Mae adroddiad annibynnol ar weledigaeth Cyngor Caerdydd i ddatblygu prifddinas wirioneddol ddwyieithog gyda'r Gymraeg yn rhan naturiol ac annatod o hanfod y ddinas wedi dod i'r casgliad bod cynlluniau yn mynd ar y trywydd iawn, ar seiliau cadarn a chydymffurfiaeth gadarn yn ei lle.
Nod strategaeth 5 mlynedd Caerdydd Ddwyieithog yw dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd erbyn 2050 i fwy na 70,000. Bwriada wneud hyn drwy feithrin ac annog y defnydd ar y Gymraeg yn y ddinas, ac o fewn ei weithlu ei hun, gan hwyluso‘r defnydd cydradd ar wasanaethau a chymorth y Cyngor yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Mae'r Gymraeg yn ffynnu yng Nghaerdydd ac
rydym wedi ymrwymo i feithrin ei thwf ymhellach er mwyn creu prifddinas wirioneddol ddwyieithog i Gymru.
"Rydym yn croesawu'r adborth gan adolygiad allanol ar ein strategaeth Caerdydd Ddwyieithog a byddwn
yn adeiladu ar y cryfderau a'r berthynas gadarnhaol â phartneriaid allweddol yn y ddinas er mwyn sicrhau bod y
Gymraeg yn rhan annatod o fywyd bob dydd y ddinas, a bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd yn parhau i dyfu."
.
Daw'r adolygiad, a ddaw i'r casgliad fod gweledigaeth, blaenoriaethau a chyfeiriad clir gan y Cyngor ar gyfer y Gymraeg yn y ddinas, wrth i'r Cabinet ystyried adroddiad blynyddol Safonau Cymraeg y Cyngor yn ei gyfarfod Ddydd Iau, 14 Mehefin.
Ym mis Medi 2015, gosododd Comisiynydd y Gymraeg 171 o safonau ar Gyngor Caerdydd
yn ymwneud â chynnig gwasanaethau, llunio polisi, cadw cofnodion, safonau hyrwyddo a gweithredu
gyda'r nod o sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
.
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi mwy na dyblu yng Nghaerdydd yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ac mae'r Cyngor yn gweld mwy o alw am ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'r adroddiad blynyddol yn nodi camau a gymerwyd i ateb y galw ac i gydymffurfio â safonau'r Gymraeg.
Y llynedd gwelwyd cynnydd o 76.4% yn nifer staff y Cyngor sydd yn meddu ar sgiliau Cymraeg, a hynny i raddau helaeth yn sgil cyfleoedd hyfforddi, gwell trefniadau cofnodi a chynyddu ymwybyddiaeth yn ogystal â Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog, sydd yn cyrchu targed o gael yr un ganran o staff sydd â sgiliau Cymraeg â chanran y siaradwyr Cymraeg yn y gymuned.
Ar ben hynny, mae tîm Caerdydd Ddwyieithog y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid a busnesau yn y ddinas i annog a chefnogi'r defnydd ar y Gymraeg mewn siopau a busnesau er mwyn helpu Caerdydd i ddod yn wirioneddol ddwyieithog a fydd yn hynod fuddiol wrth i'r ddinas groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni am y tro cyntaf ers 10 mlynedd.
Mae'r adroddiad yn dangos i'r Cyngor dderbyn 16 o gwynion gan y cyhoedd o ran torri'r safonau ac y bu'n destun tri ymchwiliad gan y Comisiynydd - lleihad yn nifer y cwynion a'r ymchwiliadau.Yn gyffredinol mae'r Cyngor yn perfformio'n dda o dan y safonau.
Mae cyflawniadau allweddol yn yr adroddiad yn cynnwys ennill cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020 (CSCA) ym mis Mawrth 2018 ac i Dîm Caerdydd Ddwyieithog gyfieithu dros naw miliwn o eiriau y llynedd, mwy nag erioed o'r blaen.
Ychwanegodd y Cyng Thomas:"Rwy'n falch o weld bod cydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg yn gyffredinol dda a byddwn yn parhau i weithio'n galed i sicrhau bod preswylwyr yn gallu defnyddio'n gwasanaethau yn y Gymraeg neu'r Saesneg."