The essential journalist news source
Back
16.
August
2018.
Myfyrwyr Safon Uwch Caerdydd yn cynnal safonau uchel

Mae canlyniadau Safon Uwch amodol Caerdydd yn dangos bod y safonau'n parhau'n uchel yn y brifddinas.

 

Yn seiliedig ar y canlyniadau amodol a gyhoeddwyd heddiw, mae 29.5 y cant o ganlyniadau Safon Uwch 2018 wedi'u graddio ar A* i A, o gymharu â chyfartaledd Cymru o 26.3 y cant.

 

Y gyfradd basio gyffredinol eleni (cyfran yr ymgeision a arweiniodd at raddau A* i E) yw 98.3 y cant, sy'n parhau'n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru o 97.4.

 

Y ffigur ar gyfer graddau A* i C yn 2018 yw 78.3 y cant, o gymharu â 76.3 y cant yng Nghymru gyfan.

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Da iawn i'r holl fyfyrwyr a gasglodd eu canlyniadau heddiw.Dwi'n gwybod bod llawer o waith caled wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae pawb yn haeddu canmoliaeth.

 

"Dylai'r grŵp o fyfyrwyr eleni fod yn falch iawn eu bod wedi parhau â thraddodiad balch Caerdydd o gyflawni canlyniadau gwell na chyfartaledd Cymru, a dymunaf y gorau iddynt yn y dyfodol.

 

"Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl staff yn ein hysgolion am y gwaith maent wedi'i wneud i helpu, cefnogi a thywys eu myfyrwyr drwy eu cyfnod yn y chweched dosbarth."

 

Mae'r canlyniadau amodol yn ymwneud â Safonau Uwch pob bwrdd arholi.Bydd canlyniadau BTEC a Bagloriaeth Cymru yn cael eu cynnwys yn y ffigurau terfynol sydd wedi'u dilysu.

 

Enghreifftiau o rai o'r cyflawniadau o bob rhan o Gaerdydd

 

Ysgol Uwchradd Cantonian

  • 64% yn cyflawni graddau A* i C
  • Gwnaeth 100% o'r disgyblion a gwblhaodd gymwysterau galwedigaethol gyflawni graddau Anrhydedd
  • 91% wedi cyflawni graddau A* - C yn y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch ym Magloriaeth Cymru

 

Ysgol Uwchradd Fitzalan

  • 91% o ddisgyblion wedi cyflawni 2 neu fwy o raddau A* i C, gyda 100% o ddisgyblion yn cyflawni 2 neu fwy o raddau A* i E
  • Mae Anas Aboukoura wedi cyflawni 4 A mewn mathemateg, ffiseg, bioleg a chemeg gydag A arall mewn mathemateg bellach

 

Ysgol Uwchradd Llanisien

  • 31% o raddau A* i A, 83% A* i C a 98% A* i E
  • Cyflawnodd 75% raddau A* i A a 100% raddau A* i C mewn Mathemateg Bellach
  • Sicrhaodd Katie Evans y 4 gradd A* - A yr oedd eu hangen arni i astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Rhydychen

 

Ysgol Gyfun Radur

  • Y canlyniadau Safon Uwch gorau erioed yn Ysgol Gyfun Radur
  • Cyflawnodd 38 o fyfyrwyr blwyddyn 13 o leiaf 3 gradd A
  • Cyflawnodd 20 o fyfyrwyr o leiaf 4 gradd A
  • Cyflawnodd 6 o fyfyrwyr o leiaf 5 gradd A
  • Cyflawnodd Katie Long 5 gradd A* (Cemeg, Daearyddiaeth, Mathemateg, Mathemateg Bellach a Bagloriaeth Cymru) ac mae wedi derbyn lle i astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen

 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant

  • Cyflawnodd Ethan Poole o flwyddyn 13 A* mewn Bioleg, A mewn Mathemateg ac A mewn Daearyddiaeth. Torrodd Ethan ei wddf mewn damwain trampolîn ddwy flynedd a hanner yn ôl. Dywedodd:"Dwi wrth fy modd gyda fy nghanlyniadau oherwydd dwi nawr yn gallu mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio Bioleg.Dwi wedi cael fy nerbyn gan y brifysgol a dwi'n edrych ‘mlaen at symud mewn i'r Neuaddau Preswyl fis nesa.Ond yn gyntaf, mae angen dathlu. Yn arbennig oherwydd fy namwain ychydig dros ddwy flynedd yn ôl.Mae fy nheulu'n mynd â fi mas am bryd o fwyd heno a dwi'n edrych ‘mlaen at ddal lan ‘da'r bois dros y penwythnos."
  • Mae Lois Hillman (3 A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Bioleg) yn mynd i astudio Mathemateg yng Nghaerfaddon tra bod Erin Hayward Lang (3 A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg) yn mynd yno i astudio Astroffiseg

 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

  • Roedd hanner o'r holl raddau a roddwyd yn B neu uwch
  • Roedd 26% o'r holl raddau Safon Uwch yn A neu A*
  • Cyflawnodd 30 o fyfyrwyr 3 neu fwy o raddau A* neu A, gan gynnwys 6 myfyriwr a gyflawnodd 3 gradd A*, sef Gar Jun Chim, y gefeilliaid Nia a Rhianna Mason, Christopher Sandever, Morgan James a Ben Pinches.Bydd myfyrwyr eraill hefyd yn haeddiannol falch o'u cyflawniadau.
  • Sicrhaodd llawer ohonynt le ym mhrifysgolion gorau gwledydd Prydain, gan gynnwys Gar Jun Chim a fydd yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt.

 

Ysgol Gymraeg Plasmawr

  • 38% o raddau A* i A, 86% A* i C, a 100% A* i E
  • Cyflawnodd 25% o'r grŵp blwyddyn cyfan gyfuniad o 3 neu fwy o raddau A* ac A.
  • Cyflawnodd 12 o fyfyrwyr gyfuniad o 4 gradd A* ac A