Mae asiantaeth gosod tai wedi'i herlyn am y tro cyntaf yng Nghaerdydd am fethu â rheoli eiddo rhent i'r safonau cyfreithiol gofynnol, gan roi bywyd tenantiaid mewn perygl.
Cafodd Aspire LMS Ltd - yn masnachu fel Aspire Residential - sy'n gweithredu o Heol Penarth yng Nghaerdydd, eu herlyn yn Llys yr Ynadon Caerdydd ddoe.
Cafodd Mr Yasir Tufail, sef y cyfarwyddwr ar adeg y troseddau, a'r cwmni Aspire LMS Ltd ddirwy o £5,800 yr un ar ôl pledio'n euog i 10 cyhuddiad.
Ymwelodd swyddogion o'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir ag 20 Heol y Gadeirlan Isaf ar 13 Mehefin 2017 a gweld bod pum person yn byw mewn chwe ystafell wely yn y tŷ. Gwnaeth yr archwiliad ganfod nifer o fethiannau a roddodd fywydau'r tenantiaid mewn perygl.
Roedd y rhain yn cynnwys:
- Dim synwyryddion mwg yn y tŷ;
- Roedd y falf atal nwy brys wedi'i leoli yn yr ystafell ymolchi flaen felly ni allai gael ei ddiffodd mewn argyfwng;
- Roedd y pwyntiau trydan wedi'u gorlwytho;
- Nid oedd digon o olau mewn ardaloedd cyffredin;
- Roedd y ffenestri PVC wedi'u difrodi.
Dywedodd y Barnwr Rhanbarth Bodfan Jenkins wrth y diffynyddion fod ‘osgoi costau' wedi gwaethygu pethau yn yr achos hwn a bod y diffynyddion wedi ceisio ‘amharu ar yr ymchwiliad'.
Esboniodd Mr Prys-Lewis - yn cynrychioli Mr Yasir Tufail - fod y diffynnydd o gymeriad da, bod y gwaith ar yr eiddo bellach wedi'i gwblhau ac nad yw'r tŷ bellach yn cael ei ddefnyddio fel tŷ amlfeddiannaeth. Gwnaethant dderbyn eu bod wedi methu â rhoi mesurau ar waith a oedd yn ‘safonau cydnabyddedig yn y diwydiant'.
Meddai'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, y Cyng. Michael Michael: "Mae landlordiaid wedi cael eu herlyn yn y gorffennol am y mathau hyn o droseddau, ond dyma'r tro cyntaf i asiantaeth gosod tai gael ei herlyn. Mae diogelwch tân yn bwysig iawn ac rwy'n falch iawn fod y llys wedi adlewyrchu difrifoldeb yr achos yn y ddirwy a roddwyd."
Cafodd Yasir Tufail ac Aspire LMS Ltd ddirwy o £5,880 yr un ac fe'u gorchmynnwyd i dalu £2,050 yr un a gordal dioddefwr o £170 yr un.