The essential journalist news source
Back
6.
July
2018.
Y cynnydd diweddaraf tuag at fuddsoddiad gwerth £294 miliwn i ysgolion Caerdydd

Mae rhaglen fuddsoddi Caerdydd gwerth miliynau o bunnoedd yn barod i symud i'r cam nesaf. Bydd y Cabinet yn cwrdd i drafod argymhellion mewn perthynas â rheoli'r rhaglen 

Gydag arian gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, caiff £284 miliwn, yn rhan o Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg, ei fuddsoddi yn y ddinas i adeiladu ysgolion newydd ac ehangu adeiladau presennol. 

Gan esbonio'r argymhellion yn adroddiad y Cabinet, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet Dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Merry:"Mae maint, graddfa a chymhlethdod ein Rhaglen Addysg Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £284 miliwn yn sylweddol uwch nag unrhyw beth a welwyd o'r blaen yng Nghaerdydd, ac yn fwy nag unrhyw raglen awdurdod lleol arall yng Nghymru.Mae'n hollbwysig ein bod ni'n datblygu gallu'r tîm sy'n goruchwylio'r rhaglen er mwyn sicrhau gwerth am arian ac er mwyn bod mod effeithlon â phosibl.

Dyma'r buddsoddiad unigol mwyaf yn ysgolion Caerdydd.<0}{0><}0{>Bydd yn creu cyfleoedd sylweddol i ddod â budd hirhoedlog i addysg yn y ddinas ac i'r gymuned ehangach.<0}{0><}0{>Gyda'r adnoddau rheoli project iawn yn eu lle, gallwn ni edrych ymlaen at gyflawni ein Rhaglen Band B pum mlynedd o'r flwyddyn nesaf ymlaen."

Projectau dan Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg Caerdydd 

Ysgolion Uwchradd

  • Ailadeiladu ac ehangu pedair ysgol uwchradd - Fitzalan, Willows, Cathays a Cantonian
  • Ehangu Ysgol Uwchradd Caerdydd er mwyn darparu ar gyfer 1,500 o ddisgyblion o gymharu a'r ddarpariaeth bresennol sef 1,200, a'r chweched dosbarth 

Ysgolion Cynradd

  • Dyblu maint Nant Caerau, y Tyllgoed a Pen-y-Pil er mwyn darparu ar gyfer 420 o ddisgyblion a'r feithrinfa
  • Ailadeiladu yr Eglwys yng Nghymru'r Forwyn Fair ac ehangu er mwyn darparu ar gyfer dwywaith y lleoedd presennol sef 210

Ysgolion Arbennig

Mae cynigion Band B Caerdydd yn cynnwys ehangu ac ail-drefnu darpariaeth anghenion arbennig ar gyfer y ddinas.Caiff pedair ysgol arbennig newydd eu hadeiladu, a chaiff darpariaeth ei addasu i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu difrifol a niferus, awtistiaeth, anableddau difrifol a chymhleth ac anghenion iechyd emosiynol a lles.

Byddai pob project yn amodol ar ymgynghoriad, caffael a chynllunio cyn penderfynu ar amserlenni.

Mae'r angen am ysgolion ychwanegol hefyd wedi'i nodi yng Nghynllun Datblygu Lleol y Cyngor.Rhagwelir bod angen 10 ysgol gynradd newydd a dwy ysgol uwchradd newydd o ganlyniad i dwf sylweddol ym mhoblogaeth y ddinas.Efallai bydd angen rhai mesurau dros dro hefyd i ateb y galw yn y rhan gynnar o'r twf yma. 

Cyflwynwyd £25 miliwn yn fwy o gyllid cyfalaf ym mis Ebrill i gynorthwyo i gynnal ysgolion presennol Caerdydd dros y pum mlynedd nesaf 

Bydd y Cabinet yn trafod yr adolygiad pan fydd yn cwrdd ddydd Iau 12 Gorffennaf. Mae modd darllen copi llawn ar  www.caerdydd.gov.uk/cyfarfodydd.