The essential journalist news source
Back
12.
October
2018.
Wythnos Democratiaeth Leol yn ceisio cynyddu ymgysylltiad

 

Mae digwyddiadau wedi eu cynllunio i arddangos proses wleidyddol Caerdydd a chynyddu ymgysylltiad yn rhan o'r Wythnos Democratiaeth Leol.

 

Bydd y digwyddiadau'n egluro pwysigrwydd cofrestru i bleidleisio, annog trafodaeth, cynnig cyngor a disgrifio'r prosesau democrataidd, gyda chymorth Cyngor Caerdydd. Mae'r ffocws eleni ar bobl ifanc ac aelodau o'r Gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig oherwydd bod y niferoedd sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y grwpiau hyn yn draddodiadol isel.

 

Nos Lun, bydd gweithdy yn Sanatan Dharma Mandal ac yng Nghanolfan Gymunedol Sblot, ac ym Mosg Abu Bakr yn Grangetown amser cinio dydd Gwener. Hefyd bydd stondinau Wythnos Democratiaeth Leol yn Neuadd y Ddinas ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Caerdydd nos Fercher ac yng nghampws Coleg Caerdydd a'r Fro yn Dumballs Road amser cinio ddydd Iau.

 

Dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cyng. Dianne Rees: "Mae'r Wythnos Democratiaeth Leol yn codi mater mor bwysig ac yn ceisio sicrhau mwy o ymgysylltiad cyhoeddus yn y broses ddemocrataidd. Gan fod hyn yn effeithio ar y gymdeithas i gyd, mae'n hanfodol bod trawstoriad mor eang â phosibl yn defnyddio eu hawl sylfaenol i ddweud eu dweud ar sut caiff cymunedau eu rhedeg."

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng Huw Thomas: "Mae gan bawb hawl i gael mynegi eu barn ac ymgysylltu yn y broses ddemocrataidd. Rwy'n meddwl bod yr Wythnos Democratiaeth Leol yn gyfle gwych i gysylltu â chymunedau lle mae ymgysylltiad yn draddodiadol isel a dangos pa mor hawdd a phwysig yw hi i fod yn rhan o'r broses sy'n llywodraethu lle maen nhw'n byw."

 

Bydd yr Wythnos Democratiaeth Leol yn rhedeg o ddydd Llun 15 Hydref tan ddydd Gwener 19 Hydref.