1) Pam mae Caerdydd yn defnyddio goleuadau LED i oleuo strydoedd?
Mae buddion sylweddol i ddefnyddio Goleuadau LED. Maen nhw'n effeithlon iawn yn trosi ynni'n olau. Felly rydych chi'n cael yr un safon o olau am gost lai o lawer. Mae hefyd ostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon o oleuadau LED. Yng Nghaerdydd amcangyfrifir ei fod cymaint â 45%. Bydd hyn yn arbed £800,000 mewn costau ynni yn 2016/17. Dros gyfnod o 20 mlynedd, sef oes y system LED, mae hwn gyfwerth ag £16m.
2) Lle mae'r goleuadau LED wedi'u gosod?
Disodlwyd 13,600 o oleuadau ar brif lwybrau trafnidiaeth y ddinas. (Prif Lwybrau). Rydym wrthi'n treialu goleuadau LED yn Radur.
3) Heblaw am yr arbediad ariannol, beth yw buddion eraill y cynllun?
Mae'r goleuadau newydd yn goleuo strydoedd yn well, gan ddangos rhwystrau i gerddwyr a beicwyr yn gliriach, lleihau'r potensial ar gyfer trsoedd ar y stryd a gwneud llwybrau i'n hysgolion yn ddiogelach pan fo boreau a phrynhawniau'n dywyll.
O ran lleihau troseddau, cynhaliwyd wyth astudiaeth wahanol a chanfuwyd bod goleuadau stryd gwell - naill ai drwy fod yn oleuach neu osod mwy o oleuadau - yn lleihau trosedd gan 7% ar gyfartaledd. Gyda gwelededd gwell, mae troseddwyr posibl yn amlycach ac yn llai tebygol o droseddu.
4) Yn Lloegr cafwyd nifer o gwynion bod y goleuadau LED yn rhy llachar ac yn dallu gyrwyr. Beth fydd yn wahanol yng Nghaerdydd?
Rydym yn defnyddio manyleb wahanol, sy'n rhoi golau gwyn cynhesach ac nid golau glaslawn. Mesurir hyn mewn Kelvinau (K). Gall manyleb goleuadau LED amrywiol o 2200K i 5500K. Er bod y golau LED disgleiriach (golau glaslawn) yn fwy effeithlon, mae Caerdydd yn ymrwymo i daro cydbwysedd rhwng cael goleuadau da i drigolion a'r arbedion cost ac allyriadau carbon. O ystyried hyn rydym wedi dewis goleuadau LED 3000K.
O ran yr honiadau ar ddallu gyrwyr, un o'r prif ffactorau yw gosod y goleuadau'n gywir yn y golofn oleuadau. Bydd y golau gwyn cynnes y byddwn yn ei ddefnyddio yng Nghaerdydd yn atal hyn ac yn braf o fewn y safon Brydeinig gyfresol - (BS EN 13201-2:2003)
5) A gafwyd ymgynghoriad a phrofion ar y mathau gwahanol o oleuadau LED yng Nghaerdydd?
Do. Cafwyd ymgynghoriad trylwyr â'r partïon â diddordeb ac ymgyrchwyr ym mis Tachwedd 2015. Cynhaliodd y Cyngor nifer o brofion yn yr ardal y tu ôl i Neuadd y Ddinas drwy brofi wyth math gwahanol o lusern gan weithgynhyrchwyr, heb gost i'r cyngor, a phob un yn 3000 Kelvin. Yna dewiswyd y cynnyrch LED mwyaf addas a chost-effeithiol i oleuadau stryd Caerdydd.
6) Mae pryderon gan ymgyrchwyr iechyd, yn arbennig Simon Nicholas, yn honni y gall goleuadau LED effeithio ar batrymau cysgu pobl. Ydy hyn yn wir?
Gall y golau glaslawn mwyaf effeithiol (dros 4500 Kelvin) effeithio ar batrymau iechyd ond nid yw Caerdydd yn defnyddio'r golau hwn. Rydym yn defnyddio golau gwyn cynnes (3000 kelvin) ac mae nifer o randdeiliaid wedi cymeradwyo'r fanyleb hon gan gynnwys Simon Nicholas, o'r Gymdeithas Ryngwladol Awyr Dywyll a Chymdeithas Seryddol Caerdydd.
7) Mae amgylcheddwyr yn honni y gall y golau gwyn disgleiriach effeithio ar adar a bywyd gwyllt arall. Ydy hyn yn wir?
Mae unrhyw olau yn ystod y nos yn effeithio ar adar a bywyd gwyllt arall, ac mae hyn yn fwy o broblem mewn dinasoedd, oherwydd faint o olau sydd yno. Fel y nodir uchod, mae Caerdydd yn defnyddio golau gwyn cynnes (3000 Kelvin) sy'n llawer llai problemus na'r golau glaslawn (5000 Kelvin a mwy)
8) A gaiff y goleuadau eu pylu'n ystod y nos?
Mae modd rheoli'r goleuadau LED o bell ar gyfrifiadur. Caiff y goleuadau sydd eisoes wedi'u gosod yng Nghaerdydd eu pylu rhwng hanner nos a 6am. Bwriadwn bylu'r goleuadau LED newydd fydd yn cael eu gosod ar y rhwydwaith priffyrdd yn yr un modd. Mae'r System Fonitro Ganolog yn ein galluogi i godi a lleihau disgleirdeb y golau'n ôl yr angen.
9) A fydd hi'n haws cynnal a chadw goleuadau stryd â'r system goleuadau LED newydd?
Bydd. Mae'r goleuadau LED newydd yn llawer mwy datblygedig a byddant yn rhoi llawer mwy o reolaeth i ni dros y golau stryd. Er enghraifft, pe bai damwain yn digwydd, gallem gynyddu'r golau i helpu'r gwasanaethau brys. Gall y goleuadau eu hunain roi gwybod am unrhyw ddiffygion neu broblemau i gyfrifiadur canolog. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fod yn llawer mwy effeithlon wrth eu trwsio.
10)A oes cynlluniau i gyflwyno goleuadau LED i ardaloedd preswyl eraill?
Mae'r peilot yn Radur yn cynnwys 1250 o oleuadau LED a dylid eu gosod erbyn Mawrth 2018 ac yna caiff y cynllun peilot ei adolygu dros gyfnod chwe mis. Bydd y cyfnod adolygu hwn yn cynnwys ymgynghoriad gyda'r gymuned ac arbenigwyr yn y maes hwn er mwyn ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu bryderon. Mae'r Cyngor yn bwriadu datblygu achos busnes er mwyn cyflwyno goleuadau LED i bob ardal breswyl a fyddai'n golygu 22750 o oleuadau ychwanegol. Byddai'r penderfyniad i gyflwyno i ardaloedd preswyl yn cael ei wneud gan Gabinet Cyngor Caerdydd ar ôl i'r achos busnes gael ei gwblhau.