Tynnwyd ein sylw yn ddiweddar at nifer o sgamiau sydd wedi arwain at drigolion yn colli symiau sylweddol o arian. Mae'n debyg bod y sgamwyr yn ffonio trigolion yn honni bod yn swyddogion yr heddlu.
Mewn rhai achosion, dywedwyd wrth y trigolion bod eu cardiau debyd wedi cael eu clonio neu eu bod wedi bod yn destun twyll, a gofynnwyd iddynt roi eu manylion banc dros y ffôn.
Mewn galwadau eraill, dywedwyd wrth y dioddefwyr fod aelod o'u teulu wedi cael ei arestio, neu gofynnwyd iddynt fynd i dynnu miloedd o bunnoedd o'r wal i brynu eitemau drud i'w rhoi i ‘gludwr' a fyddai'n casglu'r arian o'u cartref.
Dyma rai enghreifftiau go iawn o achosion sgâm yn yr wythnosau diwethaf:
Tynnodd dyn 89 oed o'r Rhath arian parod gwerth £8,000 i'w roi i sgamwyr, ond yn ffodus, ni aeth ati i roi'r arian iddynt yn y pen draw.
Ceisiodd dyn 80 oed o'r Mynydd Bychan dynnu £25,000 o'i gyfrif banc, ond gwrthododd y banc ryddhau'r arian iddo ar ôl amau bod y dyn yn darged sgâm.
Rhoddodd dyn 79 oed o'r Eglwys Newydd gardiau a rhifau PIN i sgamiwr a oedd yn honni bod yn gludwr.
Tynnodd menyw 75 oed o Grangetown £6,500 o'r banc a'i roi i gludwr.
Rydym am amddiffyn ein trigolion rhag unrhyw fath o sgâm, felly gobeithiwn y bydd y wybodaeth a'r cyngor isod o fudd i chi:
Peidiwch â phrynu nwyddau na gwasanaethau na rhoi arian i alwyr digroeso ar y drws. Os ydych yn ansicr, peidiwch ag agor y drws. Dangoswch sticer "Dim Galwadau Digroeso
Peidiwch byth â datgelu eich manylion personol na manylion diogelwch, fel eich PIN neu eich cyfrinair bancio llawn.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod e-bost, neges destun neu alwad ffôn yn ddilys. Byddwch yn amheus - peidiwch ag ymateb - dylech ei roi yn y bin neu ei ddileu, neu rhowch y ffôn i lawr.
Peidiwch â chael eich rhuthro. Bydd sefydliad go iawn yn hapus i aros. Peidiwch â gwneud penderfyniadau byrfyfyr. Gall sgamwyr fod yn hynod o ddarbwyllol a dyfal.
Dilynwch eich greddf - rydych yn gwybod os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn. Byddwch yn bwyllog - peidiwch â dychryn a gwneud penderfyniad y byddwch yn ei ddifaru.
Byddwch yn amheus o unrhyw un yn gofyn am arian na fyddai'n gofyn fel arfer, neu'n gofyn am arian yn hollol annisgwyl. Byddwch yn wyliadwrus! Mae sgamwyr yn honni bod o sefydliadau swyddogol fel y swyddfa dreth, eich darparwr ffôn a'r heddlu.
Mae cynigion sy'n rhy dda i fod yn wir gan amlaf yn dwyll.
Gallwch ond ennill y loteri neu wobr os ydych wedi cymryd rhan i gychwyn.
Ni fydd cwmnïau cyfreithiol byth yn gofyn am arian i brynu rhywbeth nac i hawlio gwobr.
Cysylltwch â'ch darparwr ffôn i weld a allant gynnig dulliau o ddod â galwadau diangen i ben.
Gofynnwch i rywun os ydych yn ansicr. Siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo, fel ffrind neu gymydog i gael barn rhywun arall. Meddyliwch ddwywaith a gofynnwch am gyngor gan Linell Cymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 03454 04 05 05.
Ffoniwch yr heddlu os ydych yn teimlo dan fygythiad ar unrhyw adeg.