The essential journalist news source
Back
12.
October
2018.
Mis Hanes Pobl Dduon Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd

Mis Hanes Pobl Dduon Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd 

Mae'n Fis Hanes Pobl Dduon, adeg i fyfyrio ar hanes pobl dduon a dysgu o'r gorffennol er mwyn gwella'r dyfodol. Gan ei fod yn Wythnos Llyfrgelloedd hefyd, rydym wedi gofyn i'n cyd-weithwyr lunio rhestr o lyfrau maen nhw'n eu hargymell. Ni fwriadwn i'r rhestr fod yn hollgynhwysol nac yn rhestr o lyfrau ‘cymeradwy'. Rhagflas yn unig yw hon i roi syniad i chi o ehangder anhygoel gwaith gan awduron duon a hil gymysg, a'r gwaith sy'n seiliedig ar bobl dduon flaenllaw. Gellir archebu'r holl lyfrau o'ch Hyb neu Lyfrgell lleol, ac os hoffech awgrymu unrhyw eitemau eraill, bydd staff yn hapus i ystyried ychwanegu'r rhain at y stoc.

Llyfrau Ffeithiol a Barddoniaeth

Black and British: A Forgotten History - David Olusoga

The Poetry of Derek Walcott 1948-2013 Dewiswyd gan Glyn Maxwell - Derek Walcott

Rising Star: The Making of Barack Obama - David J. Garrow

Pitch Black: The Story of Black British Footballers - Emy Onuora

Colour Me English - Caryl Phillips  (traethodau a gwaith ffeithiol eraill)

The Price of the Ticket: Casgliad o Waith Ffeithiol, 1948-85 - James Baldwin 

Why I’m No Longer Talking to White People about Race - Reni Eddo-Lodge

Rainbow in the Cloud: The Wit and Wisdom of Maya Angelou - Maya Angelou 

Waking From the Dream: The Struggle for Civil Rights in the Shadow of Martin Luther King, Jr - David L. Chappell

Ffuglen

Song of Solomon - Toni Morrison 

Americanah - Chimamanda Ngozi Adichie 

Open City - Teju Cole

Swing Time - Zadie Smith

The Sellout - Paul Beatty

Washington Black - Esi Edugyan 

I ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon ymhellach, mae arddangosfa yn Hyb Grangetown sy'n dathlu diwylliant amrywiol Tiger Bay sy'n cynnwys ffotograffau, erthyglau, mapiau a chloriau llyfrau.