Bydd ffioedd cerbydau hacni yng Nghaerdydd yn cynyddu ar 12 Mawrth 2018.
Mae'r cynnydd yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus a chymeradwyaeth gan Gabinet y Cyngor a dyma'r cynnydd cyntaf yn y Tariff Ffioedd safonol ers mis Rhagfyr 2015.
Bydd y gost ar y mesurydd pan fydd cwsmer yn mynd i mewn i dacsi yn codi o £2.30 i £2.50 gyda chynnydd o 10 ceiniog y filltir - yn codi'r gyfradd o £1.70 y filltir i £1.80.
O dan y prisiau newydd, bydd taith o dair milltir yn codi'r ffi gan 6.7% yn ystod y dydd a 6% gyda'r nos.Bydd cost y daith hon yn codi o £7.30 i £7.80 yn ystod y dydd ac o £8.30 i £8.80 gyda'r nos.
Mae'r penderfyniad i gynyddu'r ffi'n ystyried y costau uwch i'r Fasnach Tacsis sy'n cynnwys costau yswiriant, tanwydd a chynnal a chadw cerbydau.
Yn seiliedig ar daitho ddwy filltir, ar hyn o bryd mae Caerdydd yn y 220fed safle mewn tabl cynghrair o'r lleoedd drutaf i gael tacsi yn y DU allan o 370 o siroedd, dinasoedd neu feysydd awyr. Bydd y cynnydd ffi ar 12 Mawrth yn symud Caerdydd i fyny'r tabl hwnnw gan tua 100 lle.
Bydd dal tacsi yng Nghaerdydd wedyn yn costio'r un peth â chael tacsi mewn 27 ardal arall gan gynnwys sir Gaerfyrddin, swydd Aberdeen, Caergaint, Ipswich a Scarborough.
Tariff Cerbydau Hacni'r Cyngor yw'r uchafswm y gall gyrwyr cerbydau hacni ei godi ar deithiau sy'n dechrau ac yn darfod yng Nghaerdydd.Dylai'r holl deithiau hyn gael eu codi ar y mesurydd.
Nid oes yn rhaid i yrwyr tacsi ddefnyddio'r Tariff na'r mesurydd i ffioedd sy'n dechrau neu'n darfod y tu allan i Gaerdydd, mae'r ffi bryd hynny drwy gytundeb rhwng y gyrrwr a'r teithiwr.
Gallwch wneud cwynion am godi gormod o ffi neu eu gwrthoditrwyddedu@caerdydd.gov.uk