Bydd Triathlon Caerdydd yn digwydd ym Mae Caerdydd ddydd Sul 24 Mehefin.
Bydd ffyrdd ar gau i hwyluso'r digwyddiad o 6am i 3pm, ac mae pob preswylydd y bydd hyn yn effeithio arno wedi cael taflen gan drefnydd y digwyddiad - Always Aim Higher Events.
Bydd yna ddau ddigwyddiad, y ras dorfol a'r ras elît.
O 6am tan 10.30am, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- International Drive i'r gyffordd ag Olympian Way
- Olympian Way, Watkiss Way, Dunleavy Drive o'r gyffordd â Watkiss Way i'r gyffordd â Pharc Manwerthu Dunleavy Drive.
O 6am tan 3pm, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
- East Tyndall Street o'r gyffordd â Schooner Way i'r gyffordd â Stryd Herbert a Rhodfa Lloyd George
- Rhodfa Lloyd George o'r gyffordd â Stryd Herbert i'r gyffordd â Stryd Bute
- Plas Bute o'r gyffordd â Rhodfa Lloyd George i'r gyffordd â Stryd Pen y Lanfa
- James Street, Clarence Road, Avondale Road a Ferry Road i'r gyffordd â Clive Street
Bydd stiwardiaid ar y stryd yn rheoli mynediad allan o eiddo ar Rodfa Lloyd George tan fod y ras elît yn digwydd am 10.30am.
Dylai trigolion sydd angen cael mynediad i'w car ac sy'n byw yn Channel View a South Clive Street symud eu ceir cyn bod y ffyrdd yn cau. Gallant barcio ym maes parcio Ikea.
Gall trigolion Clarence Embankment; Pomeroy Street; Hamadyrad Road; Clarence Place; Hunter Street; Burt Street; Harrowby Place; Harrowby Lane a Harrowby Street fynd i mewn ac allan o'r ardal lle mae'r ffyrdd ar gau drwy'r dydd gyda chaniatâd y stiwardiaid ar y stryd.
Gwneir pob ymdrech i agor y ffyrdd cyn gynted â phosibl ar ôl i'r digwyddiadau orffen. I weld y wybodaeth ddiweddaraf am draffig a thrafnidiaeth ddydd Sul 24 Mehefin, dilynwch y ffrwd fyw ar Twitter drwy ddilyn @cyngorcaerdydd.