Bydd Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Neuadd Dewi Sant, y Theatr Newydd a’r Eglwys Norwyaidd yn diffodd eu goleuadau allanol ac yn ymuno â channoedd o filiynau o unigolion a busnesau o fwy na 180 o wledydd gwahanol a mwy na 7000 o ddinasoedd i nodi Awr y Ddaear o 8.30pm i 9.30pm ddydd Sadwrn 24 Mawrth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:“Mae’r Cyngor wedi cymryd rhan yn Awr y Ddaear dros y 9 mlynedd ddiwethaf i ddangos ein hymrwymiad i weithredu ar newid yn yr hinsawdd.Y llynedd gwnaeth tua 280,000 o Gymry a mwy na 300 o ysgolion Cymru ymuno â ni - anogaf gynifer â phosibl ohonoch i ymuno â ni y penwythnos hwn."
Addewid Awr y Ddaear:Eleni, anogir unigolion a sefydliadau i wneud ‘Addewid Awr y Ddaear’, megis newid i ynni gwyrdd, dewis trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau’r defnydd o gig, defnyddio cwpanau coffi amldro neu leihau gwastraff bwyd.
Gallwch
gofrestru eich Addewid ar wefan WWF: https://www.wwf.org.uk/wales/earthhour