Mae gwaith hanfodol wedi'i wneud i adfer ac adnewyddu Cofeb Rhyfel Tredelerch, gan ddychwelyd y gofeb i'w hen gyflwr.
Roedd Gwasanaethau Profedigaeth Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am y project a ariannwyd gan Cadw, yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel a Chyngor Caerdydd.Gwnaethpwyd y gwaith gan Mossfords Ltd ac roedd yn cynnwys ail-euro arysgrifau, gwaith glanhau ac ailbwyntio proffesiynol, adnewyddu palmentydd, ailwampio rheiliau a gosod giât newydd.
Dadorchuddiwyd y gofeb yn wreiddiol yn 1924 fel y Senotaff gan Ardalyddes Bute ac Arglwydd Tredegar yn y neuadd goffa newydd ei hadeiladu. Daeth dwy fil o bobl i'r agoriad a oedd i gyd yno i anrhydeddu pobl arwrol Tredelerch a fu farw.
Roedd yr Hybarchus Archddiacon Trefynwy yn y digwyddiad hefyd a dynnodd sylw at y 290 dyn o Dredelerch a wasanaethodd eu gwlad yn ystod y rhyfel na ddaeth 35 ohonynt yn ôl yn fyw. Gosodwyd 14 torch wrth y senotaff gan berthnasau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:"Mae Cofeb Rhyfel Tredelerch yn gofeb deimladwy ac un y buddsoddodd cymuned Tredelerch, a oedd yn bentref bryd hynny, lawer o amser, gwaith caled ac adnoddau i'w chodi.
"Mae'n un ymhlith llawer o gofebion a senotaffau yn ein dinas sy'n cynnig cysylltiad â'r gorffennol a lle i fyfyrio. Maent yn galluogi pobl o bob oedran i ddysgu a chofio'r bobl hynny a fu farw yn y rhyfel ac mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau eu bod ar eu gorau.
"Rwyf wrth fy modd gyda'r gwaith a wnaed ac rwy'n ymestyn fy ngwerthfawrogiad i'r sefydliadau hynny a helpodd i ariannu'r project hwn."
Dywedodd Frances Moreton, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, "Mae cofebion rhyfel yn gysylltiad go iawn â'n gorffennol a rennir gan greu cyswllt rhwng y rhai fu farw a'r genhedlaeth bresennol.Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau bod ein holl gofebion rhyfel ar eu gorau ac mae'r elusen yn falch o gefnogi'r project hwn.Mae canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfle gwych i gymunedau lleol ledled y wlad amddiffyn a chadw eu cofebion rhyfel.Os oes unrhyw sy'n gwybod am unrhyw gofebion rhyfel eraill y mae angen ein help arnynt, cysylltwch