The essential journalist news source
Back
11.
May
2018.
Estyn yn cydnabod Ysgol Pwll Coch fel ysgol dda ym mhob agwedd

Mae archwiliad gan y corff addysg Estyn wedi canfod fod Ysgol Pwll Coch yn ‘dda' ym mhob un o'r pum maes yr edrychwyd arnynt. 

Aeth archwilwyr i'r ysgol yn gynharach eleni i weld sut roedd yr ysgol gynradd Gymraeg yn Nhreganna yn perfformio o ran : safonau; llesiant ac agweddau at ddysgu; addysgu a phrofiadau dysgu; gofal, cymorth ac arweiniad; ac arweiniad a rheolaeth. 

Canfuwyd fod y staff yn ‘creu ethos hapus, gofalgar a chynhwysol yn yr ysgol, lle caiff pawb eu parchu a'u gwerthfawrogi.' 

Mae adroddiad Estyn yn mynd rhagddo i ddweud fod yr addysgu yn ‘meithrin amgylchedd dysgu cefnogol a diwyd', lle mae 'disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn ac yn awyddus i ddysgu.' 

Mae athrawon yn yr ysgol yn cynllunio ‘profiadau dysgu ymarferol, ysgogol a chyfoethog' ac, o ganlyniad mae disgyblion yn ‘cyflawni'n dda ac yn defnyddio'u sgiliau i safon uchel.' 

Mae arweinyddiaeth gadarn yr ysgol ‘yn sicrhau cyfeiriad strategol clir' ac yn hyrwyddo gweledigaeth sy'n canolbwyntio ar ‘anelu am ragoriaeth'. 

Ceir cefnogaeth gref gan staff sydd 'oll yn credu yng ngweledigaeth yr ysgol ac yn gweithio i'w gyflawni'. 

Dywedodd Pennaeth Ysgol Pwll Coch, Mr Christopher Newcombe: "Carwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn. Fel ysgol, rydym wrth ein bodd gydag adroddiad ein harolwg a byddwn  nawr yn parhau i ddatblygu ac esblygu wrth i ni anelu am ragoriaeth i'n holl ddysgwyr. Rwy' wrth fy modd fod Estyn wedi cydnabod ymrwymiad pob aelod o gymuned ein hysgol. 

"Mae disgyblion anhygoel gennym, ac rwy'n falch iawn o fy holl staff ac yn falch hefyd fod Estyn wedi cydnabod ansawdd yr addysgu. Mae'r corff llywodraethu yn brofiadol iawn ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a'r her egnïol a phroffesiynol a roddwyd." 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, a'r Cynghorydd Sarah Merry: "Llongyfarchiadau i Mr Newcombe, yr holl staff, disgyblion, llywodraethwyr a phawb sydd yn ymwneud ag Ysgol Pwll Coch yn llwyddo i ennill cystal canlyniadau da yn arolygon Estyn. Gwn fod pawb yn yr ysgol wedi rhoi cymaint o waith caled er mwyn sicrhau y llwyddiant hwn, ac rwy hefyd yn gwybod am yr ymrwymiad a'r penderfyniad sydd ganddynt i weithio tuag at ragoriaeth yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen i gael ychwanegu fy llongyfarchion yn bersonol pan fyddaf yn ymweld nesaf ag Ysgol Pwll Coch."