norwyaidd a fu'n ymladd dros y wlad hon yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae hefyd yn ein dwyn yn nes at brofiad rhyfel y mae'n bwysig myfyrio arno, gan ei fod mor bell o brofiadau beunyddiol y rhan fwyaf o bobl y wlad hon."

Dywedodd Curadur yr Arddangosfa, Bjorn Inge Follevaag: "I'r rhan fwyaf ohonom mae carcharu yn amhosib ei ddirnad.Does dim modd dychmygu colli ein rhyddid a chael ein gorfodi i fyw ein bywydau ar delerau rhywun arall.Ond dyma'r union brofiad sy'n sail i'r arddangosfa."

Mae'r arddangosfa yn tynnu ar brofiad yr artist o dyfu i fyny gyda thad, y daeth ond i sylweddoli'n ddiweddarach, trwy ei ddyddiaduron a'i nodiadau, a oedd yn dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Drwy ail-weithio'r profiadau hyn yn destunau, delweddau a ffurfiau cerfluniol mae Friele yn mynd i'r afael â hanes ei thad a cheisio dangos sut y gallwn oll uniaethu â phrofiad yr un person hwn o ryfel.

Ychwanegodd Curadur yr Arddangosfa, Bjorn Inge Follevaag: "Carem ddiolch i staff Eglwys y Morwyr Norwyaidd a'r ganolfan ddiwylliannol, i Gymdeithas Cyfeillgarwch Norwy Cymru, y Llu Awyr, eu staff presennol yn ogystal â'r holl gyn-filwyr sydd yn dal yn fyw wedi'r rhyfel, a phawb sydd wedi helpu i alluogi'r digwyddiad hwn i fynd rhagddo."

https://www.norwegianchurchcardiff.com/cy/cartref/