Mae'r Pwyllgor Craffu Amgylcheddol wedi ymgymryd ag ymarfer gorchwyl a gorffen i edrych ar y mater o ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru.
Caiff yr adroddiad helaeth ei gyflwyno i'r Cabinet gan gadeirydd y pwyllgor, y Cyng Ramesh Patel yn ei gyfarfod ar 20 Medi.
Dywedodd y Cyng Patel: "Er mwyn helpu Caerdydd i fodloni cyfarwyddebau'r UE ar ansawdd aer, mae fy mhwyllgor a finnau wedi clywed gan 38 o dystion arbenigol dros fisoedd lawer a nawr mae'r darganfyddiadau bellach yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet.
"Mae'n rhaid i Gaerdydd, ynghyd â llawer o ddinasoedd eraill y DU, ddod o hyd i atebion i'r mater hwn, oherwydd mai llygredd aer yw'r broblem fwyaf y bydd rhaid i weinyddiaeth y Cyngor ymdrin â hi.
"Bu'r asesiad yr ymgymerwyd ag ef gan y pwyllgor yn drylwyr a choladwyd darganfyddiadau manwl; mae gan y Cabinet nawr amser i ystyried y darganfyddiadau ac i ymateb yn unol â hyn.
Yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yw:
- Dylai strategaeth aer glân fod yn flaenoriaeth hollbwysig ar gyfer y Cyngor
- Er mwyn cydymffurfio 'cyn gynted ag y bo modd', mae'n ymddangos yn anochel y bydd angen creu rhyw fath o barth aer glân neu barth allyriadau isel, fodd bynnag, wrth wneud penderfyniad ar y ffordd orau ymlaen, dylai'r Cyngor ddilyn y dystiolaeth wyddonol a gasglwyd yn yr astudiaeth dichonolrwydd.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael arweiniad a chyllid
- Ystyried, arfarnu a chraffu ar y cyngor a nodwyd yn yr astudiaeth dichonolrwydd a'i ddefnyddio fel sail ar gyfer penderfyniad sy'n seiliedig ar wyddoniaeth.
- Lleihau Nitrogen Deuocsid o'r llwybrau blaenoriaeth sy'n dod i mewn i Gaerdydd
- Ymgynghori a gweithio gydag awdurdodau cyfagos
- Parhau â'r nod o newid moddol 50/50 rhwng ceir preifat a thrafnidiaeth gyhoeddus/ ffurfiau eraill ar deithio cynaliadwy.
- Creu ‘cymdogaethau allyriadau isel'
- Adolygiad o arweiniad cynllunio atodol ar ansawdd aer; adolygiad o'r goblygiadau traffig a llygredd ehangach o ddatblygiadau newydd
- Defnyddio'r adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru
- Cysylltu ansawdd aer â hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus presennol
- Cynyddu ardaloedd 20mya a 75% parcio preswyl
- Ail-fuddsoddi incwm a dderbyniwyd ar gyfer mentrau parhau neu rai'r dyfodol i mewn i gynlluniau trafnidiaeth
- Pwyllgor craffu er mwyn craffu ar y cynigion sydd yn y papur gwyrdd
- Adeiladu'r orsaf fysiau newydd
- Gwella'r seilwaith beicio a cherdded/nextbikes/teithio llesol a pharcio a theithio
- Cynnydd graddol mewn taliadau parcio a monitro datblygu meysydd parcio yng nghanol y ddinas
- Rhestru safonau allyriadau ar gyfer tacsis a sut y gellir eu cyflawni
- Gorfodi yn erbyn tacsis sy'n blocio lonydd bysiau
- Lleihau allyriadau bysiau trwy lobïo am gymorth ariannol i uwchraddio/newid y stoc
- Datblygu a hyrwyddo cynlluniau parcio a theithio a lonydd bysiau
- Cynllun tocynnau sengl ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn Rhanbarth De-ddwyrain Cymru
- Defnydd cynlluniau trawsatebwyr mewn lonydd bysiau - sy'n galluogi bysiau i beidio â chael eu dal mewn traffig
- Ystyried effaith amgylcheddol llongau mordeithiau yn dod i mewn i Gaerdydd
- Strategaeth tanwydd cynaliadwy/ seilwaith tanwydd cynaliadwy
- Gweithio gyda'r fasnach moduron i gynnal sioe fasnach ar gyfer cerbydau trydan/hybrid a hydrogen
- Ystyried ac arfarnu'r adroddiad diweddar a gomisiynwyd i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru trydan yng Nghaerdydd
- Adeiladu'r angen i ddefnyddio tanwydd cynaliadwy i mewn i'r broses gaffael
- Bod ag o leiaf un orsaf ail-lenwi hydrogen yng Nghaerdydd
- Annog pob sefydliad sector cyhoeddus mawr i annog eu staff ei ddefnyddio teithiol llesol
- Gweithio gyda For Cardiff (Cardiff Bid) i ymgysylltu â'r gymuned fusnes, er enghraifft, i gyfathrebu cynigion newydd ac adnabod mesurau i wella ansawdd yr aer.