Mae Dydd y
Farn yn ôl eto eleni, gyda'r Dreigiau'n chwarae yn erbyn y Scarlets am 3.05pm
ac yna Gleision Caerdydd yn erbyn y Gweilch am 5.35pm dydd Sadwrn yma, Ebrill
28.
Oherwydd diogelwch y cyhoedd bydd ffyrdd canol y ddinas i gyd ar gau am 12.30pm, gyda disgwyl iddynt ail-agor am 8.30pm.Cynghorir yn gryf bod y rheiny sy'n teithio mewn car yn cadw lle yn y cyfleuster parcio a theithio, neu'n parcio drwy edrych ar y ddolen ganlynol cyn teithio -https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Mae Trenau Arriva Cymru yn cynghori cwsmeriaid bod disgwyl i wasanaethau trên fod yn brysur iawn yn enwedig gwasanaethau i ac o orllewin Cymru a dylai pawb sy'n bwriadu defnyddio eu gwasanaethau gyrraedd Caerdydd tair awr cyn i'r gêm ddechrau. Bydd mwy o gapasiti i'r gwasanaethau hynny lle bo'n bosibl.
Mae Network Rail yn rhagrybuddio cwsmeriaid bod gwaith peirianneg cynlluniedig rhwng Caerwrangon a Chaerloyw, sy'n golygu bod gwasanaethau bws ar waith rhwng Caerloyw a Caerwrangon Shrub Hill, gan gynnwys Cheltenham Spa ar 28 a 29 Ebrill. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith hwn arwww.GWR.com/Cotsworlds2018
Cynghorir teithwyr i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw arwww.nationalrail.co.ukneu drwy ffonio Travel Line Cymru ar 0800 464 0000.
Bydd gwiriadau diogelwch manwl ar waith yn Stadiwm Principality, felly dylai pawb sydd â thocyn ddisgwyl gwiriad diogelwch wrth fynd i mewn i'r stadiwm.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas (12.30pm tan 8.30pm)
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
- Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
- Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
- Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Heol Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
O 6:30pm tan 9.30pm, bydd Rhodfa'r Orsaf ar gau. Bydd modd i gerbydau adael maes parcio Canolfan Siopa Capitol drwy Stryd Ogleddol Edward/Rhodfa'r Orsaf tua'r gogledd, tuag at Heol Casnewydd/Dumfries Place.
Noder:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Yna cynghorir i gefnogwyr rygbi gynllunio i gyrraedd y stadiwm mewn digon o amser, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau na chaniateir arwww.principalitystadium.cymru
Trenau
MaeTrenau Arriva Cymruyn cynghori cwsmeriaid bod disgwyl i wasanaethau trên fod yn brysur iawn yn enwedig gwasanaethau i ac o orllewin Cymru a dylai pawb sy'n bwriadu defnyddio eu gwasanaethau gyrraedd Caerdydd tair awr cyn i'r gêm ddechrau. Bydd mwy o gapasiti i'r gwasanaethau hynny lle bo'n bosibl. Bydd system reoli ar waith ar ôl y gêm yng Nghaerdydd Canolog a gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd.
Heblaw am wasanaethau Maesteg a Glyn Ebwy, bydd pob gwasanaeth Caerdydd a'r Cymoedd yn defnyddio Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd - gan gynnwys gwasanaethau i Benarth; Y Barri; Coryton; Radur; Merthyr; Treherbert; Aberdâr a Rhymni. Mae'r holl wybodaeth ar gael arwww.arrivatrains.cymru/events
MaeNetwork Railyn rhagrybuddio cwsmeriaid bod gwaith peirianneg cynlluniedig rhwng Caerwrangon a Chaerloyw, sy'n golygu bod gwasanaethau bws ar waith rhwng Caerloyw a Chaerwrangon Shrub Hill, gan gynnwys Cheltenham Spa ar 28 a 29 Ebrill. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y gwaith hwn arwww.GWR.com/Cotsworlds2018
Cynghorir teithwyr i gynllunio eu siwrneiau ymlaen llaw arwww.nationalrail.co.ukneu drwy ffonio Travel Line Cymru ar 0800 464 0000.
Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 yr M4 ac yna dilyn yr arwyddion i'r safle.
I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i - https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 9pm a bydd y maes parcio'n cau am 9.30pm.
Traffyrdd a phriffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio rhag blaen a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a phriffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.
Parcio ar y Diwrnod
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4
Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 8.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau a adawir yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)
Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £10, neu £8 ar y diwrnod (arian parod yn unig). I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar:https://www.parkjockey.com/principality-stadium(mae hyn ar gael i geir yn unig).
Amseroedd parcio: Mae'r maes parcio ar agor am 7.30am a bydd ar agor am 8am ac mae'n rhaid i bob car fod oddi yno neu'n arddangos tocyn talu ac arddangos erbyn 8am dydd Sul, 29 Ebrill.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.
Parcio i Bobl Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 12.30pm ac yn ailagor am 8.30pm.
Bws
Bysus lleol:
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd a fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.