The essential journalist news source
Back
17.
July
2018.
Cynlluniau adfywio cyffrous ar gyfer un o ystadau’r ddinas


 

Mae cynlluniau i ailddatblygu ac adfywio un o ystadau tai'r Cyngor yn y ddinas wedi eu datgelu.

 

Mae preswylwyr Trem y Môr yn Grangetown wedi cael cipolwg cyntaf ar gynlluniau'r Cyngor i adfywio'r ardal i greu cymuned leol fwy deniadol a helpu mynd i'r afael â'r angen am ragor o dai fforddiadwy yn y ddinas.

 

Mae'r cynlluniau'n cynnwys datblygu tua 360 o gartrefi newydd, creu ardal gyhoeddus fwy braf a gwella'r cysylltiad â'r bae a chanol y ddinas i bobl sy'n byw yn yr ardal.Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys cynllun tai gwarchod newydd, a allai fod yn hyb ar gyfer darparu gwasanaethau pobl hŷn.

 

C:\Users\c080012\Desktop\artists impressions_Page_1.jpg

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: "Mae cyfle cyffrous i ailddatblygu ystâd Trem y Môr i greu rhagor o dai cymdeithasol o safon yn y ddinas a chreu amgylchedd gwell i breswylwyr.

 

"Bu i arolwg y llynedd ganfod nifer o broblemau â'r ystâd bresennol, yn cynnwys symudiad strwythurol yn y tai a'r fflatiau, llwybr bws gwael, cynllun gwael ar yr ystâd bresennol ac ardal gyhoeddus o safon wael.

 

"Megis cychwyn mae ein cynlluniau ac rydym am weithio gyda'r gymuned leol i sicrhau ei bod yn rhan o adfywio'r ystâd a ddaw â chymysgedd o dai preifat a fflatiau i'w gwerthu yn ogystal â thai cyngor newydd yn yr ardal."

 

Mae'r cynlluniau uchelgeisiol yn rhan o waith y Cyngor i gynyddu faint o dai cymdeithasol sydd yn y ddinas, er mwyn ateb y galw uchel iawn. Mae gan yr awdurdod darged o ddod â 2,000 o dai newydd i Gaerdydd a chwblhau 1,000 ohonynt erbyn 2022.

 

Byddai cynlluniau Trem y Môr bron yn dyblu nifer y cartrefi yn yr ystâd o'r 184 eiddo ar hyn o bryd, ac yn creu mwy o dai teulu tair a phedair ystafell wely, y mae galw mawr amdanynt yn y ddinas.

C:\Users\c080012\Desktop\Pages from Channel View Redevelopment - Masterplan Feasibility Study. AustinSmithLord-3.jpg

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Mae cynllun adfywio ystâd Trem y Môr yn uchelgeisiol ac yn rhan o'n gweledigaeth i greu rhagor o cymunedau cynaliadwy a mwy cysylltiedig yn y ddinas yn ogystal ag ateb y pwysau sydd i gynnig cartrefi o safon i'r bobl y mae arnyn nhw eu hangen fwyaf."

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad buan gyda phreswylwyr, a chaiff eu barn ei hystyried nawr.Os yw'r Cyngor yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynlluniau, bydd rhagor o waith ac ymgynghori cyn cyflwyno adroddiad i'r Cabinet.