The essential journalist news source
Back
27.
July
2018.
Datganiad Cyngor Caerdydd ynglŷn â Pride Cymru 27/7/18


Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae Cyngor Caerdydd yn gefnogwr balch o ddigwyddiad Pride Cymru ac wedi bod o'r dechrau.

 

"Y llynedd - bu'n rhaid symud yr ŵyl i'r Ganolfan Ddinesig o'i gartref arferol ym Mharc Bute a hynny oherwydd Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA ac fe wnaethom ein gorau gyda'r trefnwyr i gadw'r costau cyn ised ag y bo modd gan osod colledion refeniw parcio sylweddol i'r naill ochr yn y broses.

 

"Roeddem yn ymwybodol iawn ei bod yn hanner canmlwyddiant Deddf Troseddau Rhywiol 1967 a bod Pride Cymru yn cyflwnyo cais i gynnal UK Pride a Euro Pride. O ganlyniad, roeddem yn benderfynol i weithio gyda'r trefnwyr i ddangos Caerdydd ar ei gorau posib.

 

"Serch hynny, roeddem yn glir bob amser mai digwyddiad untro oedd digwyddiad y llynedd o ran gallu'r cyngor i sybsideiddio'r ŵyl i'r un lefel. Rydym yn parhau i sybsideiddio'r ŵyl eleni fodd bynnag ac rydym wedi cynnig defnydd o Lawntiau Neuadd y Ddinas a Gerddi Alexandra am ddim i'r trefnwyr, ond mae'n rhaid i ni negodi'r colledion i refeniw y meysydd parcio y bydd yn rhaid i ni eu hysgwyddo yn sgil yr ŵyl.

 

"Mae'r trefnwyr wedi penderfynu eu bod am weld y digwyddiad o amgylch y Ganolfan Ddinesig unwaith eto. Yn anffodus mae i'r penderfyniad hwn oblygiadau cost amlwg. Er enghraifft, gallai cau'r ffyrdd olygu colled o filoedd lawer o bunnoedd mewn refeniw parcio. Bydd maint yr ŵyl a'r nifer o ddyddiau a gymer i‘w chodi, ei chynnal a'i thynnu i lawr oll yn effeithio ar y costau hyn. Mae'r ffigwr y mae'r trefnwyr yn ei dyfynnu wedi ei seilio ar eu gofynion cychwynnol, ond mae hefyd yn cynnwys trefniadau yn ymwneud â'r Orymdaith ac mae mwyafrif y gost yn cynnwys y colledion refeniw parcio yna.

 

"Yn amlwg bydd gan ŵyl ag iddi ôl-troed mawr, ag angen mwy o ofod dros fwy o ddyddiau arni, oblygiadau cost uwch. Rydym ar hyn o bryd yn trafod y costau hyn gyda'r trefnwyr gan weld sut gallan nhw gael eu lleihau.

 

"Mae'r Cyngor hwn yn wynebu diffyg yn y gyllideb o £91m dros y tair blynedd nesaf ar ben y £145 o arbedion a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf, felly rydym mewn sefyllfa anodd dros ben pan ddaw hi'n fater o ariannu neu dderbyn colledion ar ddigwyddiadau ar y raddfa hon a byddai'n annheg, yn y cyd-destun hwn, i drin un sefydliad yn wahanol i un arall.

 

  "Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i sicrhau llwyddiant yr ŵyl ac mae sawl dewis ar y bwrdd i geisio lleihau costau'r digwyddiad. Rydym yn fwy na hapus i barhau â'n trafodaethau gyda Pride Cymru er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen sy'n gweithio i'r ddau barti."