Bydd Cymru yn chwarae’r Eidal yng ngemau’r 6 Gwlad Natwest yn Stadiwm Principality ddydd Sul 11 Mawrth.
Bydd tîm Merched Cymru yn chwarae'r Eidal am 11.45am felly bydd y gatiau i'r stadiwm yn agor am 11.30am.
Bydd trefniadau diogelwch llym ar waith yn Stadiwm Principality felly dylai pawb sy'n dod i Gaerdydd i wylio'r gêm ganiatáu digon o amser i gyrraedd y ddinas a mynd i mewn i'r stadiwm.
Dylai cefnogwyr rygbi adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau sydd wedi'u gwahardd a restrir yn principalitystadium.wales cyn iddynt deithio i'r ddinas.
Bydd y gic gyntaf am 3pm a bydd ffyrdd ar gau o amgylch y ddinas o 11.30am i 6pm.
Mae manylion gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn i'r wasg.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn rhan o batrwm cau ffyrdd canol y ddinas:
- Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
- Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
- Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
- Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
- Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
- Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
- Bydd y ffyrdd canlynol ynghau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio cyn y digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
O 3.45pm, bydd Rhodfa'r Orsaf ar gau. Bydd modd i gerbydau adael maes parcio Canolfan Siopa Capitol drwy Stryd Ogleddol Edward/Rhodfa'r Orsaf tua'r gogledd, tuag at Heol Casnewydd/Dumphries Place.
Noder:
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd gyferbyn â Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, yna bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.
Trenau
Nid oes gwaith peirianneg wedi'i gynllunio gan Network Rail ar gyfer y digwyddiad hwn. I wirio eich siwrne o flaen llaw, ewch i -www.nationalrail.co.uk
Mae'r cyngor gan Drenau Arriva Cymru fel a ganlyn:
- I gwsmeriaid sy'n mynychu'r gêm hon, fe'ch cynghorir i gymryd y gwasanaeth cynharaf posibl i mewn i Gaerdydd gan y bydd gwasanaethau trên yn yr ardal yn brysur drwy'r dydd.
- Gofynnir i gwsmeriaid brynu tocyn cyn iddynt fynd ar y trên a phrynu tocyn dychwelyd ar eu siwrne adref os ydynt yn cymryd y trên adref
- Ychwanegir capasiti ychwanegol lle bo'n bosibl, fodd bynnag cynghorir cwsmeriaid i wirio eu trên olaf adref
- Ar ôl y gêm, rhaid i gwsmeriaid ar gyfer llwybrau lleol Caerdydd a'r Cymoedd (gwasanaethau i Ynys y Barri, Penarth, Pen-y-bont trwy'r Rhws, a Llanilltud Fawr, Radur trwy linell y ddinas, Caerffili, Tredelerch, Pontypridd, Treherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr) ddefnyddio gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd
- Bydd systemau ciwio ar ôl y gêm ar waith yng ngorsaf Caerdydd Canolog a Heol-y-Frenhines Caerdydd
Gorsaf Caerdydd Canolog
Defnyddiwch orsaf Caerdydd Canolog ar gyfer y lleoliadau canlynol
- Birmingham
- Bryste
- Crewe
- Glyn Ebwy
- Caerloyw
- Llundain
- Casnewydd
- Gogledd Cymru
- Gorllewin Cymru
Heol-y-frenhines Caerdydd
Defnyddiwch Heol-y-Frenhines Caerdydd ar gyfer y lleoliadau canlynol;
- Y Barri,
- Cwm Rhymni
- Dyffryn Taf
Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad
Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir mynd yno o gyffordd 33 yr M4 ac yna dilyn yr arwyddion i Leckwith Road.
I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i -https://www.parkjockey.com/principality-stadium
Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.
Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.
Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig). Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, bydd angen i chi argraffu eich cadarnhad a'i roi i aelod o staff.
Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 7pm a bydd y maes parcio'n cau am 7.00pm.
Traffyrdd a phriffyrdd
Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio rhag blaen a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a phriffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a Chaerdydd fod yn brysur iawn.
Parcio ar y Diwrnod
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadael cyffordd 32 yr M4
Cost: £15 i'w dalu yn y maes parcio (arian parod yn unig)
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Noder: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 5.30pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau a adawir yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)
Cyrraedd yno: Gadewch gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £12 ymlaen llaw ar-lein neu £15 yn y maes parcio (arian parod yn unig).
Os byddwch yn archebu lle parcio ymlaen llaw bydd angen i chi argraffu'r cadarnhad a'i roi i aelod o staff wrth bario'ch cerbyd.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am. Rhaid symud cerbydau neu roi tocyn talu ac arddangos arnynt o 8am ddydd Llun Mawrth 12.
I gadw lle parcio ymlaen llaw, cliciwch ar: https://www.parkjockey.com/principality-stadium (mae hyn ar gael i geir yn unig).
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd y byddai 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gallu gwneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.
Parcio i'r Anabl
Cynghorir gyrwyr anabl i ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae llefydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn
meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Parcio Siopa
Cynghorir siopwyr i ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol a neilltuwyd ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.
Neu mae'r meysydd parcio yng nghanol y dref hefyd ar gael; Meysydd Parcio Heol y Gogledd;Canolfan Siopa Dewi Sant;John Lewis;Canolfan Siopa Capitol;NCP - Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion
Tacsis
Bydd y rhes dacsis ar Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau rhwng 11.30am a 5.15pm.
Bysus
Bysus lleol:
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd a fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Tudor Street tua'r gorllewin.
Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.