The essential journalist news source
Back
28.
June
2018.
Glanhau cynhwysfawr a digwyddiadau gwirfoddol a drefnwyd ar gyfer yr haf


Mae'r Ymgyrch Carwch Eich Cartref nawr wedi ymestyn ledled y ddinas, gan dargedu ardaloedd yn y ddinas sydd wir angen eu glanhau'n drylwyr.

Sefydlwyd yr ymgyrch dros ddwy flynedd yn ôl i weithio mewn partneriaeth â chymunedau ledled y ddinas i greu ymdeimlad o falchder yn y cymunedau yr ydym i gyd yn byw ynddynt ac i ledaenu'r neges nad yw taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn dderbyniol.

Fel rhan o'r ymgyrch, mae tîm o'r cyngor yn cynnal gwaith glanhau cynhwysfawr, gan gloddio allan y llaid a'r malurion rhwng y palmant a'r ffyrdd, clirio gylïau a draeniau, casglu sbwriel, torri gordyfiant ar lonydd yn ogystal ag unrhyw waith arall sydd ei angen.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu:"Mae ymrwymiad y gymuned i'r ymgyrch hon wedi bod yn wych ac erbyn hyn mae gennym 13 o grwpiau cymunedol wedi'u sefydlu ar draws y ddinas.Maent oll yn gwneud gwaith ardderchog yn cefnogi'r Cyngor i geisio cadw cymunedau'n lân ac yn daclus a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu hymdrechion.

"Mae angen i ni greu ymdeimlad o falchder yn ein cymunedau, fel bod pobl yn deall nad yw taflu sbwriel ar y llawr neu dipio'n anghyfreithlon mewn lonydd cefn yn dderbyniol.Ar y cychwyn canolbwyntiodd yr ymgyrch ar yr ardaloedd canol y ddinas mwy poblog, lle mae'r angen mwyaf am y gwaith hwn ond rwy'n falch o adrodd y bydd pob ward ledled y ddinas yn derbyn y gwasanaeth hwn bellach.

Trefnwyd sesiynau casglu sbwriel cymunedol o rhwng 10am a 11.30am yn y lleoliadau canlynol:

29 Mehefin - Countisbury Avenue, Llanrhymni

Gorffennaf - Llyfrgell Cathays, Cathays

Gorffennaf - Ysgol Gynradd Albany, Plasnewydd

Gorffennaf - Canolfan Hamdden y Tyllgoed, Y Tyllgoed

Gorffennaf- HybiauTreláia Chaerau,Trelái

Gorffennaf - Tir Hamdden Jiwbilî, Treganna

Gorffennaf - Roundwood, Pentwyn

Gorffennaf -Parc y Gamlas, Butetown

Gorffennaf - Y  Marl, Butetown

Gorffennaf- Canolfan Hamdden y Dwyrain, Llanrhymni

Gorffennaf - Fairwater Green, Y Tyllgoed

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael:"Yn ogystal â gweithio gyda'r gymuned i lanhau ardaloedd o'r ddinas, rydym hefyd am weithio gyda'r cyhoedd i atal tipio anghyfreithlon.

"Mae'rPwyllgor Craffu Amgylcheddolyn cynnal ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd i ofyn am eu barn am y llanast a achosir gan sbwriel a thipio anghyfreithlon ar eu cymunedau, a bydd y gwaith hwn yn mynd yn fyw ar 18 Mehefin.

"Mae'r Cyngor yn cymryd safbwynt llymach ar dipio anghyfreithlon a bydd yn defnyddio camerâu isgoch mewn ardaloedd sydd â phroblem tipio anghyfreithlon i ddal y lleiafrif sy'n cyflawni'r trosedd amgylcheddol hwn.

"Gyda'n gilydd gallwn fynd i'r afael â'r broblem a defnyddio'r adnoddau sydd ar gael i dargedu ardaloedd o'r ddinas sydd eu hangen fwyaf."

Mae'r gwaith glanhau cynhwysfawr yn digwydd mewn rhannau o Bontprennau a Phentwyn yr wythnos hon, cyn symud i rannau o Cathays a Phlasnewydd rhwng 2-6 Gorffennaf.

Bydd ardaloedd o'r wardiau canlynol yn cael eu glanhau'n drylwyr yr haf hwn:

Gorffennaf - 13 Gorffennaf-Treláia'r Tyllgoed

Gorffennaf - 20 Gorffennaf - Caerau a Threganna

Gorffenaf - 27 Gorffennaf - Butetown a Grangetown

Gorffennaf - 24 Awst - parciau Caerdydd

Gair i'r Golygydd:

  • Mae'r grwpiau cymunedol canlynol wedi'u sefydlu, Cadw Cathays yn Daclus; Cadw Grangetown yn Daclus; Cadw'r Rhath yn Daclus; Cadw Sblot yn Daclus; Grŵp Afonydd Caerdydd; Grŵp Eglwys Winllan Caerdydd; Cymdeithas Trigolion Glanfa'r Iwerydd; Casglwyr Sbwriel Llanisien a Draenen Penygraig; Cadw Adamsdown yn Daclus; Cydweithwyr Canna; Cymunedau yn Gyntaf Trelái a Chaerau; Casglwyr Sbwriel Pentwyn a Glan-yr-afon Taclus.
  • Bydd yr arolwg ar-lein a gynhaliwyd gan y PwyllgorCraffu Amgylcheddolar gael ar-lein o wefan y Cyngor o 18 Mehefin.Bydd copïau caled hefyd ar gael mewn Hybiau Cymunedol, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden.