The essential journalist news source
Back
30.
May
2018.
Arweinydd y Cyngor yn croesawu arbenigwyr diwydiant i Fae Caerdydd

Y penwythnos diwethaf cyrhaeddodd Ras Fôr Volvo yng Nghaerdydd gan mai'r ddinas fydd yn rhoi cartref i'r ras hwylio ryngwladol pan fydd yn glanio yn y DU.I nodi'r digwyddiad mae arbenigwyr diwydiant o'r DU ac Ewrop wedi dod ynghyd i ddathlu Blwyddyn y Môr yng Nghymru ac i edrych am weledigaeth newydd ar gyfer Bae Caerdydd.

Bydd cynhadledd ddeuddydd a drefnir mewn partneriaeth gydag Awdurdod Harbwr Caerdydd a'r Ymddiriedolaeth Treftadaeth Forol yn ystyried treftadaeth forol Caerdydd a'r rhan y chwaraeodd wrth lunio'r Bae a'i gyfraniad at ei ddatblygiad economaidd a diwylliannol yn y dyfodol.Gan arddangos prosiectau cynaliadwy ar bob agwedd o dreftadaeth forol, bydd arbenigwyr o'r diwydiant yn edrych ar yr heriau o ddod o hyd i gyllid i wneud i'r prosiectau yma ddigwydd.

Dywedodd y Cyng. Huw Thomas:"Caerdydd oedd porthladd allforio glo mwyaf y byd ar un adeg a bu'n chwarae rôl sylweddol yn economi'r byd.Yn sgil dad-ddiwydiannu fodd bynnag, trodd Bae Caerdydd ei golygon tuag at adfywio, gyda ffocws newydd ar ddenu pobl ac ymwelwyr.Rydym yn cydnabod, er mwyn i Gaerdydd barhau i fod yn gyrchfan glan-dŵr flaenllaw, bod rhaid i ni ail-lunio'r weledigaeth ar gyfer Bae Caerdydd fel cyrchfan hamdden er mwyn cynnal y momentwm sydd wedi bod ar waith dros yr 20 mlynedd diwethaf.

"Mae Ras Fôr Volvo nid yn unig yn cadarnhau ein gallu i gynnal digwyddiadau rhyngwladol o bwys ac yn benodol, cyflwyno Caerdydd i gynulleidfa newydd sbon, ond mae hefyd yn rhoi'r cyfle i ddod ag arbenigwyr yn y maes adfywio glannau i Gaerdydd i fyfyrio ar ei gorffennol ac ystyried ei dyfodol."

Ymhlith uchafbwyntiau'r rhaglen heddiw (dydd Mercher 30) mae:

 

-         Dod o hyd i Ysbrydoliaeth yn y maes treftadaeth newydd,Matthew Tanner, Prif Weithredwr SS Great Britain a Sefydliad Brunel 

-         Mynd i'r afael â'r her sgiliau ac ymgysylltu â phobl ifanc yn y maes cadwraethPiran Harte a Victoria Wallworth, Llongau Hanesyddol Cenedlaethol DU

-         Gwneud i brosiect lwyddo - esiamplau o amgueddfeydd bach llwyddiannus   Emma Chaplin, Cyfarwyddwr, Sefydliad yr Amgueddfeydd Annibynnol

 

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Forol:"Mae Treftadaeth yn greiddiol i bwy ydym ni, yn forol, ac o ran trafnidiaeth a diwydiant, yn arbennig felly yng Nghaerdydd.Bydd y Gynhadledd hon yn ein helpu i rannu technegau ar sut i werthfawrogi a chadw'r hyn sydd gennym a sut i ysbrydoli ar gyfer y dyfodol."

Cynhelir y gynhadledd ddeuddydd yn y Gyfnewidfa Lo a Chanolfan Mileniwm Cymru, a bydd dros 20 o siaradwyr yn rhannu eu gwybodaeth am dreftadaeth forol.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau gyda'r nos wedi'u trefnu gan yr Ymgynghorydd Twristiaeth, yr Athro Terry Stevens yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru heno, gan ddathlu arfordir hynod Cymru a'r profiadau gwych sydd i'w cael ar ei hyd.