The essential journalist news source
Back
1.
August
2018.
PLEIDLAIS GYHOEDDUS AR GYFER CWPAN CRICED Y BYD 2019 YR ICC YN AGOR

PLEIDLAIS GYHOEDDUS AR GYFER CWPAN CRICED Y BYD 2019 YR ICC YN AGOR

 

  • Gall ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau ar gyfer pob un o'r 48 gêm

 

  • Gall teuluoedd fynychu gemau penodol am £44 yn unig

 

  • Steve Elworthy:"Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd am fynd i Gwpan Criced y Byd yr ICC a gwylio criced cyffrous a chystadleuol, wrth i'r chwaraewyr a'r timau gorau yn y byd gystadlu yn erbyn ei gilydd."

 

Agorodd y bleidlais gyhoeddus ar gyfer Cwpan Criced y Byd 2019 yr ICC am 10am (BST)heddiw (dydd Mercher, 1 Awst), i bob aelod o'r cyhoedd ar gyfer tocynnau. Mae ymgyrch farchnata a chysylltiadau cyhoeddus mawr ar waith, dan y teitl croesawgar iawn "Ydych chi'n Dod?"

 

Bydd y bleidlais gyhoeddus ar agor tan 29 Awst a bydd cefnogwyr yn gallu gwneud cais am bob un o'r 48 gornest, gyda thocynnau ym mhob band pris ar gael ym mhob gêm.

 

Yn dilyn y galw anhygoel yn ystod y Bleidlais Criced i'r Teulu, anogir cefnogwyr i wneud cais am ddewis eang o gemau gan fod y cam cylch 10-tîm yn rhoi digon o gyfleoedd i gefnogwyr weld eu hoff dîm.

 

Yn ffilm lansio'r ymgyrch, mae Freddie Flintoff, cricedwr sydd yn ffigur cyhoeddus poblogaidd iawn, yn canu ac yn dawnsio i gân Imagine Dragons, "On Top Of The World", ac yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â'r carnifal mwyaf y byd chwaraeon.Mae'n parhau â'r dull marchnata o roi cefnogwyr, dylanwadwyr ac enwogion wrth galon y ymgyrch, i apelio at rai sydd eisoes yn ffans ac i ddenu dilynwyr newydd i griced.

 

I wneud cais am docynnau yn y bleidlais gyhoeddus, rhaid i ymgeiswyr gofrestru cyfrif drwy'r wefan swyddogol tocynnau Cwpan Criced y Byd. Dechreuodd y cam cyn-gofrestru ar 17 Gorffennaf.

 

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Morgannwg, Hugh Morris:"Boed yn un sydd eisoes yn caru criced neu'n dwlu ar chwaraeon yn gyffredinol, mae pleidlais gyhoeddus Cwpan Criced y Byd 2019 yn cynnig cyfle i gefnogwyr wylio chwaraeon o'r radd flaenaf.

 

"Mae'n hynod gyffrous ein bod yn cynnal pedair o'r gemau hyn yng Nghymru y flwyddyn nesaf a byddwn yn annog pawb sydd am fod yn rhan o'r twrnamaint mawreddog hwn i ymuno â'r bleidlais gyhoeddus fel nad ydynt yn colli'r cyfle i wylio criced cyffrous a chwaraeir gan chwaraewyr gorau'r blaned yma yng Nghaerdydd."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:"Mae criced wedi chwarae rhan annatod yn nhreftadaeth chwaraeon cyfoethog Caerdydd ac mae'r ddinas yn enwog am gynnal gemau prawf mawr a gemau rhyngwladol undydd.Mae Cwpan Criced y Byd 2019 yr ICC yn ddigwyddiad o bwys ar y calendr chwaraeon a gallwn ddisgwyl denu cynulleidfaoedd byd-eang, wrth i rai o'r chwaraewyr gorau ddod i Stadiwm Cymru Caerdydd, sef cartref Clwb Criced Morgannwg.

 

"Bydd agor y bleidlais gyhoeddus yn golygu y gall pawb wneud cais i fod yn rhan o'r digwyddiad a mwynhau criced cystadleuol o'r radd flaenaf yng nghalon prifddinas Cymru."

 

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon:"Mae hyn yn ffordd wych i fwy o bobl gael cyfle anhygoel i wylio criced o safon fyd-eang. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Clwb Criced Morgannwg i ddod â Chwpan Criced y Byd yr ICC i Gymru ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid er mwyn cynnig profiad rhagorol i wylwyr a chwaraewyr dros y yr haf."

 

Tynnodd Steve Elworthy, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwpan Criced y Byd 2019, sylw at bwysigrwydd y garreg filltir hon yn y broses ymgeisio, ac mae'n gobeithio y bydd yn cael yr un llwyddiant â'r Bleidlais Criced i'r Teulu diweddar.

 

"Mae 1 Awst yn ddiwrnod yr ydym i gyd wedi bod yn edrych ymlaen ato wrth i ni groesawu llawer o gefnogwyr criced posibl y dyfodol i'r gêm."Mae'n gyfle gwych i unrhyw un sydd am fynychu Cwpan Criced y Byd yr ICC a gwylio'r criced mwyaf cyffrous a chystadleuol, wrth i'r chwaraewyr a'r timau gorau yn y byd gystadlu yn erbyn ei gilydd."

 

"Gan mai hwn yw'r trydydd digwyddiad chwaraeon byd-eang a gaiff ei wylio fwyaf, rydym yn gwybod y bydd diddordeb mawr yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf.Roedd y Bleidlais Criced i'r Teulu, pan gafwyd ceisiadau am dros filiwn o docynnau, yn awgrym o ba mor boblogaidd yr ydym yn disgwyl i'r twrnamaint hwn fod.

 

"Yn fwy na hynny, gyda'n strwythur prisiau ar gyfer y twrnamaint hwn, y buom yn ymgynghori yn ei gylch yn eang ac yn defnyddio arbenigwyr allanol, bydd pob gêm yn hygyrch i gyfran fawr o gefnogwyr chwaraeon.Buddsoddir unrhyw refeniw a wnawn o'r twrnamaint yn ôl yn y gêm fel rhan o'n hymrwymiad i dyfu criced ac ymgysylltu â chenedlaethau'r dyfodol."

 

Bydd Lloegr, sy'n lletya'r gemau, yn agor y twrnamaint yn yr Oval ar 30 Mai pan fyddant yn chwarae yn erbyn De Affrica, tra bo'r pencampwyr presennol Awstralia yn dechrau amddiffyn y teitl ar 1 Mehefin yn erbyn Affganistan mewn gêm dydd/nos ym Mryste.Bydd Caerdydd yn cynnal pedair gêm rhwng y 1af a'r 15fed Mehefin yn Stadiwm Cymru Caerdydd.Daw Cwpan y Byd i ben pan fydd y rownd derfynol yn digwydd yn Lord's ar ddydd Sul 14 Gorffennaf.

 

Bydd unrhyw docynnau sy'n weddill o'r bleidlais gyhoeddus yn mynd ar werth cyffredinol ar sail y cyntaf i'r felin yn ddiweddarach yn 2018.

 

Am ragor o wybodaeth am Gwpan Criced y Byd 2019 yr ICC, cliciwchyma.