The essential journalist news source
Back
30.
August
2018.
Cau ffyrdd a gwybodaeth teithio ar gyfer ras 10 Cilometr Nation Radio

 

Cynhelir ras 10 Cilometr a ras 2 Gilometr i'r teulu gan Nation Radio Caerdydd ddydd Sul.

Bydd y ras 2 Gilometr  i'r teulu yn cychwyn am 9.15am a bydd y ras 10 Cilometr yn cychwyn am 10am.

Bydd y llwybr newydd ar gyfer y ras 10 Cilometr yn dechrau yn Rhodfa'r Brenin Edward VII, a bydd y rhedwyr yn troi i'r chwith i Heol Corbett cyn troi i Heol y Gogledd tuag at ganol y ddinas.

Bydd y cystadleuwyr wedyn yn rhedeg ar hyd Heol y Dug, i Stryd y Castell, cyn troi i'r chwith ar hyd Heol y Porth; i'r dde i Stryd Wood cyn rhedeg ar hyd Fitzhammon Embankment.

Wedyn bydd y cystadleuwyr troi i'r chwith i Dispenser Gardens, yn mynd ar hyd Clare Street ac i Heol Isaf y Gadeirlan.

Yna i fyny trwy Gaeau Llandaf tan gyrraedd Western Avenue, cyn troi i'r dde tuag at yr afon ac wedyn i'r dde eto ger Rhandiroedd Pontcannau i'r ffordd gefn wrth ochr Caeau Pontcanna a aiff â nhw heibio i Gerddi Soffia tuag at Gastell Caerdydd.

Bydd y rhan olaf yn gofyn i'r rhedwyr redeg yn ôl ar hyd Stryd y Castell, i Heol y Dug, yn ôl ar hyd Heol y Gogledd hyd nes eu bod yn cyrraedd Heol Corbett lle y byddant yn troi i'r dde ac  i'r dde eto i'r llinell derfyn yn Rhodfa'r Amgueddfa.

Gellir gweld graffig sy'n dangos llwybr y 10 Cilometr yma -  https://www.cardiff10k.cymru/cardiff-10k/the-race/

Cau ffyrdd

Gyda'r llwybr newydd hwn yn ei le, caiff ffyrdd eu cau er mwyn hwyluso'r digwyddiad hwn

Rhwng 8am ddydd Sadwrn 1 Medi 2018 a 6pm ddydd Sul 2 Medi

  • Heol y Coleg o'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa hyd at y gyffordd â Rhodfa'r Brenin Edward VII
  • Rhodfa'r Amgueddfa o'r gyffordd â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol Gerddi'r Orsedd
  • Rhodfa'r Brenin Edward VII o'r gyffordd â Boulevard De Nantes i'r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas; ac o'r gyffordd â Heol Corbett i'r gyffordd â Heol y Coleg
  • Heol Gerddi'r Orsedd o'r gyffordd â Phlas y Parc i'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa
  • Heol Neuadd y Ddinas o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Rhodfa'r Amgueddfa (Cynhelir mynediad cerbydau i barcio preifat ac ar gyfer dosbarthu tan 6am ddydd Sul 2 Medi)

Rhwng 8.45am a 12pm ddydd Sul 2 Medi, caiff y ffyrdd canlynol eu cau ar system dreigl o gau ffyrdd a chânt eu hailagor cyn gynted ag y bo modd ar ôl i'r digwyddiad orffen.

  • Heol y Gogledd o'r gyffordd â Colum Road i'r gyffordd â Boulevard de Nantes
  • Heol y Gogledd i'r de o'r gyffordd â Boulevard De Nantes i'r gyffordd â'r A4161
  • Yr A4161 o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Ffordd y Brenin
  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â'r A4161 i'r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol y Dug a Stryd y Castell
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan
  • Boulevard De Nantes o'r gyffordd â Phlas y Parc/ Stuttgarter Strasse i'r gyffordd â Heol y Gogledd
  • Heol Tŷ'r Brodyr a Gerddi'r Brodordy, Heol y Porth, Stryd Wood, y Gwter, Plas y Neuadd, Stryd y Cei, Sgwâr Canolog, Scott Road, Stryd Havelock a Stryd y Parc
  • Heol yr Eglwys Fair o'r gyffordd â Lôn y Felin i'r gyffordd â Phlas y Neuadd
  • Heol Fawr o'r gyffordd â Stryd y Castell i'r gyffordd â Phlas y Neuadd
  • Tudor Street o'r gyffordd â Clare Road
  • Fitzhammon Embankment, Despenser Street, Despenser Lane, Despenser Place, Plantagenet Street, Beauchamp Street, Clare Street, Heol Isaf y Gadeirlan, Brook Street, Mark Street, Green Street a Coldsteam Terrace
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Neville Street/ Wellington Street
  • Neville Street o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan Isaf
  • Wellington Street o'r gyffordd â Leckwith Road - yn teithio tuag ar ganol y ddinas)
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Brenin
  • Heol y Gadeirlan o'r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i'r gyffordd â Penhill Road.
  • Caiff yr holl heolydd ochr sy'n agor ar Heol y Gadeirlan eu cau, gan gynnwys Hamilton Street, Talbot Street, Clos Soffia, Rhodfa Soffia, y ffordd gefn yng Ngerddi Soffia, Plasturton Place, Dyfrig Street, Kyveilog Street, Sneyd Street, Dogo Street, Berthwin Street, Teilo Street, Gileston Road, MeldwIn Street, Fairleigh Road, Fields Park Road, Denbeigh Street, Fairleigh Court a Heol Wilf Wooler.
  • Penhill Road o'r gyffordd â Heol Llandaf/ Caerdydd - yn teithio i mewn yn unig
  • Cau lôn ar Rodfa'r gorllewin o'r gyffordd ag Excelsior Road i'r gyffordd â Lôn y Felin. 

Gwybodaeth gan Fws Caerdydd

Rhwng 9am ac 11am:

  • Bydd bysiau i'r gorllewin i Benarth a'r Barri yn dechrau ac yn gorffen ar Taff's Mead Embankment. 
  • Bydd bysiau i Fae Caerdydd a'r Pentref Chwaraeon (ond nid y Baycar) yn dechrau ac yn gorffen ar Taff's Mead Embankment
  • Bydd y Baycar i Fae Caerdydd yn dechrau ac yn gorffen yn Custom House Street
  • Bydd bysiau i'r dwyrain yn dechrau ac yn gorffen yn Bute Terrace/Customhouse Street.

Rhwng 9am a 12.30pm

  • Bydd bysiau tua'r gogledd ac i Gasnewydd yn dechrau ac yn gorffen ar Heol y Brodyr Llwydion.

Rhwng 11am a 12.30pm

  • Bydd bysiau i Fae Caerdydd a'r Pentref Chwaraeon (ond nid y Baycar) yn dechrau ac yn gorffen ar Heol yr Eglwys Fair (Philharmonic).
  • Bydd y Baycar yn dechrau ac yn gorffen ar Heol yr Eglwys Fair (Wyndham Arcade.)