Caiff cynigion ar gyfer agor mynwent newydd yng ngogledd y ddinas a allai gynnig ateb hirdymor i'r diffyg mannau claddu yng Nghaerdydd yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor ddydd Iau 15 Mawrth.
Os rhoddir caniatâd cynllunio ac os cytuna Cabinet y Cyngor, gallai'r safle mynwent 12.5 erw gynnig man claddu mawr ei angen ar gyfer y 35-40 blynedd nesaf.
Mae'r tir, sydd eisoes yn eiddo i'r Cyngor ac ar brydles fel ffermdir ar hyn o bryd, tua'r gogledd o'r M4, ar yr A469. Byddai'r safle newydd lai na 650 metr o fynwent Draenen Pen-y-graig a gallai gynnig cyfres o fuddiannau posibl, yn cynnwys y canlynol:
- Gallu parhau i reoli'r safle o safle presennol Draenen Pen-y-graig;
- O ganlyniad, ni fydd y costau gweithredu'n sylweddol uwch;
- Ni fyddai costau'n codi o adeiladu cyfleusterau a swyddfeydd;
- Gallai'r safle newydd gynnig nifer o ddewisiadau claddu yn cynnwys adran benodol ar gyfer claddu naturiol.
Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gynnig cyfleusterau claddu i'n preswylwyr yn y tymor byr a'r hirdymor.
"Mae twf Caerdydd yn golygu ei bod yn hanfodol canfod ac adeiladu safle newydd i ateb anghenion y ddinas. Gallai'r safle a gynigir roi ateb cost-effeithiol, yn defnyddio adnoddau sydd eisoes ym Mynwent Draenen Pen-y-graig ac a reolir i'r un safonau uchel."
Mae Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd yn claddu cyfartaledd o 1,350 gwaith y flwyddyn ac mae tua 700 cynhebrwng yn digwydd ym Mynwent Draenen Pen-y-graig, yn cynnwys 200 bedd newydd bob blwyddyn. Agorwyd y safle ym 1952 a'i ehangu yn 2010 ac mae'n estyn dros 45 erw. Nid yw'n bosibl estyn Mynwent Draenen Pen-y-graig ymhellach oherwydd ei ffiniau â thai preswyl a ffyrdd.
Ystyriwyd nifer o safleoedd sy'n ateb y meini prawf gan y swyddogion a fu'n gwneud gwaith ymchwil er mwyn dod o hyd i dir addas. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ddod o hyd i safle yn nwyrain y ddinas.
Mae'r cynigion yn cynnwys datblygu un rhan o bump o'r safle newydd fel ardal gladdu naturiol/coetir a fyddai'n effeithio'n gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol ac yn annog planhigion a bywyd gwyllt cynhenid yn ffynnu.