The essential journalist news source
Back
20.
April
2018.
Dwy ysgol yn dathlu eu huniad yn un ffederasiwn

Daeth yr haul ar adeg gyfleus i ysgolion cynradd Coryton a Thongwynlais, wrth iddyn nhw gynnal seremoni arbennig iawn i ddathlu uniad y ddwy ysgol yn Ffederasiwn y Pren Gellyg. 

Mae'r Ffederasiwn wedi ei enwi ar ôl Fferm Pren Gellyg a fu gynt ar dir hanner ffordd rhwng y ddwy ysgol - yn fras lle mae cylchfan Coryton wrth gyffordd 32 yr M4 heddiw. 

I nodi'r achlysur, gwahoddodd y Pennaeth, Mrs Sally Phillips, gadeiryddion cynghorau ysgol Coryton a Thongwynlais, sef Scott a Daniel, i helpu'r Cadeirydd y Llywodraethwyr Cynghorydd Mike Jones-Pritchard i blannu pren gellyg. 

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Sally Phillips:"Mae Ffederasiwn y Pren Gellyg yn fenter gyffrous i Coryton a Thongwynlais, ac mae'n digwydd wedi i'r ddwy ysgol gytuno ar yr uno a sylweddoli y byddai o fudd mawr iddynt. 

"Mae Coryton a Thongwynlais ill dwy yn ysgolion cynradd bychain, ag un dosbarth derbyn, ac rydym nawr yn gryfach gyda'n gilydd.Fel ffederasiwn gallwn ni nawr rannu adnoddau dysgu ac addysgu, cyfleoedd, arbenigedd broffesiynol a llywodraethiant a thrwy hynny godi safonau a gwella'r ddarpariaeth."