The essential journalist news source
Back
3.
May
2018.
Yr Arglwydd Faer yn diolch i’w Dîm Her Tri Chopa a’i gefnogwyr

 

Mae Arglwydd Faer Caerdydd wedi talu teyrnged i'w dîm gwych a lwyddodd i gwblhau her Tri Chopa Cymru y penwythnos diwethaf.

 

Hwn oedd her codi arian olaf y Cyng. Bob Derbyshire cyn iddo gwblhau ei dymor fel Arglwydd Faer a throsglwyddo'r gadwyn seremonïol i'w olynydd yn ddiweddarach y mis hwn. Penderfynodd felly nodi diwedd ei gyfnod fel prif ddinesydd Caerdydd ar uchafbwynt yng ngwir ystyr y gair!

 

Rhoddodd her i'w hun o ddringo'r Wyddfa, Cadair Idris a Phen-y-Fan i godi arian i'w ddewis elusennau -Buglife Cymru ac RSPB Cymru. Gydag ef ar y daith oedd ei gyd-gynghorwyr yng Nghaerdydd, gan gynnwys yr Arweinydd, y Cyng. Huw Thomas, y Cyng. Sarah Merry, y Cyng. Peter Wong a'r Cyng. Chris Weaver, ynghyd â chynrychiolwyr o'r ddwy elusen.

 

C:\Users\c080012\AppData\Local\Microsoft\Windows\Temporary Internet Files\Content.Word\IMG_20180502_114932.jpg0}

 

Y nod oedd codi £1,000, ond mae'r Arglwydd Faer eisoes wedi curo'r targed gan gasglu £1,400, gyda chyfraniadau eto i ddod.

 

Dywedodd y Cyng. Bob Derbyshire:"Roedd y tîm yn wych.Fe wnaethon nhw lwyddo i wneud y tri copa. Yn anffodus, wnes i ddim eu cwblhau nhw. Fe roddais i mi fy ergyd gorau ond ar ôl Yr Wyddfa a Cadair Idris, roeddwn i'n blino lan. Yn ffodus, roedd y tîm yn gallu parhau a dringoPen y Fan.

 

"Rwy eisiau dweud diolch i bawb yn y tîm - gallwn i ddim fod wedi gwneud hebddyn nhw, ac mae hynny'n cynnwys ein gyrrwr Steve Ling, rheolwr cynorthwyol Canolfan Hamdden Trem y Môr, a oedd yn wych yn trefnu'r ‘logisteg' a'n cludo o gwmpas.

 

"Cawsom gefnogaeth anferth a dwi'n diolch i bawb a gyfrannodd. Daeth Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cyng. Dyfrig L. Siencyn a'r cadeirydd Annwen Daniels i ymuno â ni ar Gadair Idris. Roeddwn yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth a'u cyfraniad yn fawr.

 

"Roedd yn ddiwrnod anodd iawn. Dechreuon ni gerdded o Lanberis am 6am - roedd yr haul newydd godi ac roedd hi'n brydferth iawn. Roeddem yn lwcus iawn o ran y tywydd.

 

"Ond Cadair Idris oedd yr her anoddaf - dechreuodd hi lawio a bwrw eira hanner ffordd i fyny, ac roedd hi'n anodd iawn wrth ddod yn ôl i lawr. Roedd hi'n lladdfa yn ôl un o'r lleill!

 

"Erbyn i ni gyrraedd Pen-y-Fan, roedd hi'n hwyr a'r tîm yn dringo yn y tywyllwch, gan ddod yn ôl i lawr toc ar ôl hanner nos.

 

"Roedd yn heriol iawn, a dwi ddim yn meddwl y gwnaf i hyn eto, ond bydd yn atgof y trysoraf i am byth. Rwy'n gobeithio na fydd neb yn gofyn am eu harian yn ôl gan fod aelodau'r RSPB a BugLife wedi cwblhau'r tri dringo. Efallai, pe bawn i wedi bod yn 20 oed yn iau gyda dau gipyn da, byddwn wedi ei chwblhau hefyd.

 

"Diolch i bawb a gefnogodd y tîm."

 

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i gefnogi camp yrArglwydd Faer.I gyfrannu, ewch i

www.justgiving.com/fundraising/welsh3peaksforwildlife

.