The essential journalist news source
Back
9.
March
2018.
Dewis y criw

Mae llawer o'n prentisiaid yn mynd yn eu blaenau i sicrhau gwaith amser llawn. Un o'r rheiny yw Sam Pika. <0}Wrth sgwrsio â ni ynghylch pam y gwnaeth gais am brentisiaeth gyda ni, dywedodd Sam "Roeddwn i'n ansicr pa lwybr gyrfa ro'n i am ei gymryd felly fe drefnais i gyfarfod â chynghorydd gyrfaoedd a awgrymodd y dylwn wneud cais am y brentisiaeth y mae Cyngor Caerdydd yn ei hariannu. Roedd y brentisiaeth hefyd yn cynnwys CGC mewn Gweinyddiaeth Fusnes / Gwasanaeth Cwsmeriaid, ac anogodd y syniad o astudio wrth weithio i mi wneud cais."

"Roedd y brentisiaeth yn llawer mwy amrywiol nag a ddisgwyliwn i. Mae'n debyg fy mod i'n disgwyl cyflawni dyletswyddau swyddfa sylfaenol ac mewn un adran. Ond fe ges fy hun yn gweithio ar draws sawl gwasanaeth a phob un yn wahanol i'r un blaenorol. Er enghraifft, fe ddechreuais i weithio yn adran Diwylliant, Hamdden a Pharciau yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain a oedd yn golygu gwasanaethu cwsmeriaid ar y dderbynfa; yn ddiweddarach cefais fy hun yn trefnu cyfarfodydd gyda Chynghorwyr pan oeddwn i'n gweithio yn y Gwasanaethau Craffu, gan ennill profiad gwerthfawr ymhob un.

Ychwanegodd Sam hefyd "Bu'r brentisiaeth yn bont i mi o addysg amser llawn i waith amser llawn. Magais hyder a dysgu sut mae creu perthynas waith dda gyda'r bobl o'm hamgylch i. Ac fe wnaeth yr holl bobl y des i ar eu traws ar y daith fy arwain a'm mentora i pan ddaeth hi'n adeg gwneud cais am swyddi parhaol yng Nghyngor Caerdydd. Rwy'n ddiolchgar dros ben am y cyfle a ges i!"

Os ydych chi yn brentis neu yn nabod un, hoffwn ni glywed am eich brofiad #NAW2018