The essential journalist news source
Back
2.
March
2018.
Datganiad Cyngor Caerdydd - Cyngor diogelwch y cyhoedd (cyhoeddwyd 9.30am, dydd Gwener Mawrth 2)

O ganlyniad i amodau tywydd gwael, byddem yn annog pobl i beidio â mentro allan oni bai bod eu siwrnai yn gwbl hanfodol. 

Er bod Rhybudd Coch y Swyddfa Dywydd wedi dod i ben, mae Rhybudd Melyn am rew yn parhau i fod yn weithredol nes 9am bore fory (dydd Sadwrn), a rhagwelir y bydd eira yn disgyn drwy'r dydd.  

Mae criwiau'r Cyngor wedi bod yn gweithio bob awr o'r dydd yn brwydro yn erbyn eira trwm, glaw rhewllyd a thir wedi rhewi er mwyn ceisio sicrhau bod y lonydd yn glir. 

Aethpwyd ati i symud eira oddi ar y prif lwybrau aredig rhwng 1am a 4am. 

Er gwaethaf hyn, mae gyrwyr yn wynebu amodau gyrru hynod anodd y bore yma ac mae'r rhwydwaith trafnidiaeth wedi'i effeithio'n sylweddol. 

Mae'n debygol y bydd gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg llai o wasanaethau heddiw, felly fe'ch cynghorir i wirio cyn teithio. 

Bydd ein timoedd grutio ac aredig eira wrthi eto heddiw, gan ganolbwyntio ar brif lwybrau strategol a seilwaith allweddol, gan gynnwys Ysbyty'r Waun.

Mae fflyd 4x4 y cyngor yn cefnogi gwasanaethau i fodloni anghenion y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed. 

Rhoddir diweddariadau tywydd drwy Twitter ac ar-lein yn  https://www.newyddioncaerdydd.co.ukwww.caerdydd.gov.uk/tywyddgaeafol
 

Mae llinellau ffôn brys ar waith.